Taliadau Uniongyrchol
Mae taliadau uniongyrchol yn daliadau a wneir gan y Gwasanaethau Cymdeithasol i helpu talu am y gwasanaethau yr aseswyd y mae'r plentyn eu hangen. Gall rhieni a gofalwyr benderfynu sut bydd anghenion y plentyn yn cael eu diwallu, gan bwy ac ar amser sy'n addas i'r plentyn.
Gellir defnyddio taliadau uniongyrchol i brynu ystod gyfan o wasanaethau, megis:
- Cefnogaeth bersonol;
- Gofal seibiant neu egwyl fer;
- Offer;
- Mynd i weithgareddau cymdeithasol;
- Help gyda’ch cyfrifoldebau fel gofalydd.
Gall y tîm roddi cyngor a chefnogaeth i chi ar sut i ddefnyddio'r taliadau uniongyrchol a bydd yn ymgymryd ag arolygon rheolaidd i sicrhau bod taliadau uniongyrchol yn diwallu anghenion y plentyn.
Mae'r tîm hefyd yn gweithio gyda gwasanaeth cefnogi taliadau uniongyrchol annibynnol. Mae gan y gwasanaeth cefnogi gynghorwyr taliadau uniongyrchol i helpu a chefnogi gyda phob agwedd o daliadau uniongyrchol.


Rhoi adborth ar y tudalen hon