Rheoli Mwg
Rydym yn derbyn llawer o gwynion yn ymwneud â mwg yn ystod y flwyddyn ariannol ddiwethaf, yn amrywio o niwsans mwg honedig yn codi o goelcerthi mewn gerddi cartrefi i gynhyrchu mwg tywyll o ffynonellau diwydiannol / masnachol.
Mae dau ddarn o ddeddfwriaeth 'rheoli mwg' y mae’r Tîm Rheoli Llygredd yn ei orfodi:
Deddf Diogelu’r Amgylchedd 1990
Mae modd defnyddio darpariaethau niwsans statudol i reoli coelcerthi gormodol neu fynych sy’n effeithio ar ardaloedd preswyl. Er hynny, nid ydy’r ddeddfwriaeth wedi’i bwriadu i atal y tân bychan, achlysurol, traddodiadol yn yr ardd.
Nid oes gennym unrhyw is-ddeddfau yn Sir Ddinbych sy’n rheoli’r amseroedd y caniateir coelcerthi’r cartref, gan fod pobl, mewn tywydd braf, yn aml yn dymuno eistedd yn eu gerddi, neu yn ystod y nos, gysgu gyda’u ffenestri ar agor.
Felly, byddem yn cynghori bod dulliau eraill o gael gwared â gwastraff gardd i’w defnyddio ble bynnag y bo modd, megis ei gompostio neu gael gwared arno yn un o safleoedd Adnoddau Dinesig Sir Ddinbych. Mae modd i wastraff gardd gael ei gasglu o’ch ty ar yr amod ei fod yn cael ei roi mewn sachau gwynion y gellir eu compostio sydd wedi’u prynu gan Gyngor Sir Ddinbych.
Gellwch gael yr wybodaeth ganlynol gan ffonio'r Gwasanaeth Gwsmeriaid ar 01824 706100:
- Amseroedd agor / cau safleoedd adnoddau dinesig, math(au) o wastraff a gymerir a’r cyfleusterau ailgylchu sydd ar gael,
- Cost o sachau gwynion y gellir eu compostio ac o ble y gellwch eu prynu,
- Biniau compost - manylion biniau cymorthdaledig sydd ar gael i drigolion Sir Ddinbych eu prynu.
Deddf Awyr Lân 1993
Eto coelcerthi ydy prif ffynhonnell y cwynion a dderbyniwn, a dan y ddeddfwriaeth hon mae’n drosedd i fwg tywyll gael ei ollwng o unrhyw adeiladau diwydiannol neu fasnachol. Y gosb am eich cael yn euog o drosedd dan y ddeddfwriaeth hon ydy dirwy o hyd at £20,000.
Caiff gwaredu gwastraff ei reoleiddio hefyd gan Asiantaeth yr Amgylchedd ac yn gyffredinol, maent yn gwahardd gwaredu gwastraff drwy goelcerthi ar y safle. Am hynny rydym yn argymell yn gryf y dylid mynd â phob gwastraff diwydiannol / masnachol i safle gwaredu gwastraff sydd wedi’i drwyddedu’n briodol.
Mae darpariaethau ar gael dan y ddeddfwriaeth hon hefyd i greu 'parthau rheoli mwg', ond nid ydy’r rhain wedi’u mabwysiadu gan Gyngor Sir Ddinbych.

Rhoi adborth ar y tudalen hon