Mae 54 o Ysgolion Cynradd yn Sir Ddinbych ac rydym yn darparu prydau bwyd ar gyfer pob un ohonynt. Rydym yn ymwneud â holl ysgolion y gogledd - Prestatyn - Y Rhyl - Llanelwy – Dinbych, a'r de – Rhuthun - Corwen - Llangollen.
Rydym yn darparu bwydlen dros gyfnod o bedair wythnos - gweler ein taflen wybodaeth isod.
Mae'r adran Ddieteteg yn Ysbyty Glan Clwyd yn rhoi eu barn ar bob un o'r bwydlenni er mwyn sicrhau bod disgyblion sydd yn bwyta cinio ysgol yn Sir Ddinbych yn derbyn pryd o fwyd sydd yn gytbwys o ran maeth.
Ar hyn o bryd rydym yn codi £1.65 am bryd o fwyd yn yr ysgolion cynradd, mae hyn yn werth yr arian ac yn cymharu'n ffafriol gydag awdurdodau lleol eraill.
Ar hyn o bryd rydym yn peilota system weinyddol a dalwyd ymlaen llaw yn un o'n hysgolion Cynradd. Y bwriad yw gosod yn ein Ysgolion Cynradd mawr. Bydd y system yn lleihau gweinyddiaeth a bydd hefyd yn rheoli dyledion.
C. Pam dewis cinio ysgol yn hytrach na brechdanau?
A. Ar ôl astudio'n galed drwy'r bore, mae'n bwysig fod pobl ifainc yn bwyta cinio cytbwys o ran maethlonrwydd er mwyn sicrhau eu bod yn gallu canolbwyntio yn ystod sesiwn y prynhawn.
Hefyd, mae bwyta cinio ysgol yn dysgu i blant y sgiliau cymdeithasol y byddant eu hangen mewn bywyd, a pha mor bwysig yw bwyta'n iach.
Rydym yn gwneud ein gorau i wneud amser cinio yn amser o hwyl drwy gael diwrnodiau hyrwyddo a diwrnodiau themâu yn ystod y flwyddyn ysgol. Bydd llawer o'r rhain wedi eu llunio i gyd-fynd â chwricwlwm yr ysgol.

Rhoi adborth ar y tudalen hon