Gwarchod Plant
Sut mae'r Gwasanaethau Cymdeithasol yn helpu cadw plant yn ddiogel? – Canllaw i Oedolion
Beth yw camdriniaeth plant?
Mae gennym ddyletswydd i amddiffyn plant a rhaid gwneud ymholiadau pan honnir unrhyw fath o gamdriniaeth. Gall camdriniaeth ddigwydd ar lawer ffurf, gan gynnwys esgeulustra, achosi niwed corfforol, rhywiol neu emosiynol, a methu â chymryd camau i rwystro niwed. Gall plentyn gael ei niweidio gan rywun y mae'n ei nabod, neu - yn llai aml - gan ddieithryn.
Mae Gweithdrefnau Amddiffyn Plant Cymru Gyfan yn diffinio'r categorïau camdriniaeth canlynol:
- Camdriniaeth gorfforol - Gall gynnwys taro, ysgwyd, llosgi neu sgaldio, gwenwyno yn fwriadol, mygu, neu anafu plentyn yn gorfforol mewn unrhyw ffordd arall;
- Camdriniaeth emosiynol - Gall olygu dweud wrth blentyn ei fod yn ddi-werth, neu nad oes neb yn ei garu, ei fychanu, achosi iddo deimlo’n ofnus neu ofyn iddo wneud rhywbeth nad yw'n rhesymol o ystyried ei oedran;
- Camdriniaeth rywiol - Gall gynnwys annog neu hyd yn oed orfodi plentyn i chwarae rhan mewn gweithredoedd rhywiol amhriodol. Gall hyn gynnwys cysylltiad corfforol neu ddangos deunydd pornograffig i blentyn;
- Esgeulustra - Gall olygu peidio â darparu digon o fwyd, cynhesrwydd, diogelwch, sylw meddygol, addysg neu ysgogiad meddyliol.

Rhoi adborth ar y tudalen hon