| Hygyrchedd | Tudalennau Lleferydd | Help |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
Sir Ddinbych
Tîm Lleoli Teuluoedd (Maethu)

Tîm Lleoli Teuluoedd

Mae gan y Gwasanaeth Plant a Theuluoedd wasanaeth maethu a redir gan y Tîm Lleoli Teuluoedd.
Wrth gyflwyno'r gwasanaeth maethu, mae'r Tîm Lleoliadau Teuluoedd yn:

  • Recriwtio ystod o ofalwyr maeth i ddarparu lleoliadau a sadrwydd i blant sydd angen y gwasanaeth;
  • Sicrhau bod gofalwyr maeth yn derbyn goruchwyliaeth ddigonol i ddarparu safonau uchel gofal i blant a phobl ifanc. Mae hyn yn cynnwys gweithiwr cymdeithasol goruchwylio penodol i weithio gyda'r gofalydd maeth a'i deulu;
  • Darparu hyfforddiant i ddiwallu anghenion datblygu gofalwyr maeth, gan gynnwys cyflawni dyfarniadau a gydnabyddir yn genedlaethol;
  • Sicrhau bod addasrwydd parhaus gofalwyr maeth yn cael ei arolygu yn flynyddol;
  • Sicrhau bod y gofal a ddarperir gan ein gofalwyr maeth yn diogelu lles a datblygiad plant ac yn eu hamddiffyn rhag niwed;
  • Sicrhau bod y gofal a ddarperir gan ein gofalwyr maeth yn hybu lles plant a phobl ifanc gan gynnwys anghenion iechyd, addysg, hiliol, ieithyddol, diwylliannol a chrefyddol y plentyn / berson ifanc;
  • Rhoi ystyriaeth lawn i ryw, rhywioldeb ac unrhyw anabledd plant a phobl ifanc a gaiff eu meithrin fel bod eu hunaniaeth yn cael ei gynnal a'u potensial llawn yn cael ei gyflawni;
  • Gweithio mewn partneriaeth gyda gofalwyr maeth, staff gwaith cymdeithasol, teuluoedd a phlant i ddiwallu orau anghenion y plant;
  • Darparu cefnogaeth i feibion a merched gofalwyr maeth.

I gael mwy o wybodaeth feithrin ffoniwch am ddim ar 0800 7313215.

 Llyfrnodwch y dudalen yma: Delicious image del.icio.us | Digg image Digg | Reddit image Reddit | Facebook image facebook | Stumbleupon image StumbleUpon | Llyfrnodi cymdeithasol  
 Polisi Cwci | Diarddelwad | Cydraddoldeb | Polisis Dirgelwch | ©2013 Cyngor Sir Dinbych