Cydraddoldeb Oed
Daeth Rheoliadau Cydraddoldeb Cyflogaeth (oed) 2006 i rym ar Hydref 1 2006 i amddiffyn gweithwyr rhag gwahaniaethu ar sail oed. Yn fyr, mae’r rheoliadau’n ei gwneud yn anghyfreithlon i wahaniaethu yn erbyn gweithwyr, hyfforddai neu rai sy’n chwilio am waith ar sail oed ac yn sicrhau fod gan yr unigolyn yr un hawliau yn nhermau recriwtio, hyrwyddo a hyfforddiant. Mae’r rheoliadau’n ei gwneud yn anghyfreithlon i wahaniaethu un ai’n uniongyrchol, anuniongyrchol, drwy aflonyddwch neu erledigaeth; ac maent yn cynnwys pob gweithiwr ac unigolion sy’n cymryd rhan neu sy’n ymgeisio am hyfforddiant sy’n gysylltiedig â chyflogaeth.
Gellir cael gwybodaeth fanylach ar wefan Age Positive. Cliciwch ar y linc ar y chwith am fwy o wybodaeth.
Yn 2001, roedd 60% o’r bobl oedd yn byw yn Sir Ddinbych rhwng 16 a 64 oed, 20% o dan 15 oed a 20% dros 65 oed. Fodd bynnag mae gwybodaeth ddiweddarach yn dangos, o’i gymharu â phoblogaeth Cymru’n gyffredinol, fod proffil oed Sir Ddinbych yn hŷn gyda 23% o’r boblogaeth o oed neu dros oed ymddeoliad o’i gymharu â 20% yn genedlaethol.
Mae Cyngor Sir Ddinbych yn cynnig ystod o fentrau ar gyfer pobl hŷn:
- Menter 50+ ar gyfer hamdden
- Nofio am ddim i rai dan 16 a thros 60
- Cynllun Bws Nos
- Casgliad biniau cymorthedig i bobl hŷn.
Fe gesglir data ar oed ar gyfer pobl ddigartref a phobl mewn cartrefi lloches a’r rhai sy’n ymgeisio am fudd-dal tai oherwydd efallai fod gan unigolion anghenion gwahanol yn dibynnu ar eu hoed. Mae staff ein gwasanaeth Budd-daliadau Tai wedi ymgymryd ag hyfforddiant ar y cyd gyda’r Gwasanaeth Pensiynau ar gyfer darparu gwasanaethau i bobl hŷn.
- Rydym ar hyn o bryd yn gweithio mewn partneriaeth gydag asiantau eraill lle mae’n polisïau allweddol yn cael eu ‘hoed amddiffyn’ gan Bartneriaeth Pobl Hŷn.
- Rydym yn gweithredu cynllun peilot warden yn y sector breifat i gefnogi pobl hŷn sy’n byw yn eu cartrefi eu hunain.
- Rydym yn bwriadu datblygu cynllun cefnogaeth lefel uchel o chwe gwely ar gyfer pobl ifanc a helpu’r rhai hynny sy’n gadael gofal i ddod o hyd i lety addas.


Rhoi adborth ar y tudalen hon