| Hygyrchedd |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
Social Worker - Hospital Social Work Team

Sarah, Gweithiwr Cymdeithasol gyda Thîm Gwaith Cymdeithasol Ysbytai Sir Ddinbych

Penderfynais ddilyn gyrfa mewn Gwaith Cymdeithasol wedi i mi gwblhau gradd mewn Seicoleg yn UDA, lle cefais i fy magu.  Roeddwn i wedi treulio trydedd flwyddyn y cwrs 4- blynedd ym Mhrifysgol Durham, ac yno'r cyfarfyddais i â’m gŵr.  Roedd fy mhenderfyniad i fynd i faes Gwaith Cymdeithasol yn seiliedig ar awgrymiadau gan fy rhieni [roedd fy mam yn weithiwr cymdeithasol] ac ar y ffaith fod Gwaith Cymdeithasol yn faes oedd yn perthnasu’n dda i’m gradd.

Symudais i Ogledd Cymru gyda’m gŵr ym Medi 2004, gan gysylltu yn gyntaf gyda’r siroedd cyfagos, i’r Gorllewin o Sir Ddinbych, gan holi am swyddi Gweithwyr Cymdeithasol.  Deuthum i sylweddoli yn fuan iawn, gan nad oeddwn yn gallu siarad Cymraeg, y byddai’n rhaid i mi ystyried sir a fyddai’n fodlon rhoi cyfle i mi ddysgu’r Gymraeg yn fy ngwaith, a chefais gynnig o’r fath gan Sir Ddinbych.  Hyd yma ,rwyf wedi mynychu mwy na 60 awr o wersi Cymraeg!

Mae Sir Ddinbych wedi bod 100% o gefnogol o safbwynt hyfforddiant. Cefais hawl i gael amser i ffwrdd o’m gwaith er mwyn i mi fedru mynychu cyrsiau a chael hyfforddiant ychwanegol. Yr haf diwethaf, llwyddais i ennill cymhwyster PQ1. Yr wyf ar fin casglu portffolio fel y gallaf fynd ymlaen i fod yn Athro Ymarfer.

Yn fy swydd fel Gweithiwr Cymdeithasol yn Ysbyty Glan Clwyd , rwyf yn hyrwyddo’r Cynllun Rhyddhau o’r Ysbyty, lle mae cefnogaeth yn cael ei darparu i ddefnyddwyr y gwasanaeth pan fyddant yn gadael yr ysbyty. Mae’r gefnogaeth hon ar ffurf gofal personol, darparu prydau a gwasanaeth glanhau.  Rwyf yn gweithio ar sail meini prawf cymhwyster, sy’n golygu bod rhaid i ddefnyddwyr y gwasanaeth fod ag anghenion dwys neu sylweddol cyn y gallant dderbyn darpariaeth gofal. Rwyf hefyd yn darparu cefnogaeth i bobl ddigartref, lle mae angen mewnbwn sylweddol; mae’r defnyddwyr y gwasanaeth hwn yn gofyn am hyrwyddwr i wneud apwyntiad iddynt gyda Shelter a’u helpu i gwblhau ceisiadau i’r Prosiect Touchstone.  Mae fy achosion eraill yn cynnwys achosion iechyd meddwl cymhleth ac asesiadau, a threfnu lleoliadau i ddefnyddwyr y gwasanaeth.

Hyrwyddwyr a chynorthwywyr yw Gweithwyr Cymdeithasol ; mae boddhad sylweddol i’w gael o feddwl bod un o ddefnyddwyr y gwasanaeth wedi medru dychwelyd i’w gartref gyda chefnogaeth.  Rwyf wedi cael llawer o foddhad wrth weithio yn yr ysbyty gan fod cynifer o gyfleoedd dysgu amrywiol ar gael i Weithwyr Cymdeithasol.  Does dim dau ddiwrnod yr un fath yma, ac yn sicr, dydi’r gwaith byth yn ddiflas!

  Level Double-A conformance icon, W3C-WAI Web Content Accessibility Guidelines 1.0