Mae gennyf blant fy hunan. Sut fydd maethu'n eu heffeithio?
Os oes gennych blant yn byw gartref, bydd maethu'n golygu y bydd yn rhaid iddynt rannu eich amser chi a'u cartref gyda phlant eraill. Mae llawer o blant gofalwyr maeth yn mwynhau maethu, ond i eraill mae'n anodd iawn. Mae'n bwysig eich bod yn parhau i siarad gyda, a gwrando ar eich plant, a neilltuo amser ar eu cyfer hwy'n unig.
Faint o wybodaeth a gaf ynglŷn â phlentyn neu rywun yn ei arddegau a leolir gyda mi?
Byddwn yn dweud wrthych bopeth rydym yn ei wybod, er mwyn i chi gael darparu gofal diogel o ansawdd uchel. Cofnodir gwybodaeth ar set o ffurflenni ac rydych yn derbyn blwch â chlo i gadw eich copïau chi o'r ffurflenni. Weithiau nid ydym yn gwybod llawer ein hunain – ond fel rheol dim ond os yw'r lleoliad yn un annisgwyl.
Mae gennyf gollfarn droseddol. A fedraf faethu beth bynnag?
Os ydych erioed wedi eich collfarnu o drosedd yn erbyn plentyn, ni chewch faethu. Mae'n bwysig eich bod yn hysbysu eich gweithiwr cymdeithasol ynglŷn ag unrhyw droseddau eraill (gan gynnwys troseddau moduro) pan wnewch gais i faethu. Bydd a gewch faethu yn Sir Ddinbych ai peidio yn dibynnu ar y math o drosedd a'r amgylchiadau.
Pam mae angen i mi gael cysylltiad gyda theulu'r plentyn?
“Rwy'n gwybod beth wnaethon' nhw, ond nhw yw fy rhieni ac rwy'n eu caru. Mae'n gas gen i pan mae'r gofalydd maeth yn actio fel nad ydynt yn bodoli."
Mae cadw mewn cysylltiad â'r teulu'n angen anferth i'r rhan fwyaf o blant a rhai yn eu harddegau. Mae'n gwneud bywyd pawb yn anoddach os nad yw gofalwyr maeth yn deall hynny. Mae lefel y cysylltiad sydd gennych gyda theulu yn cael ei gytuno gyda gweithiwr cymdeithasol y plentyn. Weithiau mae'n golygu helpu plentyn i gadw mewn cysylltiad. Ar adegau eraill, efallai bydd cysylltiad llawer closach gyda'r teulu, yn enwedig os yw'r plentyn i ddychwelyd gartref yn fuan.
Faint sydd gen i i'w ddweud ynglŷn â'r math o blentyn rwyf yn ei feithrin?
Bydd eich gweithiwr cymdeithasol yn eich helpu i benderfynu pa nifer, oedran a rhyw plentyn neu berson yn ei arddegau rydych eisiau ei faethu. Mae rhai pobl yn cynnig gwneud popeth, ac eraill yn arbenigo. Mae'n bwysig bod cyfatebu da rhwng anghenion y plentyn maeth a'r hyn y medrwch ei gynnig, felly byddwn bob amser yn ceisio cadw at yr hyn a ddwed'soch chi. Os nad oes gofalwyr maeth eraill ar gael, efallai y gofynnwn i chi ystyried cymryd pentyn gydag anghenion gwahanol. Medrwch bob amser ddweud na os nad ydych yn meddwl y medrwch ddiwallu anghenion plentyn penodol.
Unwaith rwyf yn ofalydd maeth, a oes yn rhaid i mi wneud hynny am byth?
Na. Mae rhai pobl yn maethu am ychydig o flynyddoedd ac yna'n dewis rhoi'r gorau iddi. Mae eraill sydd wedi bod yn maethu yn Sir Ddinbych am fwy na 25 o flynyddoedd. Y cyfan rydym yn ei ofyn yw eich bod yn maethu am o leiaf dair blynedd. Mae rhai pobl yn parhau, ond gan gymryd egwyl. Gall hyn fod oherwydd argyfwng yn y teulu neu i ail-danio'r batris rhwng lleoliadau. Os oes angen i chi weithio'n arbennig o anodd gyda phlentyn neu berson ifanc yn ei arddegfau, efallai y cynigir egwyliau byrion rheolaidd i chi i'ch helpu i barhau gyda'u maethu.
Rwyf eisiau helpu, ond nid wyf yn credu bod maethu'n addas i mi. Beth arall medrwn ei wneud?
Ni all pawb faethu ond medrwch wneud gwahaniaeth mewn ffyrdd eraill. Mae gennym swyddi gwirfoddol a thaledig ar gyfer pobl a fedr gynnig ychydig o oriau'r wythnos i weithio gyda neu i fentorio plentyn sydd wedi ei faethu. Mae angen gofalwyr maeth rhan-amser arnom sy'n medru derbyn plentyn am ychydig o nosweithiau'r mis, i helpu cadw teulu gyda'i gilydd. Rydym hefyd angen pobl a fedr dderbyn plentyn neu berson yn ei arddegau yn barhaol i'w teulu trwy eu mabwysiadu. Os hoffech wybodaeth am unrhyw rai o'r rhain, gofynnwch.
I gael mwy o wybodaeth feithrin ffoniwch am ddim ar 0800 7313215.

