| Hygyrchedd |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
Cynhaliaeth Priffyrdd
Cynhaliaeth Priffyrdd

Mae Adran Gwasanaethau Priffyrdd y Gwasanaethau Amgylcheddol yn darparu gwasanaethau cynhaliaeth priffyrdd i Sir Ddinbych, gan weithio'n glos hefo'r Adran Cludiant ac Isadeiledd, sef Awdurdod Priffyrdd holl ffyrdd Sir Ddinbych gan gynnwys y rhwydwaith priffyrdd a noddir gan Lywodraeth Cynulliad Cymru.

Mae’n gweithlu, sy’n hynod o fedrus ac wedi’u hyfforddi’n dda, gyda chanolfannau ym Modelwyddan, Rhuthun a Chorwen.

Mae’r Adain yn gwneud y gwaith canlynol yn Sir Ddinbych:

  • Cynnal llwybrau troed cyhoeddus a cherbydffyrdd.
  • Cynnal y gaeaf, gan gynnwys rhag - raeanu pob prif ffordd a mannau traffig a chlirio eira.
  • Gwasanaeth argyfwng 24 awr, 365 diwrnod, ynghylch pob agwedd o argyfyngau priffyrdd gan gynnwys:
    • Colliadau diesel a thanwydd.
    • Damweiniau traffig ffyrdd.
    • Difrod i wyneb priffyrdd, arwyddion a chyfarpar arall.
    • Coed yn disgyn a difrod storm arall.
    • Llifogydd ar ffyrdd.
  • Gwagio gwlïau ffyrdd a chynorthwyo gyda chlirio draeniau dŵr wyneb a chwlfertiau wedi blocio.
  • Cynlluniau gwella draeniad priffyrdd.
  • Torri glaswellt lleiniau glas y ffyrdd.
  • Atgyweirio difrod i bontydd a strwythurau ac adeiladu pontydd troed.
  • Glanhau ffosydd a chyrsiau dŵr.
  • Gweithio ar gynlluniau gwella priffyrdd.

E-bostiwch ein canolfan gwasanaethau Cwsmer ar canolfangwasanaethcwsmer@sirddinbych.gov.uk neu ffoniwch 01824 706100.

  Level Double-A conformance icon, W3C-WAI Web Content Accessibility Guidelines 1.0