Radon
Nwy ymbelydrol sy’n digwydd yn naturiol ac nad oes iddo unrhyw flas, oglau neu liw ydy radon ac mae’n digwydd fel arfer ar lefel sy’n golygu bod y risg yn un y gellir ei hanwybyddu. Fe all, fodd bynnag, fynd i mewn i adeiladau o’r ddaear ac mewn mannau caeëdig fe all crynoadau grynhoi. Mae’r Bwrdd Amddiffyniad Radiolegol Cenedlaethol (NRPB) wedi cynghori bod y lefel Gweithredu Cenedlaethol yn cael ei osod yn 200 uned fel y crynhoad cyfartalog blynyddol. Yn uwch na’r lefel yma argymhellir bod mesurau i’w gweithredu i leihau lefelau radon i gyn ised ag sy’n rhesymol o ymarferol. Yn aml mae mesurau o’r fath yn eithaf syml a rhad i’w cwblhau.
Clustnodwyd sawl ardal yn Sir Ddinbych fel rhai sydd â’r potensial i fynd dros ben y cyfyngiad lefel Gweithredu ac yn fwyfwy gofynnir inni wneud sylwadau ar y mater hwn mewn chwiliadau tir lleol pan gaiff eiddo ei werthu a chan brynwyr a hysbysir gan eu syrfëwr.
Os oes angen, mae modd i berchenogion tai gael mesur lefel y nwy radon yn eu cartrefi. Mae’r prawf ar gael gan yr ‘NRPB’ ac mae’n ddiogel, yn syml i’w ddefnyddio a chaiff y canlyniadau eu trin yn gyfrinachol. Os digwydd i’r canlyniadau brofi bod lefelau radon yn uwch na’r trothwy, dylech gysylltu â’r Sefydliad Ymchwil Adeiladu (BRE) am gyngor yn rhad ac am ddim ar yr opsiynau a’r systemau sydd ar gael i’ch diogelu rhag radon.
Gellwch gael mwy o wybodaeth am Radon oddi wrth:
yr ‘NRPB’ ar: 0800 614529
Llinell Boeth Radon y ‘BRE’ ar: 01923 664707
neu drwy ddefnyddio’r manylion cysylltu sydd wedi’u darparu ar Dudalen Gartref Rheoli Llygredd.

Rhoi adborth ar y tudalen hon