Sut ydw i’n holi ynglŷn â maethu?
Cysylltwch â ni trwy ffonio ein llinell recriwtio ar 0800 7313215. Byddwn yn sicrhau eich bod wedi trafod hyn gyda’ch teulu, gan y bydd yn eu heffeithio hwy hefyd. Pan fyddwn yn derbyn eich ymholiad, byddwn eisiau siarad â chi a threfnu ymweld â chi yn eich cartref. Yn yr ymweliad cyntaf hwnnw, bydd y Swyddog Recriwtio a Marchnata yn trafod maethu gyda chi ac yn eich helpu i benderfynu a ddylech wneud cais ffurfiol i faethu. Os byddwn yn cytuno bod gennych y potensial i faethu, byddwn yn eich annog i gwblhau a dychwelyd ffurflen gais cyn gynted ag y bo modd.
Mae archwiliadau cefndir yn rhan bwysig o’r broses o wneud cais. Byddwn yn holi’r Swyddfa Cofnodion Troseddol, archwilio ffeiliau awdurdod lleol, y gwasanaeth prawf a’r NSPCC. Medrwn gysylltu â phobl eraill gyda’ch caniatâd chi, er enghraifft cysylltu gydag ysgol eich plentyn. Mae’r ffurflen gais hefyd yn gofyn am amrywiol dystlythyrau. Byddwn yn anfon ffurflen i’w chwblhau at bob un a fydd yn rhoi geirda ar eich rhan ac fel rheol byddwn yn siarad â hwy hefyd.
Unwaith y byddwn wedi derbyn y ffurflen gais, wedi ei chwblhau, bydd Rheolwr y Tîm Lleoliadau Teulu yn dyrannu gweithiwr cymdeithasol i ymgymryd ag asesiad. Bydd y gweithiwr cymdeithasol yn ymweld â chi rhyw 6 gwaith i gwblhau’r asesiad. Nid yw fel arholiad, ond mae yn ffordd o sicrhau eich bod yn deall beth sy’n gysylltiedig â maethu a bod y sgiliau gennych (neu’r potensial i ddysgu’r sgiliau). Bydd y gweithiwr cymdeithasol sy’n asesu eisiau cyfarfod eich plant chi, os oes gennych rai, yn gynnar yn y broses. Gall maethu fod yn ymestynnol a gall roddi perthynas deuluol dan bwysau. Oherwydd hynny, bydd angen i’r gweithiwr cymdeithasol ofyn cwestiynau personol iawn, a’ch helpu chi i ystyried unrhyw anawsterau neu broblemau o’ch magwraeth chi. Mae rhai o’r gofalwyr maeth gorau wedi cael profiadau anodd yn y gorffennol, ond mae’n bwysig eu bod wedi eu datrys cyn dechrau maethu. Rydym yn ceisio sicrhau bod asesiadau yn drwyadl, ond hefyd yn cael eu cwblhau’n gyflym. Nid yw hyn bob amser yn bosibl.
Bydd rhan o’r asesiad yn golygu hyfforddiant. Bydd rhaglen hyfforddi ‘Sgiliau i faethu’ yn helpu eich paratoi ynghyd â’n cynorthwyo ni gyda’r asesiadau.
Ar ôl yr asesiad a’r hyfforddiant, mae eich gweithiwr cymdeithasol chi yn paratoi adroddiad ar gyfer ein panel maethu. Cewch gyfle i’w drafod a gwneud unrhyw sylwadau cyn i’r gweithiwr cymdeithasol gyflwyno’r adroddiad hwnnw i’r Panel Maethu. Mae’r Panel yn penderfynu a ddylid eich cymeradwyo fel gofalydd maeth i Sir Ddinbych. Mae’r Panel yn cynnwys nifer o bobl o amrywiol gefndiroedd.
Dylai’r asesiad sicrhau bod unrhyw amheuon ynglŷn â’ch addasrwydd ar gyfer maethu wedi eu trin yn ystod y broses asesu, er mwyn i’r panel fedru eich cymeradwyo. Bydd y Panel ond yn penderfynu gwrthod ceisiadau am resymau penodol iawn.
Os, ar ôl darllen y wybodaeth hon, bydd gennych ddiddordeb mewn parhau gyda chais i faethu, cwblhewch a chyflwyno’r ffurflen ar-lein sy’n mynegi eich diddordeb, neu ffoniwch ein llinell ymholiadau rhadffôn ar 0800 7313215.

