DEDDF DIOGELU DATA
CEFNDIR
Daeth y Ddeddf Gwarchod Data 1998 i rym ar 1af Mawrth 2000. Mae'n gosod rheolau ar gyfer prosesu gwybodaeth personol sy'n cynnwys nifer o gofnodion bapur yn ogystal a'r rhai a ddelir ar gyfrifiaduron.
Cliciwch yr isod i weld copi o'r Ddeddf
http://www.opsi.gov.uk/acts/acts1998/19980029.htm
PWRPAS
Pwrpas y ddeddf yw gwarchod hawliau unigolion a’u galluogi i gael gweld gwybodaeth a allai gael ei dal amdanynt. Mae’r Ddeddf hefyd yn gosod cyfrifoldeb ar Cyngor Sir Ddinbych i ddiogelu’r wybodaeth honno, i ymdrin â'r wybodaeth mewn ffordd arbennig, ac hefyd yn cyfyngu’r ffordd y gall gwybodaeth am eraill gael ei defnyddio a’i rhannu o fewn a’r
tu allan i’r sefydliad.
EGWYDDORION GWARCHOD DATA
Os ydych yn prosesu data personol rhaid ichi gydymffurfio â’r wyth egwyddor gwarchod data. Maent yn dweud bod rhaid i ddata:
- Gael ei brosesu’n deg a chyfreithlon
- Gael ei brosesu at ddibenion cyfyngedig
- Fod yn ddigonol, perthnasol a heb fod yn ormodol
- Fod yn gywir
- Beidio â chael ei gadw’n fwy nag sydd angen
- Gael ei brosesu’n unol â hawliau testun y data
- Fod yn ddiogel
- Beidio â chael ei drosglwyddo i wledydd y tu allan i’r Gymuned Ewropeaidd
Y COMISIYNYDD GWYBODAETH
Gorfodir y Ddeddf gan y Comisiynydd Gwybodaeth sydd yn gyfrifol am orfodi'r ddeddf yn ogystal a darparu cyngor a chymorth i awdurdodau sydd yn prosesu gwybodaeth ar unigolion yn ogystal ag i'r unigolion y prosesi'r y wybodaeth amdanynt. Am wybodaeth bellach neu gyngor ewch i wefan y Comisiynydd.


Rhoi adborth ar y tudalen hon