Gwasanaethau Arlwyo Sir Ddinbych – Ymborth i'r meddwl.
Er mwyn i blant allu canolbwyntio a gweithio'n dda yn yr ysgol mae'n hanfodol cael y tanwydd iawn.
Cyn inni gyflwyno'r bwydlenni ar gyfer yr Ysgolion Cynradd buom yn cyfarfod â Dietegwyr a leolir yn Ysbyty Glan Clwyd er mwyn inni fod yn sicr fod y ' cydbwysedd yn iawn'.
Mae angen rhyw faint o fraster ar bawb, rydym yn anelu at greu cydbwysedd drwy osod ffrwythau ffres, salad, ac yn y blaen ynghyd â'r bwydydd bras.
Canllawiau ynglyn â Maeth
Rydym eisoes ar y ffordd i gyfarfod rhestr o gynigion a roddir yn nogfen ymgynghorol Llywodraeth Cynulliad Cymru 'Blas ar Fyw' a lansiwyd ym mis Mehefin 2006. Y nod yw gwella'n sylweddol safonau maeth cyfredol y bwyd a'r diod a ddarperir mewn ysgolion.
Y Cwricwlwm Ysgol
Rydym ni, y darparwyr cinio ysgol, yn cydweithio'n agos gyda phenaethiaid yr ysgolion a chyda staff yr ysgol i hyrwyddo bwyta'n iach. Yn aml iawn byddwn yn cyflwyno bwydlenni arbennig i gyd-fynd â chwricwlwm yr ysgol, e.e.dyddiau rhyngwladol, dyddiau llythrennedd, dyddiau rhifogrwydd ac yn y blaen.


Rhoi adborth ar y tudalen hon