Mae strategaeth fawr i helpu adfywio'r Rhyl a'i chymuned wedi ei chyflwyno i Weinidog Llywodraeth Cynulliad Cymru, Andrew Davies. Mae'r strategaeth yn amlinellu deg project un contractwr, pob un gydag arwyddocâd strategol, a fydd, gyda'i gilydd, yn helpu trawsnewid dyfodol y Rhyl a darparu dyfodol cadarn a ffyniannus i'r dref, ei busnesau a'r gymuned.
Datblygwyd y strategaeth hon ar wahoddiad Andrew Davies AC, Gweinidog Llywodraeth Cynulliad Cymru dros Ddatblygu Economaidd. Ymwelodd â'r Rhyl ar wahoddiad Chris Ruane AS ac Ann Jones AC a chafwyd trafodaeth gyffredinol gydag asiantaethau cyhoeddus ynglŷn ag anghenion adfywio'r Rhyl. Yna sefydlwyd grŵp eang o asiantaethau cyhoeddus i weithredu fel partneriaeth i adnabod gofynion y Rhyl a chanfod atebion.
Dywedodd Iwan Prys Jones, Cyfarwyddwr Corfforaethol Amgylchedd Cyngor Sir Ddinbych, "Rwy'n ddiolchgar iawn i'r grŵp eang o asiantaethau sydd wedi helpu cynhyrchu'r adroddiad hwn, yn enwedig Awdurdod Datblygu Cymru. Mae gwahoddiad Andrew Davies wedi cynhyrchu partneriaeth glir a phendant i helpu adfywio'r Rhyl. Gyda ward fwyaf difreintiedig Cymru, mae'n hanfodol bod camau'n cael eu cymryd i helpu'r Rhyl ac mae'r adroddiad yn nodi'n fanwl beth sydd angen ei wneud i ddarparu amodau i fusnesau ffynnu yn y Rhyl ac i'r gymuned flodeuo”.
Mae'r adroddiad "Y Rhyl yn Symud Ymlaen - Strategaeth a Rhaglen Fuddsoddi Allweddol", yn cynnig deg project un contractwr yn delio ag ystod eang o weithgareddau ac yn darparu rhaglen tymor canolig i hirdymor ar gyfer buddsoddiad yn y Rhyl. Gan ddod i £57 miliwn, peth o'r hwn y rhagwelir y gellir ei gael o ffrydiau ariannu presennol, mae'r projectau'n darparu ar gyfer cael gwared ag adfeilion, creu mannau mwynderau yng Ngorllewin y Rhyl, gwella'r amgylchedd yn Ne-orllewin y Rhyl, sicrhau dyfodol Coleg y Rhyl yn y dref, mentrau cyflogaeth arwyddocaol, ynghyd â helpu gwella iechyd y gymuned a dileu rhai o'r rhwystrau mynediad sy'n bodoli yn y Rhyl ar hyn o bryd.
Croesawodd y Cynghorydd Eryl Williams, Arweinydd Cyngor Sir Ddinbych, yr adroddiad.
“Rwyf wedi cyflwyno'r adroddiad i Gabinet Sir Ddinbych ac mae cefnogaeth eang i'r ddogfen a pharodrwydd ar ran y Cabinet i ystyried dulliau o helpu i sicrhau gwireddiad y rhaglen. Mae'r strategaeth yn rhoi cyfle gwirioneddol i'r gymuned yn y Rhyl ddod at ei gilydd i gefnogi strategaeth a fedr wneud gwahaniaeth mawr i ddyfodol y Rhyl. Rwy'n falch bod yr ymgynghoriad cychwynnol, yn enwedig ymhlith cynrychiolwyr etholedig y Rhyl, wedi dangos brwdfrydedd mewn perthynas â'r cynigion, ac mae'r Cyngor Sir yn edrych ymlaen at drafodaethau pellach gyda Llywodraeth Cynulliad Cymru ar y rhaglen gyffrous hon i adfywio’r Rhyl".
Dywedodd Ann Jones AC: "Mae'r ddogfen strategol hon yn darparu cychwyn da i'r gwaith sydd ei angen i adfywio'r Rhyl. Mae gan ein tref anghenion clir, sydd wedi eu hadnabod, sy'n gofyn am fuddsoddi adnoddau arwyddocaol. Mae'r adroddiad yn nodi'n glir y rhesymau dros gael buddsoddiad newydd ac yn nodi'r un mor glir y deg project strategol a fydd, gyda'i gilydd, yn gwneud gwahaniaeth arwyddocaol i'r Rhyl. Rwy'n falch o gyflwyno hwn i Andrew Davies, Gweinidog y Cynulliad Cymru dros Ddatblygu Economaidd ac rwy'n ddiolchgar iddo am wahodd yr adroddiad. Byddaf yn edrych am ymateb positif gan y Gweinidog ac yn ei wahodd i'r Rhyl i'w drafod ymhellach a sicrhau bod camau'n cael eu cymryd".
Meddai Chris Ruane AS: "Rwy'n cefnogi'n llawn Strategaeth y Rhyl yn Symud Ymlaen a gyhoeddwyd. Mae'n llunio rhaglen gynhwysfawr o waith a fydd yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i'r gymuned yn y Rhyl. Rwy'n ymwybodol ei bod wedi ei chefnogi gan gynrychiolwyr etholedig y ddau Gyngor ac rwy'n falch iawn ei bod yn derbyn cymeradwyaeth Ann Jones, Aelod y Cynulliad, a minnau.
Mae'n bwysig bod y gymuned nawr yn chwarae rhan a chefnogi hyn. Nid dyma ddiwedd y stori; yn hytrach, dyma'r dechrau ac mae gennym lawer o waith i'w wneud i sicrhau bod y rhaglen hon yn derbyn adnoddau ac yn dod yn realiti ".
Mae'r rhaglen yn nodi diwedd cyfnod cyntaf un datblygu strategaeth adfywio ar gyfer y Rhyl, Mae grŵp o flaenoriaethau wedi eu nodi a'u dwyn ynghyd mewn rhaglen gyffredin sydd wedi ei chostio a'i chyflwyno i Lywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer trafodaeth bellach. Nid yw'r rhaglen yn un bendant ar hyn o bryd; dyma'r cam cyntaf a gofynnir nawr am farn cymuned y Rhyl. Mae cynrychiolwyr y bartneriaeth ar gael i drafod cynnwys yr adroddiad gyda grwpiau â diddordeb. Gwnaed trefniadau i ddodi'r adroddiad ar wefan Interreg Y Rhyl/Athy yn www.rhylrar.com a bydd copi hefyd ar gael yn Llyfrgell y Rhyl ac Asiantaeth Gymunedol y Rhyl. Bydd gwefan y Rhyl / Athy yn wefan ryngweithiol, ac felly gellir gwneud sylwadau a holi cwestiynau. Bydd y wefan yn weithredol o'r wythnos sy'n cychwyn ar 18 Ebrill 2004.
Y deg project un contractwr yw: -
Parc Drifft - cynllun i uwchraddio'r amgylchedd ar Rodfa'r Gorllewin ac adennill y promenâd i ymwelwyr, cost dybiedig £3.6m.
Lle i Fyw - strategaeth ardal adfywio ar gyfer Gorllewin y Rhyl i gynnwys creu mannau mwynderau a lleihau dwysedd tai amlfeddiannaeth, cost dybiedig £14m.
Balchder yn ein Tref - darparu arian cyfatebol i Fenter Treftadaeth Trefwedd sy'n cychwyn yng nghanol y Rhyl er mwyn amddiffyn adeiladau pwysig o orffennol y Rhyl a hefyd uwchraddio'r amgylchedd adeiledig, cost dybiedig £5.75m
Gwaith i Bawb - darparu safleoedd cyflogaeth yn y Rhyl, yn enwedig ar Barc Cyflogaeth Cefndy ac unedau cychwyn i fusnesau newydd yng Ngorllewin y Rhyl, cost dybiedig £8m.
Dysgu Gydol Oes– sicrhau parhad safle Coleg y Rhyl, cost dybiedig £1.65m.
Gwella Cymunedau – gwella'n arwyddocaol amgylchedd stadau tai cyhoeddus yn Ne-orllewin y Rhyl, cost dybiedig £900k.
Datblygu Harbwr a Marina - gwella'n arwyddocaol gyfleusterau harbwr yn Harbwr Foryd ac ehangu defnydd cychod pleser yn yr ardal, cost dybiedig £16.7m.
Canolfan Byw'n Iach – darparu canolfan iechyd sylfaenol yn y Rhyl, cost dybiedig £2m.
Cysylltu Cymuned gyda Chyfle– darparu gwell mynediad i gyfleusterau addysg er mwyn cysylltu cymuned y Rhyl gyda chanolfannau rhagoriaeth addysgol, cost dybiedig £4.5m.
Mynediad i Gyfle – darparu astudiaethau dichonolrwydd manwl i archwilio llwybrau newydd i gysylltu'r Rhyl gyda'r prif rwydwaith priffyrdd, cost dybiedig £300k.
Manylion Cyswllt: Swyddog Y Rhyl yn Symud Ymlaen - 01824 708017

Rhoi adborth ar y tudalen hon