| Hygyrchedd | Tudalennau Lleferydd |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
Sir Ddinbych
Caniatād Parcio

Caniatād Parcio


Gall rhai cyfyngiadau ar barcio beri anhwylustod i rai busnesau lle bo cerbyd yn hanfodol i’r gwaith sy’n cael ei wneud (er enghraifft, lle bo cerbyd yn symud gwastraff o safle) ac, oherwydd hyn, mae “Caniatād Parcio” ar gael, sy’n caniatįu i gerbyd penodol a enwyd barcio mewn ardal gyfyngedig tra bo’r gwaith yn cael ei wneud.

Mae modd cael Caniatād Parcio lle mae gofyn parcio cerbyd mewn (neu ger) union fan a lle nad oes dim dewis parcio arall ar gael o fewn rheswm.
Er nad yw’n rhestr gyflawn, ceisiadau am ganiatād bydd yn cael eu hystyried oddi wrth (er enghraifft):

  • Cerbydau Symud Tŷ
  • Cerbydau Dodrefnu Siopau
  • Gwaith Adeiladu
  • Cynnal Priffyrdd
  • Craeniau
  • Gwydrwyr

Ni fydd cais am ganiatād yn cael ei ystyried fel arfer lle mae dewis parcio arall rhesymol oddi ar y stryd gerllaw (er enghraifft Maes Parcio Talu a Dangos) neu os teimlir mai er cyfleuster yn hytrach na rheidrwydd y gwnaed y cais.

Os bydd ei angen, mae’r caniatād hwn yn gadael i un cerbyd penodol a enwyd am bob cais (hyd at uchafswm o 2) barcio mewn union fan penodol am hyd at 5 diwrnod. Mae cost weinyddol o £15.00 y cais yn daladwy ymlaen llaw ac, os byddwch angen estyniad i’r caniatād, rhaid gwneud hyn ar ddiwedd y 5 diwrnod a bydd y gost weinyddol yn berthnasol eto. Mae modd rhoi caniatād am lai na 5 diwrnod, ond bydd y gost weinyddol o £15.00 yn dal yn berthnasol.

Lle bo modd, dylid gwneud cais wythnos cyn bo angen y caniatād fel bod modd ymweld ā’r safle os bydd angen i sicrhau ei bod yn ddiogel rhoi caniatād yn y fan ofynnol heb beri rhwystr.

Mae’r caniatād yn berthnasol i’r cerbyd penodedig yn unig, yn yr union fan a nodwyd ac o fewn y dyddiadau ar ddogfen y caniatād ei hun. Bydd unrhyw un sy’n parcio yn rhywle arall yn agored i Rybudd Talu Cosb.

Bydd angen i chi lenwi ffurflen gais am ganiatād parcio. Mae’r rhain ar gael trwy:

Ymweld ā Swyddfa Ariannol neu Siop Un Alwad Sir Ddinbych a gofyn am ffurflen gais
Lawrlwytho ac argraffu’r ffurflen Caniatād Parcio, ar gael isod, ac yna’i ffacsio neu bostio i Gwasanaethau Parcio Cyngor Sir Ddinbych, Blwch Post 273, Rhyl LL18 9EJ (Ffacs 01745 839 346)
Rhaid i ffurflenni cais gynnwys manylion cynhwysfawr y gofyniad am ganiatād parcio.
Rhaid derbyn taliad o £15.00 cyn cyhoeddi caniatād.

Sut i Dalu

Gallwch dalu gydag archeb bost neu siec (yn daladwy i Gyngor Sir Ddinbych). Gallwch dalu gydag arian parod os ewch ā’ch cais i Swyddfa Ariannol neu Siop Un Alwad - peidiwch ag anfon arian parod drwy’r post.

AMODAU RHOI CANIATĀD PARCI
Rhaid dangos y caniatād yn amlwg yn y cerbyd priodol.

Bydd peidio ā chydymffurfio ā’r amodau’n arwain at ddiddymu’r Caniatād.

Mae caniatād yn cael ei roi’n unig ar gyfer y cerbyd, cyfnodau a diben a nodwyd.

Rhaid peidio ā gadael deunyddiau neu nwyddau ar y palmant neu ffordd gerbydau (heblaw yn union y tu ōl i’r cerbyd). Hefyd rhaid peidio ā’u symud ar draws unrhyw ran o’r palmant neu ffordd gerbydau mewn unrhyw fodd all ymyrryd ā diogelwch cerddwyr a/neu gerbydau eraill.

Nid yw’r caniatād yn caniatįu parcio cyffredinol yn y fan a nodwyd. Rhaid i’r gyrrwr symud y cerbyd i rywle arall o fewn y rheoliadau unwaith y cyflawnwyd y diben a nodwyd.

Rhaid i’r ceisydd / gyrrwr ddangos rhif ffōn a/neu gyfeiriad yn amlwg ar gyfer cysylltu ar unwaith.

Os bydd swyddog heddlu neu ofalwr parcio a awdurdodwyd gan y Cyngor yn gofyn hynny, rhaid symud y cerbyd.

Rhaid parcio’r cerbyd yn ddiogel bob amser a pheidio ā rhwystro mynediad i ffyrdd croes a/neu eiddo ac adeiladau cyfagos.


 

Ymlyniadau
  Level Double-A conformance icon, W3C-WAI Web Content Accessibility Guidelines 1.0