| Hygyrchedd | Tudalennau Lleferydd |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
Dyddiau Themau/Hyrwyddo

Mae Gwasanaethau Arlwyo Sir Ddinbych yn aelodau o Gymdeithas Arlwywyr yr Awdurdodau Lleol  (CAALL) ac maent yn ymrwymedig i wella lluniaeth y disgyblion sydd o fewn yr Awdurdod.

Rydym yn cymryd rhan yn yr Wythnos Genedlaethol Hyrwyddo Prydau Ysgol, a drefnir gan  CAALL.  Thema 'r ddwy flynedd nesaf fydd rhywbeth  tebyg i  ' Rydych yr hyn rydych yn ei fwyta'.

Yr amcan yw hyrwyddo bwyta'n iach mewn dull sydd yn hwyliog, ac yn ysgafn. Bydd bwydlenni arbennig a chystadlaethau ar gael.
 
Rydym yn ystyried ein bod yn rhan o'r tîm yn yr ysgolion, a gallwn newid ein bwydlenni i gyfateb â digwyddiadau arbennig sydd yn y cwricwlwm ysgol e.e. Dyddiau Rhufeinig, Dyddiau Rhyngwladol, Dyddiau Rhyfel, a digwyddiadau penodol eraill.

Mae'r staff yn mwynhau'r diwrnodiau hyn gymaint â'r plant ac yn aml iawn, byddant yn ymuno yn yr hwyl o wisgo i fyny am y dydd.

  Level Double-A conformance icon, W3C-WAI Web Content Accessibility Guidelines 1.0