| Hygyrchedd |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
Datblygiadau Sectorol
EU Logo

Mae Partneriaeth Amcan 1 Sir Ddinbych wedi'i selio ar yr egwyddor o drydedd ran, gyda aelodaeth cyfartal gan y sector cyhoeddus, sector cymdeithasol (preifat), ar sector cymunedol / gwirfoddol.

Sector Cyhoeddus

Gwelwch Gwefanau Defnyddiol am fwy o wybodaeth am asiantau a mudiadau cyhoeddus.

Sector Cymdeithasol (preifat)

Gall y sector cymdeithasol (preifat) elwa ar gyllid Amcan 1 mewn dwy ffordd
Yn anuniongyrchol trwy fod yn fuddiolwyr yn sgîl prosiectau / cynlluniau Amcan 1 sy’n cael eu darparu gan gyfryngwyr o’r sectorau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol.

Yn uniongyrchol trwy dderbyn cymorth Amcan 1 tuag at brosiect fydd yn gymorth i gyflawni amcanion a thargedau’r rhaglen.

Ar y cyfan, nid yw cyllid uniongyrchol ar gael ar gyfer buddiolwyr unigol (cwmnîau). Os ydych chi’n chwilio am gymorth i gynyddu eich busnes, mae’n debyg mai’r trywydd mwyaf priodol ar gyfer cefnogaeth yw trwy gyfrwng sefydliad cyfryngol (hy cymorth anuniongyrchol).

Serch hynny, os gallwch ddangos fod gan eich prosiect fanteision y tu hwnt i’ch cwmni chi yn unig ac y cydd yn helpu gwrdd â’r targedau a osodwyd ar gyfer y rhaglen, yna gallwch wneud cais am gymorth uniongyrchol.

Sector Cymunedol a gwirfoddol

Gall sefydliadau gwirfoddol, cyn belled â bod ganddynt gyfasoddiad cyfreithlon, wneud cais uniongyrchol a derbyn arian Amcan 1 i gynnal prosiectau sy’n cyfrannu mewn rhyw ffordd tuag at yr hynny mae Gorllewin Cymru a’r cymoedd yn ceisio ei gyflawni drwy Amcan 1.

Mae pwy i gysylltu â nhw a lle y dylech wneud cais yn amrywio gan ddibynnu ar ganolbwynt gwithgaredd y prosiect. Argymhellir cysylltu â chyrff ymbarel megis Cynghorau Gwirfoddol y Siroedd a’r Awdurdodau Lleol.

Am fwy o wybodaeth ynglyn a hyn gwelwch gwefan Partneriaeth Amcan 1 Sir Ddinbych

Hefyd gellir cysylltu gyda Uned Ewropeaidd Cyngor Sir Ddinbych ar:

Ffon:  01824 708086     Ffacs:  01824 708088

  Level Double-A conformance icon, W3C-WAI Web Content Accessibility Guidelines 1.0