| Hygyrchedd | Tudalennau Lleferydd |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
Sir Ddinbych
Sut rydw i'n gwyno - Help i bobl ifanc

Sut rydw i'n gwyno - Help i bobl ifanc wybod sut i gwyno pan aiff pethau o le

Dwi ddim yn hapus - beth wna i rŵan?

Os nad ydych yn hapus hefo eich gofal neu sut mae Gwasanaethau Cymdeithasol yn eich trin mae nhw angen gwybod er mwyn iddyn nhw allu newid pethau a'u wella.  Fe all fod yn bethau fel hyn:

Dwi ddim yn cael digon o bres poced!;
Dydi fy ngweithiwr cymdeithasol ddim yn gwrandol;
Dwi ddim yn licio fy ngofalwyr maeth!;
Dwi ddim yn cael gwneud unrhyw benderfyniad am fy mywyd!;
Dwi byth yn cael gweld fy mam go iawn!;
Mae fy ngweithiwr cymdeithasol yn dweud rhaid i mi symud eto a dwi ddim eisio!

Sut i wneud cwyn?

Os ydych yn anhapus, mae Gwasanaethau Cymdeithasol eisiau gwybod er mwyn ceisio gwella pethau i chi.  Mae gan y Gwasanaethau Cymdeithasol swyddog cwynion sydd yno i'ch helpu i wneud cwyn.  Mae nhw'n gyfeillgar ac yno i wrando arnoch chi.

Gallwach ddweud hefyd wrth:

  • aelod o'ch teulu;
  • eich gofalwr maeth neu weithiwr allweddol;
  • eich Gweithiwr Cymdeithasol;
  • un o'ch athrawon; neu
  • oedolyn y gallwch ei drystio.

Gallwch hefyd ddweud wrth ffrind.  Mae yn eich helpu os gallwch roi llais i gwynion.


Peidiwch ag ofni cwyno, dyma eich hawl.  Fyddwch chi ddim yn mynd i drwbl.  Fydd pobl ddim yn flin hefo chi.

Sut ydw i'n gysylltu hefo'r syddog cwynion?

Swyddog Cwynion,
64 Ffordd Brighton,
Y Rhyl, Sir Ddinbych, LL18 3HP

Ffon: 0800 032 1099
Ffacs: 01824 712888
Ffontext: 07917174038

Fedr rhywun fy helpu i gwyno?

Dydi hi ddim yn hawdd i bobl ifanc fynegi eu barn.  Mae yna bobl sy'n gallu eich helpu.  Cynghorwyr yw pobl sy'n gallu canfod beth ydych chi ei eisiau a siarad drosoch chi.  Dydyn nhw ddim yn gweithio i'r Gwasanaethau Cymdeithasol a gallant eich helpu i wneud cwyn.  Bydd gwasanaethau cynghori pobl ifanc (National Youth Advocacy Service (NYAS)) yn gwrando arnoch ac yn ceisio eich helpu.


Sut i gysylltu hefo NYAS

  1. Ffoniwch nhw - am ddim ar 0800 616 101 - costio dim i chi;
  2. ysgrifennwch atyn nhw: Freepost, NYAS, Dim angen stamp
  3. e-bostiwch nhw:  help@nyas.net (gweler y linc)
  4. agorwch y wefan:  www.nyas.net (gweler y linc))

Beth fydd yn digwydd pan fyddaf yn cwyno?

  1. bydd y swyddog cwynion yn gofyn i'r Rheolwr ddatrys beth sy'n eich poeni;
  2. os na fydd y broblem yn stopio bydd y swyddog cwynion yn gofyn i rywun arall eich helpu; ac
  3. os bydd y broblem yn dal i fod yna bydd grŵp o bobl o'r enw panel annibynnol yn edrych ar eich cwyn (a does dim un o'r bobl yma yn gweithio i'r Gwasanaethau Cymdeithasol).

Faint o amser fydd o'n gymryd?

Bydd Gwasanaethau Cymdeithasol yn ceisio sortio problemau cyn gynted â phosib.  Byddent yn ceisio ei datrys o fewn 10 diwrnod gwaith.

  Level Double-A conformance icon, W3C-WAI Web Content Accessibility Guidelines 1.0