| Hygyrchedd | Tudalennau Lleferydd |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
Sir Ddinbych
Twristiaeth yn gweithio yn Sir Ddinbych
Llangollen

Nod y daflen wybodaeth hon yw rhoi blas o waith yr Uned Dwristiaeth a’r ffordd mae’n gweithio i gynorthwyo busnesau twristiaeth yn Sir Ddinbych i ddatblygu. Nid yw’n cynnwys y cyfan o’r hyn rydym yn ei wneud, ond gobeithiwn y bydd o ddiddordeb i chi.

Tasg y Cyngor yw hyrwyddo Sir Ddinbych fel cyrchfan gwyliau, p’un ai ar gyfer prif wyliau, gwyliau byrion neu ymweliadau undydd. 

Mae ardal wledig y sir yn ffurfio traean o ardal farchnata Gororau Gogledd Cymru ar y cyd â Sir y Fflint a Wrecsam. Mae’r bartneriaeth hon yn cynhyrchu 140,000 o lyfrynnau ar gyfer yr ardal bob blwyddyn a dyma un o’r 13 o lyfrynnau marchnata ardal benodol a ddefnyddir gan Fwrdd Croeso Cymru yn eu holl ymgyrchoedd aml-gyfrwng.

Mae cost hysbysebu yn y llyfryn yn gystadleuol iawn o’i gymharu â llyfrynnau awdurdodau lleol eraill Cymru. Pan ydych yn gwario ychydig dros £200 ar hysbyseb maint wythfed o dudalen  rydych yn dod yn rhan o’r ymgyrchoedd a’r gweithgareddau a ganlyn, un ai’n uniongyrchol neu’n anuniongyrchol.......

Prif ymgyrch Bwrdd Croeso Cymru, gwerth £1.5 miliwn, sy’n cynnwys ceisiadau rhyngweithiol am lyfrynnau drwy gyfrwng teledu lloeren, gwybodaeth ar-lein, ymgyrchoedd e-bost, ac 1 miliwn o daflenni’n cael eu rhoi drwy flychau llythyrau. Y targed yw ysgogi 200,000 o ymholiadau am wyliau. Fe’i gwnaed yn bosibl i ni gymryd rhan yn hyn drwy gyllid Ewropeaidd Amcan Un, wnaeth ychwanegu at y cyllidebau oedd yn bodoli eisoes. Mae gwybodaeth am Ororau Gogledd Cymru yn ymddangos mewn rhifynnau allweddol o’r Radio Times hefyd, fel rhan o’r ymgyrch hon.
Dosberthir llyfrynnau drwy raglen arddangosfeydd Cymru gyfan (Bwrdd Croeso Cymru ac awdurdodau lleol).Hefyd dosberthir y llyfryn yn Iwerddon, yr Iseldiroedd a Chanada. Cynigiwn gyngor a chymorth i bawb sy’n hysbysebu yn y llyfryn ynghylch cynnwys eu busnes ar wefan visitwales.com y Bwrdd Croeso. Mae hyn yn cynyddu eich gallu i gael sylw yn y farchnad, gyda manylion bwcio hefyd os dymunwch.

Gellir cael copi o’r ddau brif lyfryn o’r Ganolfan Groeso yn Cheshire Oaks a’r arosfan lluniaeth ar y draffordd yng Nghaer, lle mae gennym fan penodol, yn ogystal â’r holl Ganolfannau Croeso yng Nghymru.

Drwy gyfrwng North-West Tourism (Lloegr), anfonir y llyfryn i bob Canolfan Groeso ym Mhrydain, a dosberthir cyflenwadau ychwanegol bob mis yn unol â’r galw.

Yn ychwanegol at y prif lyfryn, rydym wedi cynhyrchu cyfres o 6 o lyfrynnau thema ar wahanol agweddau’r Gororau - Cestyll, Atyniadau, Mannau Cysygredig, Cerdded, Golff a Gweithgareddau Cefn Gwlad.

Yn ychwanegol at y prif lyfryn, rydym wedi cynhyrchu 7 llwybr tref i drefi yn Sir Ddinbych – Rhuthun, Dinbych, Rhuddlan, Llanelwy, Prestatyn a Gallt Melyd, Corwen a Llangollen.

Mae gwefan Gororau Gogledd Cymru yn cael ei hailgynllunio yn llwyr. Un fantais yw’r cyswllt rhwng ein safle a safle Bwrdd Croeso Cymru (www.visitwales.com), er mwyn sicrhau’r amlygwch eithaf ar y brif safle twristiaeth i Gymru.
Lle bynnag y bo modd defnyddiwn arian o’r gyllideb sy’n bodoli eisoes i gyfateb neu ddenu arian ychwanegol er mwyn galluogi cynnal gweithgarwch ychwanegol. Mae’r ffynonellau cyllido yn cynnwys arian Ewropeaidd Amcan Un, Interreg a Phartneriaeth Twristiaeth Gogledd Cymru.

Mae croeso calonog i berchnogion cŵn ymweld â Sir Ddinbych! Dyna’r neges mewn llyfryn newydd a gynhyrchwyd gan Uned Dwristiaeth Cyngor Sir Ddinbych sy’n hyrwyddo’r sir fel cyrchfan ddeniadol i gŵn a’u perchnogion. Mae’r llyfryn 40 tudalen, y bu’n bosibl ei gynhyrchu ar ôl derbyn cyllid Amcan Un, yn cael ei gynnig am ddim, ac mae’n cynnwys adrannau defnyddio ar lety sy’n croesawu cŵn a chyfleusterau i gŵn, yn ogystal â gwybodaeth am lwybrau cerdded yn yr ardal a ddylai sicrhau bod cŵn a’u perchnogion yn mwynhau popeth a gynigir yn Sir Ddinbych.

“Canfu gwaith ymchwil yn y canolfannau croeso fod nifer fawr o’r ymholiadau yn holi beth oedd gennym i’w gynnig i berchnogion cŵn. Felly, yn unol â’n hymrwymiad i ddiwallu anghenion ymwelwyr a thrigolion lleol penderfynasom ymateb i hyn,” meddai’r Cynghorydd Sue Roberts.Gellir cael copi o’r llyfryn o Ganolfannau Croeso, llyfrgelloedd a swyddfeydd Cyngor Sir Ddinbych, neu ffoniwch 01824 708236 i archebu copi neu cliciwch ar y fersiwn pdf isod i weld y llyfryn.

Ymlyniadau
  Level Double-A conformance icon, W3C-WAI Web Content Accessibility Guidelines 1.0