Bathodynnau Parcio Trigolion
Ar hyn o bryd mae Cynlluniau Parcio Trigolion yn y mannau canlynol:
Gorllewin Stryd Cilmael, Y Rhyl
Stryd y Farchnad, Rhuthun
Mount Street, Rhuthun
Stryd y Bont Llangollen
Stryd y Capel Llangollen
“Preswylydd” yw rhywun sy’n byw fel mewn eiddo gyda chyfeiriad post sydd ar ffordd neu ran o ffordd a ddynodwyd fel parth parcio trigolion. Mae Cardiau Preswylwyr ar gael trwy wneud cais i’r Adran Gwasanaethau Parcio. PO Box 273, Rhyl LL18 9EJ
Gall preswylydd sy’n dal bathodyn yr anabl gael Cerdyn yn ddi-dâl.
Os bydd yn dewis, gall y Cyngor gyhoeddi Cerdyn Ymwelydd Arbennig i bobl sy’n dilyn galwedigaeth feddygol neu ofalu, o dalu’r taliad penodedig. Cysylltwch â’r Adran Gwasanaethau Parcio i gael rhagor o fanylion.
Dim ond ar gyfer cerbyd penodol y bydd Cerdyn yn cael ei gyhoeddi.
Lle bo cerbyd yn cael ei newid bydd Cerdyn newydd yn cael ei gyhoeddi’n ddi-dâl wrth ildio’r hen Gerdyn, ynghyd â ffurflen gais wedi’i llenwi yn briodol.
Bydd cost weinyddol o £5.00 am Gerdyn yn lle un a gollwyd.
Bydd peidio â dangos Cerdyn yn peri rhoi rhybudd talu cosb. Rhaid dangos y Cerdyn ar du mewn y sgrin wynt fel bod arolygydd y Cyngor yn gallu darllen y manylion arno o’r tu allan i’r cerbyd.
Caiff y Cerdyn ei gyhoeddi’n amodol ar y rheolau a rheoliadau, fel y bydd Cyngor Sir Ddinbych yn eu pennu o bryd i’w gilydd ac fe all y Cyngor ei dynnu’n ôl os bydd rheolau a rheoliadau o’r fath yn cael eu torri.


Rhoi adborth ar y tudalen hon