| Hygyrchedd |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
Gweithiwr Cymdeithasol Gyda Thîm Lleoli Teuluoedd

Janet, Gweithiwr Cymdeithasol gyda Thîm Lleoli Teuluoedd Sir Ddinbych

Rydw i yn un o’r rhai a adwaenir yn anffurfiol fel Gweithiwr Cymdeithasol sydd â gwreiddiau lleol gan ’mod i wedi gweithio fy ffordd trwy amryw o swyddi ac wedi derbyn hyfforddiant er mwyn dod yn Weithiwr Cymdeithasol cymwysedig. Dechreuais ar fy ngyrfa gyda Sir Ddinbych fel Gofalwr Cartref Cynorthwyol, ac ers hynny rwyf wedi symud ymlaen trwy gyfres o secondiadau fel Goruchwyliwr Gofal Cartref ac yna fel Cynorthwywr Gwaith Cymdeithasol, a thrwy amryw o swyddi [gan gynnwys swyddi mewn ysbyty a chartref preswyl] nes i mi yn y diwedd dderbyn swydd fel Gweithiwr Cymdeithasol dan hyfforddiant a mynychu coleg lleol i gwblhau fy ngradd mewn Gwaith Cymdeithasol.

Manteisio ar y cyfle wnes i wrth ddod i weithio i Sir Ddinbych.  Roeddwn i wedi bod yn gweithio yn y sector annibynnol, ac wedi dod i wybod am fanteision gweithio i Awdurdod Lleol trwy siarad gyda rhywun oedd yn gyflogedig gan Sir Ddinbych.

Ar hyn o bryd rwyf yn gweithio gyda’r Tîm Lleoli Teuluoedd,  wedi i mi symud trosodd i’r Gwasanaethau Plant o Dîm Sir Ddinbych i Bobl Hŷn [Gogledd]. Mae fy rôl yn golygu asesu pobl sy’n arfaethu mabwysiadu, cyfarfod rhieni newydd a darparu cefnogaeth. Byddaf hefyd yn mynychu cyfarfodydd paneli a sesiynau yn y Llys.  Gydag oedolion y bûm i’n gweithio gan fwyaf cyn hyn, ac felly golygodd y symudiad trosodd i’r Gwasanaethau Plant bod angen i mi ddysgu  llawer o bethau o’r newydd.  Rydw i’n sylweddoli bod llawer o sialensiau a chyfleoedd newydd i’w cael wrth weithio gyda phlant, ac mae’r gwaith yn amrywiol a diddorol.

Mae Sir Ddinbych wedi bod yn gefnogol iawn o safbwynt fy natblygiad personol ac rwyf wedi llwyddo i gwblhau NVQ Lefelau 2 a 4, Diploma mewn Gwaith Cymdeithasol a hyfforddiant D32 fel bod modd i mi roi hyfforddiant i eraill.

Yn sicr, rydw i’n teimlo bod fy rôl wedi datblygu ers i mi ddod i weithio i Wasanaethau Cymdeithasol Sir Ddinbych, nid yn unig yn sgil datblygiad y galwadau o du cymdeithas, ond hefyd oherwydd y newidiadau a welwyd mewn polisïau a gweithdrefnau. Ar lefel leol, teimlaf fod fy rôl wedi newid mewn modd arwyddocaol, yn enwedig o safbwynt fy ngrŵp clientau.

Ar hyn o bryd, mae’r hinsawdd fel pe bai’n un o newid parhaus, a gall hyn arwain at amgylchedd gwaith symbylus. Serch hynny, nid yw bob amser yn un cadarnhaol; gobeithiaf y bydd trefniadau Sir Ddinbych i recriwtio a chadw staff yn sicrhau y gwêl Gwasanaethau Cymdeithasol i Sir gyfnod o gydbwysedd a thyfiant.

  Level Double-A conformance icon, W3C-WAI Web Content Accessibility Guidelines 1.0