Beth yw cynhadledd amddiffyn plentyn?
Mae cynhadledd amddiffyn plentyn yn gyfarfod a gynhelir i drafod a chofnodi holl bryderon ynglŷn â phlentyn neu blant. Amcanion y cyfarfod yw:
- Ystyried os yw plentyn wedi ei niweidio neu mewn perygl o gael ei niweidio a natur y pryderon ynglŷn â'r plentyn;
- Asesu graddfa'r risg i iechyd a lles y plentyn, ac a oes angen amddiffyn y plentyn;
- Penderfynu a ddylid dodi enw'r plentyn ar y gofrestr amddiffyn plant;
- Gwneud argymhellion ynglŷn ag unrhyw gamau pellach sydd eu hangen i helpu'r plentyn
Pwy fydd yn y gynhadledd?
Mae rhieni a phobl o asiantaethau sy'n adnabod y teulu bob amser yn cael eu gwahodd i'r gynhadledd, er enghraifft, ymwelydd iechyd, athrawon ysgol, meddyg neu weithiwr cymdeithasol. Caiff y cyfarfod ei arwain gan rywun nad yw wedi chwarae rhan yn yr achos neu'r ymholiadau hyd yma. Byddant yn sicrhau bod pawb yn cael cyfle i leisio barn. Byddwn yn gwahodd y plentyn dan sylw os yw hyn yn briodol. Rydym yn sylweddoli y gall fod yn anodd iawn i rieni neu ofalwyr ddod i'r cyfarfod - gall fod yn ddefnyddiol dod â phartner, cyfreithiwr neu gyfaill a fedr roddi cefnogaeth. Os bydd cyfreithiwr yn dod, bydd angen iddynt nodi nad yw'r gynhadledd yn wrandawiad ffurfiol. Nid oes yn rhaid i rieni a gofalwyr ddod i'r gynhadledd, ond mae eu barn hwy yn bwysig iawn os yw'r cyfarfod i ddod i'r casgliadau cywir. Os nad ydynt yn dod i'r gynhadledd, medrent gyflwyno sylwadau ar bapur.
Byddwn yn gwrando ar farn a dymuniadau'r plant, os ydynt eisiau dod i'r gynhadledd neu gyflwyno eu barn a'u teimladau ar yr hyn sy'n digwydd mewn rhyw ffordd arall.
Cyfrinachedd
Rhaid i holl staff proffesiynol yn y cyfarfod gadw at reolau llym cyfrinachedd. Ni fyddant yn trafod y gynhadledd gydag unrhyw un ac eithrio'r bobl maent yn gweithio â hwy ac sydd angen gwybod. Anfonir nodiadau o'r cyfarfod at y rhieni a'r gofalwyr a phawb a gafodd wahoddiad i fynychu. Cedwir y nodiadau hyn yn gyfrinachol.
Beth sy'n digwydd yn ystod y cyfarfod?
Mae rhieni a gofalwyr yn cyfarfod y cadeirydd cyn y cyfarfod, a darllen unrhyw adroddiadau a baratowyd. Byddwn yn rhoi agenda o'r hyn a fydd yn digwydd yn y cyfarfod i bawb. Gwneir cyflwyniadau ac mae'r rhieni a'r gofalwyr yn clywed yr hyn sydd gan bawb i'w ddweud; maent hefyd yn cael cyfle i ofyn cwestiynau a rhoi eu barn hwy. Bydd rhieni a gofalwyr yn medru dweud wrth y gweithwyr cymdeithasol pa help sydd ei angen arnynt i ofalu am y plentyn.
Beth os yw rhieni a gofalwyr yn anghytuno gyda'r hyn sy'n digwydd yn y cyfarfod?
Os ydynt yn anghytuno gyda phenderfyniadau neu argymhellion mewn cynhadledd amddiffyn plentyn, medrent ofyn i gyfarfod y cadeirydd i drafod eu pryderon. Os nad ydynt yn teimlo y medrent siarad â'r cadeirydd, medrent rannu eu pryderon gyda hwy mewn llythyr.
Beth sy'n digwydd nesaf?
Os ystyrir bod plentyn mewn perygl o gael ei niweidio, byddwn yn llunio cynllun amddiffyn plentyn ac ychwanegu eu henw i'r gofrestr amddiffyn plant.

Rhoi adborth ar y tudalen hon