Gorfodi Rheolau Parcio yn Sir Ddinbych
Mae Cyngor Sir Ddinbych yn gyfrifol am ddarparu Swyddogion Gorfodi Dinesig sy’n rheoli parcio cerbydau ar strydoedd y Sir. Mae cyfyngiadau ar nifer o strydoedd o ran natur y parcio yn ôl amser a chyfnod a bydd unrhyw fodurwr nad yw’n cadw at y cyfyngiadau hyn yn debygol o gael tocyn parcio os bydd Swyddogion Gorfodi Dinesig yn darganfod parcio’n groes i’r cyfyngiad
Parcio wedi’i Ddad-droseddoli
Yn Sir Ddinbych, swyddog heddlu neu warden traffig fyddai’n rhoi tocyn parcio cyn 1 Gorffennaf 2004 oherwydd bod y gyrrwr wedi troseddu, fel parcio ar linellau melyn dwbl. Aeth yr arian a godwyd o’r ddirwy i’r Trysorlys yn Llundain; nid oedd yn mynd i’n heddlu lleol nac yn cael ei gadw yn ein hardal ein hunain. Os na thalwyd y ddirwy, roedd modd ei adennill trwy’r Llysoedd Ynadon. Roedd modd arnodi trwydded y gyrrwr hefyd.
Mae'r cyfrifoldeb dros orfodi rheoliadau aros, llwytho a pharcio o fewn tiriogaeth y Cyngor wedi trosglwyddo o’r heddlu lleol i Gyngor Sir Ddinbych. Dan y drefn hon nid yw’r rhain mwyach yn droseddau ond yn dramgwyddau sifil. Maent yn dal yn ddifrifol, fodd bynnag, a byddant yn cael eu trin felly. Er ei bod yn ymddangos y gallwch barcio be bynnag a fynnwch, nid yw’n golygu hynny o gwbl mewn gwirionedd.
Yn ôl y gyfraith, rhaid i’r drefn o orfodi dalu amdani’i hun. Felly, mae arian sy’n dod o’r gwaith gorfodi rheolau parcio i gyd yn cael ei ddefnyddio i’r diben hwn – h.y. mae’n talu am y swyddog Gorfodi Dinesig, costau prosesu dirwyon ac ati.
Ar ôl talu’r costau hyn, os oes unrhyw arian dros ben a godwyd o daliadau ar y stryd (peiriannau talu a dangos ar y stryd), dirwyon parcio, peiriannau talu a dangos mewn meysydd parcio neu, hyd yn oed, o werthu bathodynnau parcio trigolion, mae wedi’i glustnodi yn ôl y gyfraith a rhaid ei drosglwyddo i’r awdurdod priffyrdd lleol. Yn ei dro, ni chaiff yr awdurdod priffyrdd ond defnyddio’r arian hwnnw i dalu am welliannau cysylltiedig â chludiant yn ei ardal.
Fel cyferbyniad, nid yw unrhyw arian sy’n dod o barcio oddi ar y stryd (o ddirwyon a pheiriannau talu a dangos) wedi’i glustnodi. Gall y Cyngor ddefnyddio’r arian hwn at unrhyw ddiben.

Rhoi adborth ar y tudalen hon