Gweithio gydag asiantaethau eraill
Gweithio gydag asiantaethau eraill
Wrth ddarparu gwasanaethau i blant gydag anabledd a'u teuluoedd, mae'n bwysig bod y Gwasanaethau Cymdeithasol yn gweithio'n agos gydag asiantaethau eraill megis iechyd, addysg a'r sector gwirfoddol. Nodir isod rai manylion y gwasanaethau sydd ar gael gan yr asiantaethau hyn.
- Iechyd - Cyflwynir gwasanaethau iechyd gan wasanaethau paediatreg cymunedol a llym, sy'n cynnwys: gwasanaethau nyrsio arbenigol, ffisiotherapyddion, therapyddion galwedigaethol, therapyddion iaith a lleferydd, seicolegwyr plant, seiciatryddion plant a phaediatryddion ymgynghorol. Mae pob rhiant yn cael cynnig rhaglen helaeth o Hyrwyddiad Iechyd ar gyfer eu plant ac maent yn cael eu hannog i ddefnyddio Cofnodion a Gedwir gan y Rhieni i fonitro iechyd a lles eu plentyn. Ar ôl ymgynghoriad gyda'r meddyg teulu neu'r ymwelydd iechyd, mae unrhyw bryderon datblygiadol yn cael eu cyfeirio i Glinigau Asesiad Lleol neu'n uniongyrchol i'r Ganolfan Datblygiad Plant. Pan fydd plant ag anghenion arbennig yn cyrraedd oedran ysgol, mae paediatrydd cymunedol yr ysgol yn gweithio gyda'r rhieni a staff proffesiynol arall i sicrhau bod anghenion y plentyn yn cael eu hadnabod a'u trin yn briodol.
- Cyfle: Gwasanaethau i blant ag anabledd - Mae'r project hwn yn bartneriaeth gyda Barnardos Cymru ac awdurdodau lleol Sir Ddinbych a Chonwy. Nod y project yw sicrhau bod plant gydag anabledd yn cael yr un cyfle ag eraill, i hybu hawliau plant ag anabledd a'u helpu chwarae rhan yn y gymuned. Enghreifftiau o'r gwasanaethau a ddarperir gan y project yw gweithgareddau chwarae a hamdden i blant gydag anabledd yn Sir Ddinbych, sy'n arbennig o ddefnyddiol i deuluoedd yn ystod gwyliau ysgol. Am wybodaeth bellach ar y gwasanaethau a ddarperir gan Barnardos, cysylltwch â hwy ar 01745 817216.
- Canolfan y Plant, Vicarage Lane,Rhuddlan, Ffôn: 01745 591405 - Mae'r cyfleusterau amlddisgyblaethol hyn yn darparu asesiad cyn ysgol a therapi i blant sydd ag anghenion arbennig (anallu corfforol, anabledd dysgu, anhwylder synhwyrol, anawsterau emosiynol ac ymddygiad, aml-anabledd neu salwch cronig difrifol a all arwain at anabledd). Gwasanaeth Cynghori yn y Cartref. Mae Gwasanaethau Cefnogi a Gwasanaethau Nyrs Gymunedol ar gael yn benodol i blant gydag anabledd dysgu. Mae Gwasanaeth Awdioleg Cymunedol a arweinir gan feddyg ymgynghorol yn darparu asesiadau clywed i holl blant gydag anabledd, gyda chysylltiad agos â'r gwasanaethau ENT ac awdioleg yn yr ysbytai. Cyfarwyddiaeth Addysg, Diwylliant a Gwybodaeth Cyngor Sir Ddinbych. Cred y cyngor bod gan holl blant hawl i addysg berthnasol a gwerth chweil, wedi ei chynllunio i alluogi i ddisgyblion unigol chwarae rhan lawn mewn cymdeithas a chyfrannu i a chael budd o gymdeithas. Mae anghenion addysg arbennig a chamau i ddiwallu'r anghenion hynny yn cael eu nodi trwy gyfrwng asesiad cynhwysfawr a phroses gynllunio, gan gynnwys asesiad ffurfiol dan Ddeddf Addysg 1996.
- Gwasanaethau Llyfrgell a Gwybodaeth - Mae llawer o wasanaethau prif ffrwd presennol yn ddefnyddiol ac yn hygyrch i blant ag anabledd:
- ffuglen print mawr;
- llyfrau ar dâp;
- casetiau a fideos;
- aml-gyfrwng – cyfleusterau CD Rom;
- ystod eang o ffynonellau a gwasanaethau gwybodaeth
- Sector gwirfoddol - Mae cyrff gwirfoddol wedi chwarae rhan bwysig o ran darparu gwasanaethau cefnogi ac adfocatiaeth i deuluoedd gyda phlant anabl. Mae rhestr gynhwysfawr o gyrff lleol a chenedlaethol ar gael gan Gyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Ddinbych a'r Gwasanaeth Llyfrgell a Gwybodaeth.


Rhoi adborth ar y tudalen hon