| Hygyrchedd | Tudalennau Lleferydd |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
Beth yw amddiffyn plant?

Beth yw amddiffyn plant?

Os bydd y Gwasanaethau Cymdeithasol ac asiantaethau eraill sy'n gweithio gyda phlant yn poeni digon am blentyn, efallai y bydd y plentyn yn dod yn destun ymchwiliad amddiffyn plant. Os yw'r ymholiad yn cadarnhau ein pryderon, bydd ymchwiliad yn cychwyn i weld os yw'r plentyn angen ei amddiffyn.

Mae ymholiad amddiffyn plentyn yn golygu bod gennym ddyletswydd i wneud ymholiadau pan fydd rhywun yn dweud wrthym eu bod yn poeni am blentyn neu berson ifanc, ac archwilio os oes angen. Rydym weithiau'n ymgymryd ag ymchwiliad ar y cyd gyda'r heddlu. Yn ystod yr ymchwiliadau hyn rydym yn holi pobl sy'n adnabod y teulu (megis eu hymwelydd iechyd athrawon neu feddygon) ynglŷn â'r plentyn a'r teulu.

Efallai y bydd angen i weithiwr cymdeithasol neu heddwas amddiffyn plant ymweld â chartref y rhieni neu'r gofalwyr. Caiff gweithwyr cymdeithasol ymweld heb apwyntiad ac os felly rhaid iddynt:

  • Ddarparu prawf o bwy ydynt;
  • Esbonio pam eu bod yn ymweld;
  • Trafod pryderon gyda'r rhieni neu'r gofalwyr a gofyn am eu barn hwy;
  • Trefnu i gael gweld y plentyn;
  • Asesu unrhyw berygl uniongyrchol i'r plentyn.

Ar ôl yr ymchwiliad, efallai nad oes rheswm am unrhyw bryder pellach. Os mai dyma'r sefyllfa, hysbysir y teulu cyn gynted ag y bo modd.

  Level Double-A conformance icon, W3C-WAI Web Content Accessibility Guidelines 1.0