RHEOLAU GWYBODAETH AMGYLCHEDDOL
Pwrpas y Rheolau Gwybodaeth Amgylcheddol yw rhoi hawliau cyffredinol i'r cyhoedd i cael gweld gwybodaeth amgylcheddol.
Mae'r Rheolau yn rhoi hawl cyffredinol i gweld gwybodaeth amgylcheddol a ddelir gan awdurdodau cyhoeddus. O ganlyniad caiff unrhyw unigolyn neu mudiad cysylltu efo Cyngor Sir Ddinbych ar lafar, mewn llythyr
neu e-bost, am wybodaeth amgylcheddol.
Mae'n ofynnol i Cyngor Sir Ddinbych ymateb i unrhyw cais am wybodaeth gydag ymateb cyflawn i chi o fewn 20 diwrnod. Er hyn, fydd achlysuron pan na fydd y wybodaeth yn cael ei ddatgan oherwydd rhai o eithriadau'r Rheolau. Yn ogystal mae'n bosib y fydd yna gost am ymateb i'ch cais am wybodaeth amgylcheddol.
Dyma rhagflas o rai o cwestiynau ynlgyn a'r amgylchedd a dderbyniwyd gan Cyngor Sir Ddinbych ers cyflwyniad y Rheolau newydd yn Ionawr 2005:
Gwybodaeth ar gost trwsio a chynnal a chadw'r traciau yn ardal Llangollen
Manylion pob safle rheoli llygredd awyr lleol.
Gwybodaeth ynglyn a safle claddu sbwriel, gan gynnwys manylion deunydd a dderbyniwyd gan y safle, canlyniadau arolygu, ac os yw'r safle wedi cael ei ail-ddatblygu.
Swm y refeniw a gynhyrchir drwy ganiatau mastiau ffôn symudol ar eiddo'r Cyngor.
Manylion adroddiadau archwiliadau gan Cyngor Sir Ddinbych ynglyn a glanweithdra ceginau ysgolion o fewn y Sir.
Gwybodaeth a geisiwyd o ran iachusrwydd y cyflenwad dwr.


Rhoi adborth ar y tudalen hon