| Hygyrchedd | Tudalennau Lleferydd | Help |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
Sir Ddinbych
Addysg Gynnar
Logo Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd

Addysg am ddim ar gyfer plant 3 oed yn Sir Ddinbych

 

A oes gennych chi blentyn a fydd yn 3 oed rhwng Medi a Ebrill?

Os oes, darllenwch ymlaen...

Gall eich plantyn gael lle AM  DDIM mewn lleoliad cymeradwy am 10 awr yr wythnos o dydd Llun i ddydd Gwener.

Mae lleoliad cymeradwy'n cynnwys:

  • Cylch Meithrin
  • Meithrinfa Breifat

Rhaid i'r lleoliad fod wedi cofrestru gyda Thim Cyfnod Sylfaen Sir Ddinbych a'r AGGCC.

 

Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn cynnig LLE  AM  DDIM  I  BLANT y tymor ar ol eu penblwydd yn 3 oed hyd at ddiwedd y flwyddyn academaidd.

 

Tim Addysg Gynnar

 

Bydd athrawes drwyddedig yn ymweld a'r lleoliad yn rheolaidd i ddarparu profiadau chwarae o safon i'ch plentyn ac i gefnogi'r staff i weithredu ethos Y Cyfnod Sylfaen.

 

Gallwch wneud cais am le i'ch plentyn trwy lenwi ffurflen gais yn y lleoliad o'ch dewis.  (Caiff eich plentyn ei ariannu mewn un lleoliad yn unig).

 

Am ragor o wybodaeth cysyllter a'r Adran Addysg, Trem Clwyd, Rhuthun ar unrhyw un o'r rhifau hyn:

01824 708024 / 01824 708093 neu cysylltwch a Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd 01824 708220.

 

Byddwch angen cwblhau'r ffurflen 'Derbyn i'r dosbarth Meithrin' cyn i'ch plentyn fynychu'r ysgol.

 

Swyddfa Derbyn

01824 712621

 Llyfrnodwch y dudalen yma: Delicious image del.icio.us | Digg image Digg | Reddit image Reddit | Facebook image facebook | Stumbleupon image StumbleUpon | Llyfrnodi cymdeithasol  
 Diarddelwad | Polisis Dirgelwch | Ystadegau'r Wefan | ©2010 Cyngor Sir Dinbych