| Hygyrchedd |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
Y Rhyl Yn Symud Ymlaen - Stratedaeth
Parc Drifft

Ar ôl cyfarfod gyda'r Gweinidog dros Ddatblygu Economaidd, yr Aelod Seneddol, Aelod Cynulliad a swyddogion eraill, cafwyd gwahoddiad i gyflwyno dogfen yn pennu Fframwaith Strategol ar gyfer y Rhyl ac archwilio sut gellid ei gefnogi. Mae'r ddogfen hon wedi dod o ymdrech gydgysylltiedig gan chwaraewyr lleol allweddol i ymateb i'r gwahoddiad.

Am gopi llawn o'r adroddiad, cliciwch ar y PDF ar waelod y dudalen hon.

Crynodeb Gweithredol

1.2   Mae gan y Rhyl boblogaeth o bron i 27,000. Dyma'r dref fwyaf yn Sir Ddinbych a'r ail fwyaf yng Ngogledd Cymru. Mae'r amgylchedd naturiol ragorol, yn enwedig y traethau a'i lleoliad ar y brif reilffordd rhwng Caer a Chaergybi wedi ei galluogi i dyfu fel tref glan y môr, yn enwedig at ddiwedd cyfnod Fictoria. Ar ôl hanner canrif o lwyddiant, mae dewisiadau newidiol twristiaid wedi gweld y Rhyl dirywio'n raddol ond yn ddidostur dros y 30 mlynedd diwethaf.

1.3   Heddiw, tra bo'r Rhyl yn gweithredu fel prif ganolfan siopa'r sir, tra bo ganddi goleg addysg bellach llwyddiannus ac mae'n dal i fod yn un o'r prif ganolfannau twristiaeth i deuluoedd yng Ngogledd, mae yno hefyd ardaloedd o amddifadiad cymdeithasol-economaidd difrifol.

1.4   Fel cymaint o leoedd lle mae'r sylfaen economaidd yn methu â'u cefnogi mewn oes newydd, mae'r Rhyl wedi dod yn gynyddol ddibynnol ar raglenni gwariant cyhoeddus am ei hiechyd economaidd. Mae diffygion mewn gwariant cyhoeddus yn gwneud gwahaniaeth teimladwy, ac mae'n amlwg nad oes unrhyw arwydd o gynnydd gwirioneddol mewn gwariant cyfalaf dros y 5 mlynedd diwethaf - nodwedd sy'n hawdd ei gadarnhau o fynd yno.

1.5   Mae diffyg arwyddocaol buddsoddiad mewn isadeiledd cyhoeddus ac o ganlyniad, ychydig iawn sydd yno o ran llwyfan positif i ddenu buddsoddiad sector preifat cynyddol. Mae peth tystiolaeth o adferiad araf yn 2003-2004 ond, yn gyffredinol, mae'r gwariant cyfalaf yn annigonol i gadw i fyny â'r anghenion cynnal a chadw hanfodol hyd yn oed.

1.6   Yng nghyd-destun gwariant refeniw, y farn gyffredinol yw mai prin y mae'n medru cadw i fyny â'r galw presennol ac mae'n gorfodi chwaraewyr i wynebu sefyllfa "gwerthu'r fuwch i brynu tarw" lle mae lefel gyffredinol angen nas diwallwyd yn uchel.

1.7   Canlyniad hyn yw gorddibyniaeth ar gymorth grant allanol sy'n cynhyrchu gogwydd tuag at fyrdymhoriaeth, tuedd i ddarnio gweithgareddau ac allwyro amcanion i ffwrdd o unrhyw strategaeth ystyrlon ar gyfer y dref a thuag at dargedau allanol a bennwyd gan arianwyr projectau.

2.    Cyrff Ymgynghorol Newydd a Fframwaith Strategol

2.1  Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, bu sylweddoliad gweithredol ymhlith gwleidyddion, swyddogion cyhoeddus, cynghorwyr etholedig a mudiadau cymunedol bod angen gwneud rhywbeth i ddelio â phroblemau'r Rhyl a bod caniatáu i bethau barhau i ddirwyo yn annerbyniol.

2.2   Gan adlewyrchu hyn, mae nifer o gyrff ffurfiol ac anffurfiol newydd wedi dod ymddangos, ac mae Fframwaith Strategol wedi ei gyflwyno gan arwain at broses ddwys o drafod ac ymgynghori. Mae'r cyrff newydd yn cynnwys:

Pact y Rhyl
Partneriaeth Ardal y Rhyl
Rhwydwaith Sector Preifat y Rhyl

2.3   Cytunwyd Gweledigaeth ar gyfer y Rhyl sy'n nodi'r canlynol, sy'n  gynigiad a dderbynnir yn eang:
‘Bydd y Rhyl, erbyn 2015, yn ceisio dod yn lle braf i fyw a gweithio ynddo - tref sy'n cefnogi cymuned gytbwys, gadarn sy'n sicr ynddi'i hunan o fewn economi lleol ffyniannus a chynaliadwy'.

2.4   Mae Fframwaith Strategol hefyd wedi ei sefydlu sy'n trosi'r weledigaeth yn strategaeth gyda ffocws. Dewisodd y partneriaid y themâu canlynol fel sylfaen ar gyfer y strategaeth:

Tai
Amgylchfyd ffisegol ac isadeiledd
Addysg a chynhwysiant cymdeithasol
Byw'n iach
Busnes a menter

3.    Ymyrraeth Strategol: Set o Flaenoriaethau Gweithredu ar gyfer y Rhyl

3.1   Mae'r tabl canlynol – a gynhyrchwyd dan y Pact ar gyfer y Rhyl – yn pennu camau blaenoriaeth dan bob un o'r bum thema strategol sydd angen y sylw mwyaf os yw'r Rhyl i "symud ymlaen" mewn gwirionedd.

3.2   Nododd y Pact ar gyfer y Rhyl y camau uchod fel rhai o ddau fath:

i) y rhai y byddai aelodau'r Pact eu hunain yn ceisio eu cyflawni yng nghyd-destun cyllid prif ffrwd, pan fydd adnoddau ar gael,
a'r
ii) rhai a fyddai'n ffurfio sylwedd bid arbennig i Lywodraeth Cynulliad Cymru dan delerau'r gwahoddiad gan y Gweinidog. Cydnabuwyd y dylid cymryd i ystyriaeth y cyfyngiadau ar arian canolog wrth ddewis y rhestr fer o brojectau i'w cyflwyno, ac mae dim ond y buddsoddiadau "un contractwr" hynny a fyddai'n cynrychioli effaith arwyddocaol ar broblemau craidd y Rhyl a ellid eu dewis.

Manylion Cyswllt:   Swyddog Y Rhyl yn Symud Ymlaen - 01824 708017

Ymlyniadau
  Level Double-A conformance icon, W3C-WAI Web Content Accessibility Guidelines 1.0