| Hygyrchedd | Tudalennau Lleferydd |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
Cydraddoldeb Anabledd

Cydraddoldeb Anabledd

Fe sefydlwyd Deddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd 1995 er mwyn ei gwneud yn anghyfreithlon i wahaniaethu yn erbyn pobl anabl o ran cyflogaeth, darpariaeth nwyddau, cyfleusterau a gwasanaethau neu werthu neu reoli adeiladau; i ddarparu ar gyfer cyflogi pobl anabl; ac i sefydlu Cyngor Anabledd Cenedlaethol.

Mae Deddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd 2005 yn gosod dyletswydd ar ystod eang o gyrff cyhoeddus, yn cynnwys awdurdodau lleol, i hyrwyddo cydraddoldeb anabledd (y ddyletswydd gyffredinol).  Mae hefyd yn creu dyletswydd benodol i gynhyrchu a chyhoeddi Cynllun Cydraddoldeb Anabledd.  Mae gan Gyngor Sir Ddinbych ddyletswydd benodol i gynhyrchu Cynllun Cydraddoldeb Anabledd fel y’i mynegir gan y Ddyletswydd Cydraddoldeb Anabledd. Cafodd y Cynllun ei integreiddio i Gynllun Cydraddoldeb Sir Ddinbych 2007 - 2009 gadarnhawyd gan y Cyngor llawn yng Ngorffennaf 2007.  Ceir adroddiadau arno’n flynyddol a chaiff ei ddiwygio a’i adolygu bob 3 blynedd. Golyga hyn fod yn rhaid i’r Cyngor, wrth weithredu ei swyddogaethau, roi sylw teilwng i:

  • Hyrwyddo cydraddoldeb cyfleoedd rhwng pobl anabl a phobl eraill;
  • Dileu gwahaniaethu sy’n anghyfreithlon dan y Ddeddf;
  • Dileu aflonyddu ar bobl anabl oherwydd eu hanabledd;
  • Hyrwyddo agweddau positif tuag at bobl anabl;
  • Annog pobl anabl i gymryd rhan mewn bywyd cyhoeddus;
  • Cymryd camau i ystyried anabledd pobl hyd yn oed pan fo hynny’n golygu eu trin yn fwy ffafriol nag eraill.

Gellir cael gwybodaeth fanylach drwy ddilyn y linciau ar y chwith.

  Level Double-A conformance icon, W3C-WAI Web Content Accessibility Guidelines 1.0