| Hygyrchedd | Tudalennau Lleferydd |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
Blaenoriaethau Graeanu
Cerbydau Graeanu

Blaenoriaethau Graeanu 

Dewis Ffyrdd ar gyfer Halltu Rhagofalus

Fodd bynnag, datblygwyd rhwydwaith rhagofalus wedi’i flaenoriaethu o ffyrdd i’w trin, sydd hefyd yn ffurfio’r sail ar gyfer blaenoriaethau clirio eira a rhew, ar sail hierarchaeth y rhwydwaith, llif traffig brig a’r math o draffig sy’n eu defnyddio.  Mae’r meini prawf a ddefnyddir i ddewis y llwybrau hyn wedi’u rhestru isod:

  1. Prif briffyrdd (ffyrdd dosbarth A & B)
  2. Prif ffyrdd dosbarthu
  3. Prif lwybrau i fannau siopa
  4. Prif lwybrau bysiau
  5. Prif lwybrau sy’n gwasanaethu pentrefi / cymunedau arwyddocaol
  6. Llwybrau i ysbytai, ysgolion, mynwentydd ayb
  7. Llwybrau ar gyfer yr heddlu, gwasanaethau tân, ambiwlans ac achub
  8. Prif lwybrau diwydiannol o bwysigrwydd i’r economi leol
  9. Mannau ble mae’n wybyddus fod problemau’n bodoli, megis mannau amlwg, llethrau serth a ffyrdd eraill sy’n debygol o rewi.

Blaenoriaethau Trin ac Amseroedd Ymateb

Rhoddir blaenoriaeth uwch i’r prif Briffyrdd (ffyrdd dosbarth A a B).  Bydd y rhan fwyaf o’r rhain yn cael eu halltu o fewn dwy awr ar ôl i’r graeanydd adael y depo.  Fodd bynnag, am resymau ymarferol, er mwyn lleihau hyd y daith, ni fydd rhai o’r prif Briffyrdd yn cael eu trin tan ar ôl hynny.

 

Bydd yr holl brif briffyrdd yn cael eu trin o fewn tair awr a hanner ar ôl i’r graeanydd adael y depo.

 

Rhoddir blaenoriaeth ar ôl hynny i weddill y ffyrdd ar y rhwydwaith halltu rhagofalus.  Bydd y ffyrdd hynny’n cael eu halltu, pan fo hynny’n ymarferol, ar ôl cwblhau’r ffyrdd sydd â’r flaenoriaeth uchaf a’r nod fydd halltu’r holl ffyrdd o fewn pedair awr a hanner ar ôl i’r graeanydd adael y depo.

 

Lle mae ffyrdd graeanu yn croesi ffiniau Siroedd, mae cytundebau mewn lle hefo'r awdurdod cyfagos i sicrhau cynnwys yr holl rwydwaith tra'n caniatau'r ffordd fwyaf effeithlon i gerbydau pob Awdurdod. Rhaid nodi y bydd trin y ffyrdd hyn yn digwydd yn ôl polisi a gweithred yr Awdurdod perthnasol.

 

Rhwydwaith Diffiniedig o Lwybrau Halltu Rhagofalus

 Cynhyrchwyd rhwydwaith ddiffiniedig o’r llwybrau gan ddefnyddio’r criteria uchod a thalu sylw i amodau lleol a bydd y ffyrdd ar y rhwydwaith yn cael ei halltu yn ôl gofyn amodau'r tywydd.  Mae tua 411km (hyd halltu) o ffyrdd â blaenoriaeth.

 

Bydd y rhwydwaith ddiffiniedig yn cael ei hadolygu’n flynyddol er mwyn cynnwys unrhyw newidiadau yn y rhwydwaith priffyrdd, newid mewn amodau lleol neu i dalu sylw i ardaloedd lle cyfyd problemau.  Weithiau bydd rhaid tynnu rhai o’r ffyrdd llai o’r rhwydwaith trin rhagofalus gan nad yw’n ddiogel i’r graeanydd deithio arnynt.  Y prif reswm am newidiadau yw ceir wedi’u parcio nad oes modd eu pasio.

 

Priffyrdd i’w clirio o Rew ac Eira

Gall traffig wneud wyneb ffordd gyda dim ond ychydig o eira yn beryglus pan fo’r tymheredd yn is na’r rhewbwynt.  Gwneir pob ymdrech i gadw’r rhwydwaith rhagofalus yn glir o rew ac eira   Fodd bynnag, o dan rhai amodau megis eira trwm neu pan fydd wedi bod yn bwrw glaw cyn bwrw eira, sy'n golygu na ellir trin wyneb y ffordd yn effeithiol, bydd yn amhosibl rhwystro eira rhag casglu ar y rhwydwaith graeanu rhagofalus.

 

Ar adegau o rew ac eira parhaus y prif briffyrdd fydd yn cael eu clirio’n gyntaf.   Bydd ffyrdd a llwybrau troed eraill yn cael eu trin fel bo’r adnoddau’n caniatáu gan gadw yn y cof am ba hyd y disgwylir i’r tywydd garw barhau.  Yr eithriad i hynny yw pan fydd amodau lleol megis eira trymach ar ffyrdd uwch neu luwchfeydd mewn mannau amlwg yn gofyn am sylw arbennig. 

 

Yn aml, dim ond ar ffyrdd uwch mae eira’n disgyn a bydd raid ymateb yn ôl y gofyn gan gynnwys defnyddio llai o raeanwyr.

 

Sefydlwyd y drefn flaenoriaeth ar gyfer clirio rhew ac eira fel a ganlyn:

  1. Prif briffyrdd (ffyrdd dosbarth A a B)
  2. Ffyrdd i ysbyty neu i orsaf gwasanaeth argyfwng
  3. Gweddill y rhwydwaith halltu rhagofalus.
  4. Ffyrdd eraill sy’n wybyddus fel llwybrau diwydiannol neu ambiwlans brys pwysig
  5. Ffyrdd i adnoddau cyhoeddus – mynwentydd, ysgolion ayb
  6. Ffyrdd Dosbarth II a III eraill sy’n rhoi mynediad i gymunedau
  7. Gweddill y llwybrau bws a chasglu llefrith
  8. Ffyrdd trefol eraill
  9. Ffyrdd gwledig eraill
  10. Ffyrdd sy’n gwasanaethu aneddleoedd anghysbell
  11. Ffyrdd eraill.

Blaenoriaethir ceisiadau oddi wrth aelodau’r cyhoedd am glirio rhew ac eira gan y Daroganydd Dyletswydd neu’r Goruchwylydd Dyletswydd gan ddefnyddio’r hirarchiaeth uchod ac o gofio’r adnoddau sydd ar gael, lleoliad yr adnoddau hynny a’r rhagolygon tywydd.  Ond bydd blaenoriaethau’n cael eu newid er mwyn talu sylw i achosion meddygol brys hefyd.

 

Oherwydd poblogrwydd ymweliadau â Moel Famau mewn amodau gaeafol, cytunwyd mai DIM OND PAN FYDD EIRA’N CAEL EI DDAROGAN y bydd y ffordd ddi-ddosbarth o Dafarn y Gelyn i faes parcio Bwlch Pen Barras yn derbyn triniaeth ragofalus.  Bydd y Swyddogion Darogan yn sôn am hynny’n benodol.

 

Trin / clirio rhew ac eira ar balmentydd a llwybrau beicio

Mae’n bolisi gan y Cyngor i annog cerdded a beicio ond ni ystyrir ei bod yn ymarferol halltu palmentydd neu lwybrau beicio’n rheolaidd ar sail ragofalus gan nad yw’r adnoddau ar gael ac y byddai’n anodd iawn gwneud hynny hefyd.

 

Er mwyn cynorthwyo cerddwyr ar balmentydd, darperir biniau graean mewn rhai mannau i’r cyhoedd ei daenu eu hunain ar balmentydd yn ogystal ag ar ffyrdd.

 

Mae taenu halen ar ffordd yn y dull arferol yn golygu bod llawer o balmentydd yn cael eu trin yr un pryd. 

 

Fodd bynnag, pan fydd rhew neu eira yn ffurfio ar balmentydd am gyfnod sylweddol bydd yn cael ei glirio gan ddilyn y system flaenoriaethu fel y rhestrir isod yn amodol fod yr adnoddau ar gael ac o ystyried rhagolygon y tywydd.  Dim ond yn ystod oriau gwaith arferol y bydd rhew ac eira’n cael ei glirio oddi ar balmentydd fel arfer.

 

Blaenoriaethau ar gyfer trin palmentydd (rhew neu eira parhaus yn unig):

  1. Palmentydd a mannau cerdded Canol Trefi
  2. Mannau siopau eraill ac o flaen siopau prysur
  3. Prif lwybrau cerdded, gan gynnwys Llwybrau Diogel i’r Ysgol, i ysbytai, palmentydd gerllaw tai cysgodol a mannau i bensiynwyr, cysylltiadau â’r prif lwybrau bysiau mewn trefi, pontydd troed ar y prif lwybrau.
  4. Mynedfeydd i adeiladau cyhoeddus eraill, meddygfeydd, mynwentydd ayb
  5. Rhannau serth o lwybrau troed, tanlwybrau trigiannol a grisiau cysylltiedig
  6. Llwybrau bws / cerdded eraill
  7. Mannau trigiannol eraill
  8. Ystadau Diwydiannol
  9. Palmentydd gwledig gydag ychydig o ddefnydd, llwybrau cerdded gydag wyneb, llwybrau beicio oddi ar y ffordd
  10. Ddim yn cael eu trin – llwybrau troed heb wyneb, hawliau tramwy cyhoeddus a llwybrau troed preifat.

Bydd palmentydd yn cael eu trin neu’u clirio gan ddefnyddio’r system flaenoriaethu uchod fel y bydd adnoddau’n caniatáu.   Yn ymarferol, golyga hynny na fydd y palmentydd yng nghategorïau 7 - 9 yn cael eu trin fel rheol heblaw mewn cyfnodau hir o rew neu eira. 

 

Mae clirio rhew ac eira ar lwybrau troed heb eu mabwysiadau yn ardaloedd tai cyngor yn gyfrifoldeb yr Adran Dai.

 

Mae ysgolion a cholegau’n gyfrifol am glirio eu tir eu hunain.  Gallen nhw ofyn i’r Gwasanaethau Amgylcheddol neu gontractwr preifat wneud hynny ond byddai raid talu am y gwaith.

  Level Double-A conformance icon, W3C-WAI Web Content Accessibility Guidelines 1.0