Cardiau Parcio Promenād
Mae Cardiau Parcio Promenād Cyngor Sir Ddinbych ar gael i drigolion Marine Drive, Rhodfa’r Dwyrain a Rhodfa’r Gorllewin. Fodd bynnag, ni fydd Cerdyn yn cael ei gyhoeddi i drigolion sydd ā dreif neu barcio arall oddi ar y stryd ar gael iddynt.
Y bwriad yw caniatįu dim ond dau Gerdyn i bob cyfeiriad a bydd yn cael ei nodi i’w ddefnyddio ar y promenād yn unig am £25.00 y flwyddyn.
Gall preswylydd sy’n dal bathodyn yr anabl gael Cerdyn yn ddi-dāl.
Mae Cardiau Preswylwyr ar gael trwy wneud cais i’r Adran Gwasanaethau Parcio. PO Box 273, Rhyl LL18 9EJ
Os bydd yn dewis, gall y Cyngor gyhoeddi Cerdyn Ymwelydd Arbennig i bobl sy’n dilyn galwedigaeth feddygol neu ofalu, o dalu’r taliad penodedig. Cysylltwch ā’r Adran Gwasanaethau Parcio i gael rhagor o fanylion.
Gall perchenogion llety ymwelwyr ar Rodfa’r Dwyrain a Rhodfa’r Gorllewin wneud cais i’r Cyngor am Gerdyn Llety Ymwelwyr yn unig ar gyfer gwesteion sy’n aros yn y llety hwnnw. Rhaid gwneud cais o’r fath ar ffurflen sydd ar gael o Adran y Gwasanaethau Parcio.
Ni fydd man parcio ar gais yn cael ei warantu i ddeiliaid Cerdyn PROM Cyngor Sir Ddinbych, ond byddant yn cael parcio (os oes lle ar gael) ar bromenād y Rhyl:-
Dim ond ar gyfer cerbyd penodol y bydd Cerdyn yn cael ei gyhoeddi.
Lle bo cerbyd yn cael ei newid bydd Cerdyn newydd yn cael ei gyhoeddi’n ddi-dāl wrth ildio’r hen Gerdyn, ynghyd ā ffurflen gais wedi’i llenwi yn briodol.
Bydd cost weinyddol o £5.00 am Gerdyn yn lle un a gollwyd.
Bydd peidio ā dangos Cerdyn yn peri rhoi rhybudd talu cosb. Rhaid dangos y Cerdyn ar du mewn y sgrin wynt fel bod arolygydd y Cyngor yn gallu darllen y manylion arno o’r tu allan i’r cerbyd.
Caiff y Cerdyn ei gyhoeddi’n amodol ar y rheolau a rheoliadau, fel y bydd Cyngor Sir Ddinbych yn eu pennu o bryd i’w gilydd ac fe all y Cyngor ei dynnu’n ōl os bydd rheolau a rheoliadau o’r fath yn cael eu torri.

Rhoi adborth ar y tudalen hon