| Hygyrchedd | Tudalennau Lleferydd |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
Cynnydd ar Barc Drifft Y Rhyl
Parc Drifft

Hoffai Cyngor Sir Ddinbych hysbysu’r gymuned leol yn y Rhyl, a’r ymwelwyr niferus, o’r cynnydd sy’n cael ei wneud ar bromenâd gorllewinol enwog y Rhyl, gyda chysylltiadau â Strategaeth y Rhyl yn Symud Ymlaen, y Cynllun Adfywio a Harbwr Foryd. Bydd yr oriel ffotograffau’n cael ei diweddaru’n rheolaidd er mwyn cyflawni hyn.

Yn y datblygiad newydd ar bromenâd y gorllewin, bydd nifer o eitemau o waith celf. Ffynhonnell y rhain yw Stephen Broadbent Artworks Ltd, ar y cyd â Chlwb Hanes y Rhyl, i ddarparu llwybr darganfod gorffennol y Rhyl. Yn yr ardal chwarae dŵr, mae plant ysgol lleol wedi bod yn helpu trwy ddylunio’r pennau cawodydd “hwyliog” a ddefnyddir fel nodweddion chwistrellu dŵr.

Yn ystod y dydd mae atyniad golff mini, theatr agored a’r ardal chwaraeon dŵr. Gyda’r nos, mae Parc Drifft wedi ei oleuo fel bod modd mwynhau cerdded o gwmpas gyda’r nos. Mae’r ardd naturiol a chae chwarae’r plant ar agor trwy gydol y flwyddyn i drigolion lleol ac ymwelwyr.

Nawr, mae glaswellt, planhigion, prysgwydd a choed oll yn tyfu lle'r oedd concrid gynt; mae yna hyd yn oed do “gwyrdd” ar ben y cyfleusterau cyhoeddus newydd er mwyn cynorthwyo gyda chynaliadwyedd.

Manylion cyswllt: Swyddog y Rhyl yn Symud Ymlaen - 01824 708017

Ymlyniadau
  Level Double-A conformance icon, W3C-WAI Web Content Accessibility Guidelines 1.0