| Hygyrchedd | Tudalennau Lleferydd |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
Tai Aml Breswyliaeth

Deddf Tai 2004

Cyflwynodd Cyngor Sir Ddinbych trwyddedu gorfodol Tai Aml Breswyliaeth ar 30 Mehefin 2006.  Mae'n orfodol i chi drwyddedu Tai Aml Breswyliaeth mwy, neu uwch eu risg. Bydd Cyngor Sir Ddinbych hefyd yn gallu trwyddedu mathau eraill o Dai Aml Breswyliaeth i daclo problemau mewn eiddo llai.

Cynhyrchwyd taflen i dirfeddianwyr a thenantiaid i egluro trwyddedu yn fwy manwl. Mae'r daflen ar gael isod. 

Cynhyrchwyd  ffurflen i chi roi adroddiad (‘Fast Feedback Form’) i asesu a oes angen i chi drwyddedu'r eiddo sy'n eiddo i chi neu lle rydych yn byw. Gall tirfeddianwyr neu denantiaid lenwi'r ffurflenni hyn, neu gall y Swyddog Gorfodi Tai eu llenwi drosoch dros y ffôn.


Tenantiaid!   Os ydych yn byw mewn eiddo heb ei drwyddedu gallwch hawlio hyd at 12 mis o rent yn ôl hefo Gorchymyn ad-dalu rhent trwy'r Tribiwnlys Eiddo Preswyl – rhowch wybod os tybiwch bod angen trwyddedu'r adeilad lle rydych yn byw.

Tirfeddianwyr!  Os canfyddir eich bod yn rhedeg Tai Aml Breswyliaeth ddylai gael trwydded gan yr Awdurdod Lleol, ac nad ydych wedi gwneud cais amdano, neu os byddwch yn caniatau i'ch eiddo gael ei ddefnyddio gan fwy o bobl nag a ganiateir o fewn y drwydded gallwch wynebu dirwy o hyd at £20,000.

 

Ymlyniadau
  Level Double-A conformance icon, W3C-WAI Web Content Accessibility Guidelines 1.0