| Hygyrchedd | Tudalennau Lleferydd |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
Sir Ddinbych
Talu Taliadau Cosb Meysydd Parcio

Talu Taliadau Cosb Meysydd Parcio

Sut mae talu Rhybudd Talu Cosb?

Rhaid derbyn taliad Rhybudd Talu Cosb cyn pen 28 diwrnod ar ôl dyddiad ei gyhoeddi. Ond i ni dderbyn y taliad cyn pen 14 diwrnod ar ôl dyddiad cyhoeddi’r rhybudd, bydd y Gosb yn cael ei gostwng i hanner y swm ar y rhybudd.

(Os na fyddwn yn derbyn taliad cyn pen 28 diwrnod ar ôl dyddiad cyhoeddi’r rhybudd, bydd “Rhybudd i’r Perchennog” yn cael ei anfon at geidwad cofrestredig y cerbyd yn gofyn am daliad).

Gallwch bostio eich taliad, (cofiwch sicrhau bod sieciau ac archebion post yn cael eu gwneud yn daladwy mewn sterling i Gyngor Sir Ddinbych) i:

Cyngor Sir Ddinbych
Gwasanaethau Parcio
Blwch Post 273
Rhyl
Sir Ddinbych LL18 9EJ

Hefyd gallwch dalu’r Rhybudd Talu Cosb gyda’ch cerdyn credyd neu ddebyd trwy ffonio’r llinell dalu awtomatig 01824 706145.

Gallwch dalu Rhybudd Talu Cosb ar-lein hefyd. Cliciwch yma i fynd i’n gwefan dalu ar-lein

Bydd taliad yn llawn yn cau’r achos ac ni fydd unrhyw ohebiaeth bellach ynghylch y Rhybudd Talu Cosb hwn yn cael ei ystyried.

Mae rhagor o fanylion i’w cael ar gefn y rhybudd talu cosb.

Herio eich Rhybudd Talu Cosb

Cyfnod 1 – Her ddechreuol i’r RhTC

Os ydych eisiau, gallwch gysylltu â Gwasanaethau Parcio Cyngor Sir Ddinbych yn union ar ôl i chi dderbyn y Rhybudd Talu Cosb (RhTC). Dylech geisio gwneud hyn cyn pen 14 diwrnod ar ôl derbyn y RhTC os ydych eisiau cadw’r hawl i dalu’r pris gostyngol. Er y cewch ffonio am gyngor anffurfiol, rhaid i chi gyflwyno unrhyw her yn ysgrifenedig. Gallwch ysgrifennu llythyr neu ddefnyddio’r Ffurflen Apêl.

Cyflwynwch eich achos yn eglur ac yn syml. Os oes gennych dystiolaeth i gefnogi eich honiadau, fel derbynebau neu ddatganiadau tystion, anfonwch y rhain atom. (Rydym yn argymell eich bod yn anfon copïau’n unig bob amser a chadw’r gwreiddiol.) Bydd Gwasanaethau Parcio’n ysgrifennu’n ôl, naill ai’n derbyn neu’n gwrthod eich her. Os byddwch wedi ysgrifennu cyn pen 14 diwrnod ar ôl derbyn y RhTC a Chyngor Sir Ddinbych yn gwrthod eich her, byddwn yn cynnig y cyfle i chi dalu’r swm gostyngol cyn pen 14 diwrnod.

Cyfnod 2 – Cyflwyno Achos Ffurfiol i Gyngor Sir Ddinbych

Os bydd Cyngor Sir Ddinbych yn gwrthod eich her anffurfiol ac nad ydych wedi talu’r Gosb, bydd y Cyngor yn anfon Rhybudd i’r Perchennog i’r unigolyn neu gwmni sy’n berchennog y cerbyd. Ar yr adeg hon, bydd y Gosb lawn hen ostyngiad yn daladwy.

Mae’r rhybudd hwn yn mynd at bwy bynnag y credir yw perchennog y cerbyd oherwydd, dan Ddeddf Traffig y Ffyrdd 1991, perchennog y cerbyd sy’n atebol am unrhyw Rybuddion Talu Cosb arno, heb ystyried pwy oedd y gyrrwr. Enw hyn yw atebolrwydd y perchennog.

Os byddwch yn derbyn Rhybudd i’r Perchennog, gallwch ddefnyddio’r ffurflen i gyflwyno achos ffurfiol i Gyngor Sir Ddinbych. Mae’r ffurflen Rhybudd i’r Perchennog ei hun yn manylu ar ba sail gyfreithiol y gallwch gyflwyno achos ffurfiol. Rhaid i chi gyflwyno’ch achos cyn pen 28 diwrnod ar ôl derbyn y ffurflen. Eto, cyflwynwch eich achos yn eglur ac yn syml. Os oes gennych dystiolaeth i gefnogi eich honiadau, fel derbynebau neu ddatganiadau tystion, anfonwch hwy atom. (Rydym yn argymell eich bod bob amser yn anfon copïau’n unig a chadw’r gwreiddiol.)

Os nad ydych yn meddwl fod gennych un o’r seiliau cyfreithiol i achos, gallwch ddal i gyflwyno’ch achos, gan y gall Cyngor Sir Ddinbych ddewis diddymu’r RhTC.

Os bydd Cyngor Sir Ddinbych yn hepgor y Rhybudd Talu Cosb, byddwch yn derbyn llythyr yn eich hysbysu o hyn. Os bydd yn penderfynu na ddylid hepgor y RhTC, byddwch yn cael llythyr yn egluro pam. Enw hyn yw Rhybudd Gwrthod Achos. Gyda’r llythyr hwn, byddwch hefyd yn derbyn ffurflen Rhybudd Apêl, sy’n caniatáu i chi apelio i’r Tribiwnlys  Cosb Traffig.

Cyfnod 3 – Apelio i’r Dyfarnwr Parcio Annibynnol

Ni chewch apelio i’r Dyfarnwr Parcio Annibynnol (Tribiwnlys  Cosb Traffig) os nad ydych eisoes wedi defnyddio’r ffurflen ‘Rhybudd i’r Perchennog’ i gyflwyno achos i Gyngor Sir Ddinbych ac wedi derbyn ‘Rhybudd Gwrthod Achos’.

Ar ôl y Penderfyniad

Ar ôl i’r Dyfarnwr benderfynu, byddwch chi a’r cyngor yn derbyn cadarnhad. Fel arfer, bydd y llythyr hwn yn dweud un o ddau beth:

1. Bod yr apêl yn cael ei chynnal ac nad oes angen i chi dalu’r Gosb.


NEU

2. Bod yr apêl yn cael ei gwrthod a bod angen i chi dalu’r Gosb.
Beth sy’n digwydd nesaf?

Os byddwch yn ennill eich apêl ac nad oes angen i chi dalu’r Gosb, dylai hyn fod yn ddiwedd y mater. Os collwch eich apêl, rhaid i chi dalu’r Gosb i’r Cyngor cyn pen 28 diwrnod ar ôl penderfyniad ysgrifenedig y Dyfarnwr. Os na wnewch hyn, bydd gan y Cyngor hawl i barhau achos gorfodi yn eich erbyn.


 

Ymlyniadau
  Level Double-A conformance icon, W3C-WAI Web Content Accessibility Guidelines 1.0