I’n helpu i sicrhau ein bod yn cyflwy no gwasanaethau o safon rydym wedi datblygu saith safon graidd a fydd yn mesur sut ydym yn cyflwyno gwasanaethau.
Safon 1. Cwrteisi a Pharch.
Bydd y staff yn trin pawb gyda chwrteisi a pharch.
Safon 2. Cyfrinachedd a Phreifatrwydd.
Bydd pawb yn derbyn gwasanaeth cyfrinachol a bydd eu hawl i breifatrwydd yn cael ei barchu.
Safon 3. Gwybodaeth.
Bydd pawb yn derbyn gwybodaeth lawn a chynhwysfawr sy’n briodol i’r gwasanaeth y maent yn ei dderbyn.
Safon 4. Cyfathrebu.
Dylai pawb ddisgwyl cyfathrebu llawn gyda staff y Gwasanaethau Cymdeithasol.
Safon 5. Cysylltiad a Chyfranogiad.
Rhaid i bawb sy’n derbyn gwasanaethau, a’u gofalwr os oes ganddynt un, fod yn gwbl gyfrannog wrth drafod, cynllunio a gwneud penderfyniadau ynghylch y gwasanaethau a dderbyniant.
Safon 6. Staff.
Bydd pob un o’r staff yn cael eu recriwtio, eu hyfforddi a’u cefnogi’n briodol.
Safon 7. Amseroedd Ymateb.
Bydd pob un o’r staff yn gweithio i’r amseroedd ymateb sy’n briodol i’w gwasanaeth.
Bydd y safonau’n cael eu monitro mewn amryw ffyrdd. Bydd y rhain yn cynnwys: gwirio ffeiliau gan yr Adain Sicrwydd Ansawdd (SA) a Rheolwyr Tîm (RhT); arolygon o bobl sy’n defnyddio gwasanaethau; adroddiadau gan yr Adain Gwybodaeth Rheoli; ond yn fwyaf pwysig - gan y staff yn eu gwaith o ddydd i ddydd.
Mae’r daflen hon yn egluro sut y bydd y safonau craidd hyn yn cael eu cwrdd gan y Tîmau Gwaith Cymdeithasol ar gyfer Pobl Hyn
Safon 1. Cwrteisi a Pharch.
Bydd y staff yn trin pawb gyda chwrteisi a pharch.
1. Bydd pob un o’r staff yn rhoi eu henw, ac enw’r gwasanaeth y maent yn gweithio iddo. Bydd hyn yn berthnasol wrth wneud y cysylltiad cyntaf, mewn sgwrs ar y ffôn, gohebiaeth ysgrifenedig neu mewn cyfarfod.
Monitro: Arolwg defnyddwyr (SA).
2. Bydd pob un o’r staff yn cyfarch cleientiaid yn ôl eu teitl e.e. Mr, Mrs, Dr ayb. , oni bai bod y cleient yn gofyn iddynt beidio.
Monitro: Arolwg defnyddwyr (SA).
3. Bydd pob un o’r staff yn parchu credoau crefyddol a diwylliannol rhywun a bydd y rhain yn cael eu cydnabod pan drefnir gwasanaethau. Yn ogystal, bydd y staff yn parchu y gall rhywun fod eisiau merch neu ddyn i gyflwyno’r gwasanaeth a byddant yn ceisio sicrhau bod yr hyn sydd orau gan rywun yn cael ei gwrdd.
Monitro: Arolwg defnyddwyr (SA).
4. Bydd y staff yn parchu pob cleient fel unigolyn ni waeth be fo eu tarddiad, statws, rhyw, gogwydd rhywiol, credo ac iaith.
Monitro: Arolwg defnyddwyr (SA).
5. Bydd y staff yn gwneud pob ymdrech i sicrhau eu bod yn cyfathrebu’n uniongyrchol â’r sawl sydd i dderbyn y gwasanaeth. Er mwyn gwneud penderfyniadau, bydd hyn yn cynnwys penodi eiriolwr ble mae angen. Bydd y staff yn cymryd barn y gofalwr I ystyriaeth hefyd.
Monitro: Dylai dogfennau asesu adlewyrchu barn pawb sydd a wnelo â’r peth yn gywir. Archwiliad ffeiliau blynyddol (SA).
Safon 2. Cyfrinachedd a Phreifatrwydd.
Dylai pawb dderbyn gwasanaeth cyfrinachol a chael parchu eu hawl i breifatrwydd.
1. Bydd pethau personol yn cael eu trin gyda disgresiwn ac ni fyddant yn cael eu datgelu oni bai bod y gyfraith yn mynnu hynny, neu fod angen i’r Gwasanaethau Cymdeithasol weithredu os oes yna berygl difrifol i les y cleient neu i eraill. Bydd gwybodaeth ond yn cael ei rhannu ar sail ‘yr angen i wybod’ ac fel arfer gyda chaniatâd y sawl sy’n derbyn y gwasanaethau neu ble nad yw caniatâd yn bosibl gyda chaniatâd eu cynrychiolydd. Os na roddir caniatâd yna dylid ymgynghori â Rheolwyr Tîm a chofnodi eu penderfyniadau ar ffeil y cleient
Monitro: Drwy weithdrefnau Sylwadau a Chwynion (Swyddog Cyfathrebu a Chwynion.) ac archwiliad ffeiliau (S.A.)
2. Bydd yr holl wybodaeth a ddelir ar gyfrifiadur yn destun y Ddeddf Gwarchod Data 1998.
Monitro: Diogeliad wedi’i ymgorffori mewn Rhwydweithiau a Care.comm. Cofrestru Care.comm (MIS)
3. Dylai unrhyw un sy’n gwneud cwyn fod yn hyderus y bydd manylion eu cwyn ond yn cael eu datgelu wrth y rheini sydd â chysylltiad uniongyrchol â’r gwyn, neu â’r ymchwiliad iddi.
Monitro: Drwy gloriannu cwynion a dderbyniwyd (Swyddog Cyfathrebu a Chwynion.)
4. Bydd hawl rhywun i breifatrwydd yn cael ei barchu a bydd y staff yn cynnig ystafell breifat os gofynnir am hynny. (Sylwch os gwelwch yn dda efallai na fydd hyn bob amser yn bosibl, yn arbennig mewn ward ysbyty.)
Monitro: Arolwg defnyddwyr (SA).
5. Dylai staff sy’n ymwneud ag asesu a threfnu gwasanaethau ar gyfer cleientiaid fod yn hollol annibynnol ar ddarparwyr gofal. Ble mae unrhyw amheuaeth cyfrifoldeb yr aelod unigol o’r staff yw dod â hynny i sylw eu rheolwr, a fydd yn ystyried camau priodol.
Monitro: Bydd penderfyniadau’n cael eu cofnodi naill ai ar ffeil y cleient neu yn ffeil goruchwyliaeth y staff fel y bo’n briodol (Rheolwyr Tîm) a SA yn cael ei hysbysu drwy Restr Wirio Goruchwyliaeth fel bod modd monitro tueddiadau (SA).
Safon 3. Gwybodaeth.
Dylai pawb dderbyn gwybodaeth lawn a chynhwysfawr sy’n briodol i’r gwasanaeth y maent yn ei dderbyn.
1. Dylai pawb sy’n derbyn asesiad dderbyn copi o:
“Gwasanaethau Cymdeithasol i Oedolion yn Sir Ddinbych Pwy sy’n gallu derbyn gwasanaethau - Pa safonau i’w disgwyl - Sut i wneud sylwadau neu gwyno”
Monitro: Arolwg defnyddwyr ac archwiliad ffeiliau (SA).
2. Dylai unrhyw un sy’n darparu, neu’n bwriadu darparu, gofal rheolaidd a sylweddol dderbyn copi o’r daflen “Help i Ofalwyr” a “Pecyn Gwybodaeth Gofalwyr”.
Monitro: Arolwg defnyddwyr ac archwiliad ffeiliau (SA).
3. Dylai pawb sy’n meddwl am, neu’n bwriadu symud i Gartref Gofal dderbyn copi o “Symud i Gartref Gofal - Arweiniad i bobl yn Sir Ddinbych”
Monitro: Arolwg defnyddwyr ac archwiliad ffeiliau (SA). Yn ogystal, bydd sesiynau goruchwylio gyda staff yn gwirio bod dewisiadau dogfennau wedi’u cofnodi ar y Cynllun Gofal (RhT).
4. Os yw’r derbyn wedi’i gynllunio dylai rhywun a fydd yn symud i Gartref Gofal dderbyn taflen am y Cartref. Y cartref fydd yn ei chyflenwi. Dylai’r daflen hon gynnwys gwybodaeth am unrhyw Grwpiau neu Bwyllgorau Preswylwyr a threfn gwyno’r Cartref ei hun, byddir yn annog Cartrefi I ddarparu’r wybodaeth yma mewn fformatau priodol.
Monitro: Arolwg defnyddwyr (SA).
5. Bydd y staff yn cynnig cyngor a gwybodaeth sylfaenol i gleientiaid ynghylch budd-daliadau lles a ble gallant gael gwybodaeth mwy manwl (h.y. Uned Hawliau Lles.)
Monitro: Archwiliad ffeiliau (SA). Bydd cyfeiriadau i’r Uned Hawliau Lles yn cael eu monitro gan yr Uned Hawliau Lles.
6. Byddir yn rhoi gwybodaeth am y gost debygol am y gwasanaethau. Bydd hyn yn cael ei ddilyn gan Asesiad Ariannol ysgrifenedig o fewn 10 diwrnod i dderbyn gwybodaeth gywir gan ddefnyddiwr y gwasanaeth.
Monitro: Drwy archwilio cofnodion ffeiliau a ddelir gan Swyddogion Asesiad Ariannol ac arolwg defnyddwyr (SA).
7. Bydd copi o’r asesiad yn cael ei gynnig i’r sawl sy’n destun yr asesiad (neu eu cynrychiolydd.)
Monitro: Archwiliad ffeiliau, archwiliad o gronfeydd data cyfrifiadurol ac arolwg defnyddwyr (SA).
8. Os yw rhywun yn dechrau derbyn gwasanaethau dylent ddisgwyl:
copi o’r Cynllun Gofal, a fydd yn rhoi crynodeb o’u hanghenion, sut y mae’r anghenion hynny i’w cwrdd, enw’r gweithiwr cymdeithasol a darparwr y gwasanaeth; dyddiad yr Arolwg nesaf.
Monitro: Archwiliad ffeiliau ac archwiliad o gronfeydd data cyfrifiadurol (SA).
9. Os yw rhywun yn dewis prynu eu gwasanaethau eu hunain yn annibynnol ar y Gwasanaethau Cymdeithasol bydd ganddynt:
yr hawl i gael asesiad wedi’i wneud i benderfynu eu hanghenion;
rhestr o Ddarparwyr Annibynnol Cymeradwy.
Monitro: Archwiliad ffeiliau (SA) a thrwy gwynion a dderbyniwyd (Swyddog Cyfathrebu a Chwynion).
Safon 4. Cyfathrebu.
Dylai pawb ddisgwyl cyfathrebu llawn gyda staff y Gwasanaethau Cymdeithasol.
1. Bydd Cyfarwyddiaeth y Gwasanaethau Cymdeithasol yn amcanu at sicrhau y gall pobl gyfathrebu â’r staff yn yr iaith a ddewisant (ysgrifenedig a llafar), fan leiaf bydd hyn yn cynnwys Cymraeg, Saesneg neu iaith Arwyddion. Gwneir pob ymdrech posibl i gyfathrebu mewn ieithoedd eraill os gofynnir.
Ble mae’n briodol byddwn yn ymdrechu i gyflenwi cyfarpar electronig, e.e. blychau Lleferydd, i’r gwasanaethau derbyn unigol er mwyn sicrhau cyfathrebu llwyddiannus.
Ble mae gan rywun anawsterau darllen, neu nam ar y golwg, bydd gwybodaeth ysgrifenedig yn cael ei chyfathrebu mewn ffordd addas.
Monitro: Bydd systemau cyfrifiadurol y Gwasanaethau Cymdeithasol yn monitro ym mha iaith y gofynnir am y gwasanaeth (MIS). Archwilir ym mha iaith y cyflwynir y gwasanaeth gan yr archwiliad ffeiliau a’r arolwg defnyddwyr (SA). Archwilir addasrwydd y dulliau cyfathrebu gan arolwg defnyddwyr (SA).
2. Bydd y swyddfeydd lleol yn Y Rhyl a Rhuthun ar agor o ddydd Llun tan ddydd Iau rhwng 9.00 am a 5.00 pm ac ar ddydd Gwener rhwng 9.00 am a 4.30 pm. Yn Y Rhyl bydd y swyddfa ar gau i ymwelwyr rhwng 12.30 pm a 1.30 pm.
Monitro: Bydd hapwiriad yn cael ei wneud(SA).
3. Bydd rhywun ar gael fel arfer naill ai o’r Gwasanaethau Cwsmeriaid yn ystod yr oriau agor. Os nad yw hyn yn bosibl bydd rhywun yn cymryd neges neu bydd gwasanaeth ffôn ateb ar gael.
Monitro: Bydd hapwiriad yn cael ei wneud ac arolwg defnyddwyr (SA).
4. Y tu allan i oriau Swyddfa, ac mewn argyfwng, bydd gweithiwr cymdeithasol ar gael o’r Tîm Dyletswydd Argyfwng i siarad â hwy.
Monitro: Dadansoddiad o’r galwadau i’r Tîm Dyletswydd Argyfwng.
5. Os nad yw’r aelod o’r staff y mae defnyddiwr y gwasanaeth yn dymuno siarad ag ef neu hi (e.e. Yn gyfrifol am achos defnyddiwr y gwasanaeth) ar gael, yna dylid cynnig y cyfle iddynt siarad â rhywun arall neu adael neges
Monitro: Archwiliad ffeiliau o negeseuon ar y ffeil ac arolwg defnyddwyr(SA).
6. Byddir yn hysbysu pobl o unrhyw newid yn eu gweithiwr cymdeithasol.
Monitro: Goruchwyliaeth (RhT) ac arolwg defnyddwyr (SA).
Safon 5. Cysylltiad a Chyfranogiad.
Dylai pawb sy’n derbyn gwasanaethau, a’u gofalwyr os yn berthnasol, fod yn gwbl gyfrannog wrth drafod, cynllunio a gwneud penderfyniadau ynghylch y gwasanaethau a dderbyniant.
1. Bydd yr Asesiad a’r Cynllun Gofal yn cael eu rhoi at ei gilydd gyda’r cleient, a’u gofalwr os yn berthnasol. Pan fydd y Cynllun Gofal wedi’i gwblhau bydd yn cael ei egluro’n llawn.
Monitro: Archwiliad ffeiliau - samplu’r Ffurflen Asesu a’r Cynllun Gofal i sicrhau eu bod wedi’u harwyddo (SA) (RhT). Arolwg defnyddwyr (SA).
2. Bydd nifer y bobl sy’n gyfrannog yn yr asesiad yn cael ei gadw cyn ised â phosibl, a bydd y gweithiwr cymdeithasol yn sicrhau mai dim ond pobl berthnasol sy’n gyfrannog. Caiff y cleient fod â ffrind neu berthynas yn gyfrannog i’w cefnogi tra bydd anghenion gofal yn cael eu hasesu.
Monitro: Archwiliad ffeiliau, arolwg defnyddwyr (SA) goruchwyliaeth (RhT) a chwynion a dderbyniwyd (Swyddog Cyfathrebu a Chwynion).
3. Bydd yr unigolyn, a’i ofalwr os yn berthnasol, yn cymryd rhan wrth ddewis gwasanaethau i gwrdd â’r anghenion a aseswyd. Bydd yr hyn sydd orau ganddo yn cael ei barchu ble mae’n bosibl.
Monitro: Archwiliad ffeiliau ac arolwg (SA).
4. Bydd gofalwr y sawl sy’n derbyn y gwasanaethau yn cael cynnig asesiad ar wahân. Os nad yw’r gofalwr eisiau asesiad ar wahân yna dylai hynny gael ei gofnodi a dylid dal i ofyn am farn y gofalwr a’i gofnodi ble mae’n bosibl ar asesiad defnyddiwr y gwasanaeth.
Monitro: Archwiliad ffeiliau (SA) (RhT) Arolwg Defnyddiwr / Gofalwr (SA)
5. Bydd disgwyl y bydd y sawl sy’n defnyddio gwasanaethau a’i ofalwr os yn berthnasol, yn trafod ar y cyd gyda’r gweithiwr cymdeithasol pryd y dylai’r Arolwg nesaf ddigwydd.
Monitro: Archwiliad ffeiliau - samplu ffurflenni Arolwg a Chynlluniau Gofal i sicrhau eu bod wedi’u harwyddo (SA).
Arolwg Defnyddwyr (SA)
6. Byddir yn gwneud pob ymdrech i sicrhau y bydd y gweithiwr cymdeithasol sy’n gyfrifol am ofal rhywun yn aros yr un dros amser.
Monitro: Arolwg defnyddwyr (SA)
7. Byddir yn gwneud pob ymdrech i sicrhau bod gan ddefnyddwyr gwasanaethau berthynas gadarnhaol gyda’u gweithiwr cymdeithasol. Os, am unrhyw reswm, y bydd defnyddiwr y gwasanaeth yn gofyn am newid gweithiwr cymdeithasol bydd y rheolwr llinell yn adolygu’r sefyllfa. Bydd barn defnyddiwr y gwasanaeth yn cael ei chymryd i ystyriaeth. Os na chaiff y gweithiwr cymdeithasol ei newid, bydd rhesymau’n cael eu rhoi paham a byddir yn cymryd camau i geisio sefydlu perthynas gadarnhaol.
Monitro: Drwy Oruchwyliaeth a chwynion a dderbyniwyd (Swyddog Cyfathrebu a Chwynion.)
8. Bydd pobl sy’n defnyddio gwasanaethau a’u gofalwyr yn gyfrannog yn weithredol wrth adolygu’r cynllun gofal.
Monitro: Archwiliad ffeiliau - gwirio bod barn y defnyddiwr a’r gofalwr wedi’u nodi mewn arolygon. (SA)
Safon 6. Staff.
Bydd pob un o'r staff yn cael eu recriutio, eu hyfforddi a'u cefnogi'n briodol.
1. Rhaid i bob un o’r staff fod â cherdyn adnabod cyfredol, wrth ymweld â chleient. Bydd hwnnw’n cael ei ddangos ar yr ymweliad / cyswllt cyntaf ac ar gais ar adegau eraill. Cyn yr ymweliad cyntaf, bydd cyswllt yn cael ei wneud drwy lythyr neu alwad ffôn i drefnu asesiad ac i hysbysu’r unigolyn o enw’r aseswr.
Monitro: Byddir yn cadw cofnodion i weld pwy sydd wedi derbyn cerdyn adnabod. Bydd SA yn gwirio gyda Phersonél fod gan bob un o’r staff gerdyn adnabod cyfredol. Arolwg defnyddwyr (SA).
2. Bydd gan bob un o’r staff sy’n gwneud Asesiadau neu’n llunio Cynlluniau Gofal gymhwyster perthnasol.
Monitro: Cofnodion Personél yn cael eu harchwilio’n flynyddol (Gwasanaethau Archwilio Mewnol). Cofrestru gyda Chyngor Gofal Cymru (Personél)
3. Bydd pob un o’r staff yn y Gwasanaethau Rheoli Gofal yn cael sesiynau goruchwylio rheolaidd, o leiaf pob 6 wythnos, ac arolwg datblygu staff blynyddol gyda’u rheolwr.
Monitro: Archwiliad blynyddol a gomisiynwyd gan Bersonél yn cael ei wneud gan Sicrwydd Ansawdd. (SA).
4. Byddir yn rhoi hyfforddiant i sicrhau bod y staff yn cael gwybod yr wybodaeth ddiweddaraf mewn perthynas â datblygu arferion a gweithdrefnau.
Monitro: Adroddiad blynyddol gan yr Adain Datblygu ac Adolygu Staff
Safon 7. Amseroedd Ymateb.
Bydd pob un o’r staff yn gweithio i’r amseroedd ymateb a ddangosir isod.
1. Bydd neges ffôn yn derbyn ymateb o fewn 1 diwrnod gwaith. Os nad yw’r sawl y mae’r cleient yn dymuno siarad â hwy ar gael, bydd rhywun arall yn cael ei gynnig.
Monitro: Archwiliad ffeiliau ac arolwg defnyddwyr (SA)
2. Bydd pob gohebiaeth yn cael ei hateb o fewn 15 diwrnod gwaith i’w derbyn. Os nad yw ateb llawn yn bosibl dylai’r staff hysbysu’r cleient yn ysgrifenedig.
Monitro: Archwiliad Ffeiliau (SA). Arolwg defnyddwyr (SA).
3. Byddir yn cysylltu o fewn 5 diwrnod gwaith i dderbyn cyfeiriad (o ba bynnag ffynhonnell) er mwyn trefnu’r asesiad. Os oes yna restr aros ar gyfer asesiad byddir yn hysbysu’r unigolyn o hynny. Mewn argyfwng, er enghraifft mae, neu gallai bywyd fod dan fygythiad; neu fod cam-drin neu esgeulustod (yr hunan neu arall) wedi digwydd neu’n debygol o ddigwydd, bydd hyn yn 1 diwrnod gwaith.
Monitro: Samplu gwybodaeth gyfrifiadurol (MIS) ac archwiliad ffeiliau (SA).
4. Unwaith y mae asesiad wedi’i gwblhau bydd y gwasanaethau’n dechrau o fewn y raddfa amser a gytunwyd gyda’r sawl sy’n defnyddio’r gwasanaethau a’u gofalwr os yn berthnasol.
Monitro: Samplu gwybodaeth gyfrifiadurol (MIS) ac archwiliad ffeiliau (SA).
5. Bydd cynllun gofal ysgrifenedig yn cael ei anfon at y sawl sy’n defnyddio’r gwasanaethau a’u gofalwr os yn berthnasol o fewn 10 diwrnod gwaith i’r gwasanaethau ddechrau.
Monitro: Archwiliad ffeiliau ac arolwg defnyddwyr (SA).
6. Bydd gwybodaeth am y taliadau sy’n berthnasol yn cael eu hanfon at y cleient neu’r gofalwr enwebedig o fewn 10 diwrnod gwaith i dderbyn yr wybodaeth ariannol gywir.
Monitro: Samplu blynyddol ar y cofnodion ffeiliau a ddelir gan Swyddogion Asesiad Ariannol (SA). Arolwg defnyddwyr (SA).
7. Bydd Cynlluniau Gofal yn cael eu hadolygu o leiaf bob 12 mis neu’n gynharach os yw amgylchiadau’n newid neu os y cytunir dyddiad gwahanol.
Monitro: Archwiliad ffeiliau (SA).
8. Dylai offer sy’n costio llai na £1000 gael ei ddanfon o fewn 3 wythnos i’r asesiad sy’n clustnodi’r angen.
Monitro: Archwiliad ffeiliau (SA)
9. Dylai’r staff sicrhau eu bod yn cyfarfod pobl ar yr amser a gytunwyd. Gyda chyfarfodydd yn y swyddfa, os nad yw hyn yn bosibl, neu os yw’r apwyntiad wedi’i ddal yn ôl, dylid hysbysu’r unigolyn o hyn a gofyn a yw’n dymuno aros neu wneud apwyntiad pellach. Ni ddylid disgwyl i bobl aros mwy na 30 munud am apwyntiad.
Gydag ymweliadau cartref dylai’r staff sicrhau eu bod yn cyfarfod ar yr amser a gytunwyd, neu os nad yw hyn yn bosibl, o fewn 30 munud. Dylid ffonio i egluro’r rheswm dros yr oedi ble mae’n bosibl.
Monitro: Arolwg defnyddwyr (SA).


Rhoi adborth ar y tudalen hon