Gwarchod Cymdeithasol
Cyngor Sir Ddinbych
64 Ffordd Brighton
Y Rhyl
Sir Ddinbych
LL18 3HP
Teleffon:
01824 708368
Ffacs:
01824 712349
Mae 'Sir Ddinbych Iach', ail Strategaeth Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Lles ar gyfer y Sir gyfan yn awr ar gael ar-lein.
Datblygwyd y strategaeth gan Bartneriaeth Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Lles Sir Ddinbych ac mae’n amlinellu’r cynlluniau ar gyfer y 3 blynedd nesaf, o 2008-2011. Y nodau yw gwella iechyd a lles ar gyfer pobl Sir Ddinbych, ond mae 'Sir Ddinbych Iach' yn ymwneud ā mwy na dim ond y gwasanaethau y gallem fod eu hangen pan fyddwn yn sāl – mae hefyd yn ymwneud ā’r hyn y gallwn ei wneud i’n cadw’n hunain yn iach.
Mae’r polisi’n gosod allan ddull strategol i helpu i gyflawni gwasanaethau gwell i’r rheiny sydd eu hangen ac i gynorthwyo unigolion a chymunedau i wella eu hiechyd a’u lles eu hunain.
Pwrpas Cyffredin Craidd y Tīm Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Lles yw:
“Mae’r Tīm IGCLl yn cefnogi Partneriaid i gynllunio gyda’i gilydd fel y gallant gyflawni gyda’i gilydd, gan y credwn mai mewn Partneriaeth y mae’r ffordd orau o gyflawni gwasanaethau arloesol o ansawdd”.
Os ydych yn dymuno manylion cyswllt llawn y tīm Strategaeth Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Lles (HSCWB) cerwch i wefan Sir Ddinbych Iach yn y dolenni allanol.
I gael gwybodaeth ar ein Partneriaid, cliciwch ar y dolenni allanol ar yr ochr chwith.



