| Hygyrchedd | Tudalennau Lleferydd |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
Cynnal a Chadw Adeiladau
Cynnal a Chadw Adeiladau

Mae’r Adain Cynnal a Chadw Adeiladau yn cyflogi 33 o grefftwyr sgilgar wedi’u prentisio ym mhob rhan o’r Sir sy’n gweithio o ganolfannau ym Modelwyddan a Rhuthun.

Yr Adain yw prif gontractwr yr Awdurdod ar gyfer gwaith trwsio a chynnal a chadw tai cyngor.  Mae’r Adain yn gweithio dan gyfarwyddyd y Prif Swyddog Cynnal a Chadw Tai a’i staff drwy’r gontract a rhestr prisiau ‘Gwasanaeth Cynnal Tai’ a enillwyd gan y Gwasanaethau Amgylcheddol mewn cystadleuaeth agored ym 1998.

Mae’r Adain yn cynnal tua 3,300 o dai ac mae'n cwblhau bron i 12,000 o dasgau pob blwyddyn.

Mae pob cais am drwsio yn cael ei drin gan Adain Gwasanaethau Cwsmer y Cyngor customerservicecentre@denbighshire.gov.uk 01824 706100), gyda gwaith brys ac argyfwng yn cael ei gyflwyno’n uniongyrchol i’r Gwasanaethau Amgylcheddol.  Mae trwsio o ddydd i ddydd yn cael ei roi i’r adran cleient gynnal a chadw tai i’w asesu.

Rydym hefyd yn gweithredu rota galw allan 24 awr y dydd, 365 diwrnod y flwyddyn ar gyfer argyfyngau.  Derbynnir ceisiadau am gymorth gan ganolfan Gwasanaethau Cwsmer y Cyngor (01824 706100), a byddant yn cael eu cyflwyno’n yn uniongyrchol i’r gweithwyr sydd ar alwad.

Mae Cynnal a Chadw Adeiladau hefyd yn ymgymryd â gwaith cynnal a chadw a gwella ar gyfer clientau eraill e.e.:

  • Contractwr cymeradwy ar gyfer trwsio a chynnal a chadw adeiladau cyhoeddus.
  • Gwaith addasu ar ran y  Gwasanaethau Cymdeithasol: canllawiau, rampiau a gosod offer  arbenigol ar gyfer y rhai â nam ar eu clyw neu’u golwg.
  • Gwaith newid a gwella ffreuturiau ysgol a swyddfeydd y cyngor.
  • Gwaith amrywiol ar gyfer Cynghorau Tref a Chymuned.
  Level Double-A conformance icon, W3C-WAI Web Content Accessibility Guidelines 1.0