| Hygyrchedd | Tudalennau Lleferydd |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
Gwasanaethau eraill sydd ar gael
Gwasanaethau eraill sydd ar gael

Gwasanaethau eraill sydd ar gael

  • Cynadleddau Grŵp Teulu

O bryd i'w gilydd, mae pob teulu yn cael problemau. Weithiau mae teuluoedd yn medru datrys y rhain gyda chymorth gan berthnasau a chyfeillion, ond efallai bod rhai teuluoedd angen help gan bobl eraill. Mae cynadleddau grŵp teuluol yn ffordd o roddi cyfle i deuluoedd ddod at ei gilydd a cheisio llunio'r cynllun gorau posibl ar gyfer y plant. Mewn cynhadledd grŵp teulu, y teulu sy'n cymryd y penderfyniad, nid pobl o asiantaethau eraill.

  • Canolfannau teulu

Mae gennym un ganolfan teulu yn Sir Ddinbych, sef Glan-Y-Môr yn y Rhyl. Mae'r ganolfan yn cynnig help, cyngor a chefnogaeth i blant a'u rhieni a'u gofalwyr ac fe'i rhedir gan NCH ar ran Gwasanaethau Cymdeithasol Sir Ddinbych.

  • Gwasanaeth Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc (GIMPPI)

Mae'r gwasanaeth hwn ar gyfer teuluoedd gyda phlentyn neu berson ifanc gyda phroblemau seicolegol, emosiynol neu ymddygiad. Medrent gynnig help i deuluoedd, pobl ifanc, rhieni gofalwyr maeth a rhai sy'n mabwysiadu. Rydym yn cyflogi gweithwyr arbenigol yn y tîm GIMPPI ac yn cyfeirio plant a theuluoedd atynt, os ydynt angen y math hwn o help.

  • Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid (GCI)

Mae'r GCI yn cynnwys pobl o'r heddlu, gwasanaeth prawf, Gwasanaethau Cymdeithasol, iechyd, addysg, camddefnyddio cyffuriau ac alcohol a swyddogion tai. Mae'n gweithio gyda phobl ifanc sydd wedi cyflawni troseddau, ac yn adnabod anghenion pob troseddwr ifanc trwy eu hasesu. Mae'r asesiad yn nodi'r problemau sy'n gwneud i rywun droseddu, ynghyd â mesur y risg y maent yn ei chynrychioli i eraill. Gall y TTI yna ddatblygu cynllun  i rwystro troseddu yn y dyfodol.

  • Grŵp Gofalwyr Ifanc

Mae'r Grŵp Gofalwyr ifanc yn helpu plant a phobl ifanc sy'n gofalu am rywun yn eu teulu. Mae gofalwyr ifanc yn aml yn gorfod gwneud pethau nad yw’r rhan fwyaf o bobl ifanc eu hoedran nhw yn ei wneud fel arfer. Mae’r grŵp hwn yn rhoi cyfle iddynt fwynhau cyfeillgarwch a phrofiadau a allai fod ar goll o'u bywydau fel arall, oherwydd yr amser a dreulir ganddynt yn gofalu am eraill.

 

 

 

I gael mwy o wybodaeth am ein gwasanaethau neu os hoffech gael cymorth gan y Gwansanaeth Plant a Theuluoedd cliciwch yma
  Level Double-A conformance icon, W3C-WAI Web Content Accessibility Guidelines 1.0