Cynghorion gyrru gofalus yn y gaeaf
Cynghorion gyrru gofalus yn y gaeaf
Dylech yrru’n ddiogel yn unol ag amodau’r tywydd bob amser, p’un ai yw’r ffordd wedi ei graeanu ai peidio.
Eich Cerbyd:
- Cliriwch y rhew a’r eira oddi ar bob ffenestr.
- Peidiwch â chychwyn nes bo’r gwresogydd wedi clirio’r holl wydr mewnol.
- Cadwch chwistrell toddi rhew yn y cerbyd. Stopiwch (mewn man diogel) a’i ddefnyddio os oes angen.
- Rhowch hylif golchi’r ffenestr flaen sy’n gweithio ar dymheredd isel yn y dŵr golchi’r ffenestr flaen.
Eich Taith:
Cychwynwch yn gynharach er mwyn caniatáu ar gyfer:
- Cyflymder arafach.
- Oedi posibl oherwydd damweiniau.
- Y posibilrwydd o un lôn o draffig ar ffyrdd deuol oherwydd eira.
- Gadewch fwlch hirach na’r arfer rhyngoch chi a’r cerbyd o’ch blaen, yn enwedig pan fo rhew neu eira ar y ffyrdd.
- Breciwch a chyflymwch yn fwy ysgafn ar arwynebau gwlyb, rhewllydd neu ag eira arnynt.
- Defnyddiwch eich goleuadau blaen mewn niwl, glaw trwm neu pan fo eira’n disgyn.
- Defnyddiwch eich goleuadau niwl ôl mewn niwl neu pan fo eira’n disgyn OND NID
- MEWN GLAW a diffoddwch y goleuadau yma gynted ag y bo amodau’r tywydd yn caniatáu.
Gwiriwch:
- Fod yr holl oleuadau, yn cynnwys goleuadau troi, yn gweithio ac yn lân.
- Fod gan pob teiar ddyfnder da (yr isafswm cyfreithlon yw 1.6mm) a bod y pwysedd aer ynddynt yn gywir.
- Bod y batri mewn cyflwr da (mae’r rhan fwyaf o achosion o dorri i lawr yn y gaeaf yn deillio o broblem drydanol).
Cynghorion i chi:
- Rhowch ddigon o amser i chi eich hun baratoi eich cerbyd cyn cychwyn ar eich taith.
- Gall gyrru mewn tywydd gwael fod yn flinedig iawn – byddwch yn barod i stopio a gorffwyso yn amlach yn ystod eich taith.
- Gwnewch yn siwr fod gennych chi ddillad ‘tu allan’ gyda chi rhag ofn bod rhaid i chi fynd allan o’ch cerbyd.
- Byddwch yn wyliadwrus am ddefnyddwyr ffyrdd sy’n agored i niwed – rydych chi’n rhannu cyfrifoldeb am eu diogelwch.
Rhowch ddigon o amser a lle i chi eich hun – eich nod yw cyrraedd yn ddiogel – gwireddwch hynny!

Rhoi adborth ar y tudalen hon