| Hygyrchedd | Tudalennau Lleferydd |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
Ymgynghoriad
Gyngor Sir Ddinbych

Yngynghoriadau Cyhoeddus
Mae'r dudalen hwn yn darparu mynediad at wybodaeth am ymgynghoriadau sydd ymlaen ar hyn o bryd, gellir gweld y manylion ar ein gwefan.  Mae adrannau gwahanol o fewn y cyngor yn gyfrifol am wahanol ymgynghoriadau. Os hoffech wneud sylw ar unrhyw un o'r ymgynghoriadau, dilynwch y linc a ddarperir ac mi fydd y manylion cyswllt perthnasol ar gael i chi.  Mae pob ymgynghoriad presennol wedi eu rhestr isod gyda crynodeb byr. Ar waelod y dudalen gwelwch linc at yr ymgynghoriadau sydd wedi dod i ben.

Cynlluniau addysg - helpwch i wneud gwahaniaeth

Mae Cyngor Sir Ddinbych yn ymroddedig i foderneiddio addysg yn y Sir fel y gall plant a phobl ifanc gael addysg o’r radd flaenaf. Rydym yn cydnabod pwysigrwydd cael adeiladau modern sy’n ffit i’r pwrpas ac sy’n cyfarfod ag anghenion addysg y byd modern. Mae angen i ysgolion allu darparu’r profiad dysgu gorau posib, i sicrhau fod plant a phobl ifanc yn cael y cyfleoedd gorau sydd ar gael iddyn nhw a’u bod yn gallu cyrraedd eu potensial llawn.
Mae’r cyngor wedi dyfeisio 10 o bolisïau newydd a fydd yn cael eu defnyddio fel man cychwyn ar gyfer y fframwaith Moderneiddio Addysg. Mae’r polisïau hyn yn dal ar ffurf drafft ac rydym yn awyddus i gael eich barn. Y terfyn amser i ymateb yw Rhagfyr 12sed. Cliciwch yma.

Cymuned Diogelwch - Gatiau Alley  

Rydym yn ystyried gosod mwy o gatiau ali yn Sir Ddinbych. Y broses yw bod pobl leol neu Aelodau Etholedig yn gofyn am gael gatiau i ymateb i broblemau yn eu Cymuned. Rydym wedi arolygu'r ardal a phenderfynwyd y gallai gatiau ali fod o gymorth. Mae'r ymgynghoriad hwn yn gadael i chi, y gymuned, wybod beth sy'n cael ei ystyried gan ganiatáu i chi wneud sylwadau. Daw'r cyfnod ymgynghori i ben ar 7 Rhagfyr 2008. Cliciwch yma am mwy o wybodaeth.

Ymgynghoriadau wedi cau


Gellir gweld unrhyw ymgynghoriadau'r cyhoedd sydd wedi cau yma. Byddwch yn ymwybodol fod y dogfennau yma nawr wedi cau a dydi hi ddim yn bosib rhoi adborth amdanynt.

  Level Double-A conformance icon, W3C-WAI Web Content Accessibility Guidelines 1.0