Pwrpas y Ddeddf Gwarchod Data yw sicrhau fod gwybodaeth ynglyn âg unigolion byw yn cael ei rheoli yn gyfrifol.
Mae'r Ddeddf hefyd yn rhoi hawl i unigolion gweld gwybodaeth a bosib a ddelir amdanynt, am cost fechan. Fodd bynnag, nid yw'r Ddeddf yn rhoi hawl i chi gweld gwybodaeth a ddelir ynglyn ac unigolion eraill. Mae'n ofynnol i Cyngor Sir Ddinbych rheoli a storio eich gwybodaeth yn gyfrifol a delio ag unrhyw cais am wybodaeth personol o fewn 40 diwrnod.
Mae'r Cyngor yn delio a ceisiadau am wybodaeth personol gan:
Unigolion sydd yn meddwl fod y Cyngor yn dal gwybodaeth amdanynt.
Aelodau staff.
Aelodau staff sydd wedi gadael y Cyngor.
Cyfreithwyr yn gweithredu ar ran unigolyn.
Rhieni yn gweithredu ar ran plentyn.
Am wybodaethychwanegol ar y Ddeddf Diogelu Data ei hun, ewch i dudalennau gwefan y Ddeddf Diogelu Data.
I wneud cais am eich gwybodaeth bersonol chi, llenwch y Ffurflen Gais am Gyrchiad i Wybodaeth.


Rhoi adborth ar y tudalen hon