Beth ydym ni’n ei wneud?
Yr holl lanhau dyddiol.
Glanhau achlysurol.
Glanhau a chynnal a chadw arbenigol (gweler y ffotograffau).
Glanhau ar gyfer achlysuron/digwyddiadau arbennig.
Glanhau mewn argyfwng.
Lle rydym ni’n ei lanhau?
Adeiladau dinesig.
Ysgolion uwchradd ac ysgolion cynradd.
Canolfannau hamdden.
Llyfrgelloedd.
Atyniadau ymwelwyr proffil uchel e.e. Yr Hen Garchar, Rhuthun; Y Capel, Llangollen.
Pa mor hyfforddedig yw ein staff?
Rydym yn sicrhau bod ein cyflogeion yn derbyn hyfforddiant cynhwysfawr, yn cwmpasu gweithdrefnau glanhau, offer glanhau ac iechyd a diogelwch. Rydym yn y broses o hyfforddi ein holl gyflogeion i fodloni safonau’r British Institute of Cleaning Science (BICSc).
Sut fath o offer sydd gennym?
Mae gennym amrediad eang o offer ac rydym yn buddsoddi’n gyson mewn offer mwy modern a dyfeisiadau newydd arloesol (gweler y ffotograffau). Mae ein Goruchwylwyr Ardal yn defnyddio meddalwedd cyfrifiadurol arolygu ansawdd i fonitro’r safleoedd rydym yn eu glanhau.
Pa safonau ansawdd rydym ni’n eu cyrraedd?
Mae gennym statws sicrwydd ansawdd i safon BS EN ISO 9001:2000.
A ydym yn aelod o unrhyw gyrff proffesiynol?
Rydym yn aelod o’r British Institute of Cleaning Science (BISc).
Pa wobrau a enillwyd?
Yn y gwobrau 'Association of Public Service Excellence (APSE)', 2006, roeddem ni nid yn unig y Tim Gwasanaethau Glanhau gorau ond hefyd y tim Gwasanaethau Gorau hefyd !


Rhoi adborth ar y tudalen hon