Amgueddfa Y Rhyl
Mae Amgueddfa Y Rhyl yn rhoi cipolwg difyr ac addysgiadol ar dref a lle gwyliau Y Rhyl. Edrychwch yn y ciosgau hen ffasiwn i ddarganfod eitemau o'r hen ddyddiau sydd yn dod a'r gorffennol yn fyw.
Ewch am dro i lawr y 'pier' am olygfa o'r dref a'r traeth o'r oes Edwardaidd
Edrychwch ar y teganau, y chwaraeon a'r difyrrwch roddodd gymaint o hwyl i nain a taid!
Darganfyddwch am yr Ail Ryfel Byd yn y dref, am rai o'i chymeriadau, un o arloeswyr byd y sinema a fu fyw yno ac am llawer mwy..... Cliciwch ar y cyswllt Digwyddiadau i weld os oes unrhyw weithgareddau ymlaen yn yr Amgueddfa
Cyswllt: Susan Dalloe. Ff ôn. 01824 708274 .Ffacs. 01824 708258. Neu LLyfrgell Oriel ac Amgueddfa Y Rhyl, Stryd yr Eglwys, Y Rhyl. Sir Ddinbych. LL18 3AA
Ffôn. 01745 353814 Ffacs. 01745 331438.Cyfeiriadau arwyddbyst o'r promenâd.Ar Agor:.Dydd Llun, Mawrth, Mercher, Gwener 0930-1900. Dydd Iau 0930-1730. Dydd Sadwrn 0930-1230..Cyfleusterau: Mynediad i'r anabl, toiledau, ystafell addysg, caffi, arddangosfeydd dros dro. Mynediad Am Ddim. Gellir derbyn grwpiau ar gyfer sgyrsiau a gweithgareddau trwy gydol y flwyddyn.

Rhoi adborth ar y tudalen hon