Nantclwyd y Dre
Nantclwyd y Dre, Stryd y Castell, Rhuthun, Sir Ddinbych, LL15 1DP Ffôn: 01824 709822
Ewch yn ôl trwy saith oes tŷ coediog hynaf Cymru..............
Mae pob un o 'saith oes' hanes Nantclwyd yn cael ei adrodd trwy gyfrwng ystafelloedd sydd wedi eu hail-greu a'u dodrefnu'n llawn. Gall ymwelwyr gerdded yn ôl mewn amser o'r cyntedd 1942, trwy stydi 1916 y rheithor a'r ystafell ysgol 1891, i'r ystafelloedd llofft hyfryd gyda'u paneli a'r papur wal Tsieineaidd. Nesaf daw 'cabinet' 1690 Eubule Thelwall gyda'r gorchuddiadau o 'ddeunydd Kidderminster' a'r nenfwd plastr hardd, ac yna ystafell wely Jacobeaidd gydag addurniadau llachar a'r dillad gwely crog a'r llieiniau peintiedig, a'r 'stôl nos' yn ei chwpwrdd. Yn olaf, yr 'ystafell fusnes' o'r 15fed ganrif, gyda'r strwythur 1435 fwy neu lai heb newid, yn ôl preswylydd canoloesol y cafodd ei bererindod i Rufain ei chofnodi mewn dogfen a ganfuwyd wedi ei chuddio yn y tŷ ei hunan.
.
Ers ei agor ddiwedd mis Mehefin 2007, mae'r tŷ wedi croesawu pobl o bob oed o'r ardal leol a chyn belled i ffwrdd ag Archentina, Zealand newydd a Chanada.
Gall plant ac oedolion fwynhau gweld slumod yn y nenfwd ar y camera 'bat cam', gan gymryd rhan mewn cwis a defnyddio sgriniau cyffwrdd i ddysgu mwy am Saith Cyfnod Nantclwyd y Dre.

Rhoi adborth ar y tudalen hon