Mae Gwasanaeth Cefn Gwlad Sir Ddinbych yn cyhoeddi rhaglen flynyddol o ddigwyddiadau a elwir O Gwmpas yng Nghefn Gwlad Sir Ddinbych sydd AM DDIM ac yn llawn o weithgareddau hwyliog i’r teulu, teithiau cerdded gydag arweinydd, a thasgau ymarferol.
Defnyddiwch y dolenni i gael mwy o wybodaeth.
O Gwmpas yng Nghefn Gwlad Sir Ddinbych
(pdf, 4,387.97 KB) Croeso
Dyma rifyn llawn arall o O Gwmpas. Cewch fwynhad o’r digwyddiadau ymarferol hwyliog ac addysgol i’r holl deulu.
Cofiwch anfon eich sylwadau atom, gan ddefnyddio’r ffurflen sydd gyda’r llyfryn hwn a’r daflen gwerthuso ar y diwrnod. Eleni, oherwydd y galw, daeth ‘Hwyl yn y Coed’ yn ôl. Ein partneriaid mewn Addysg - Comisiwn Coedwigaeth Cymru - sy’n ei gynnal ac mae yma fwy o deithiau cerdded gyda themau a digwyddiadau nag erioed.
Gofynnir ichi sylwi ein bod wedi newid ein system fwcio ar gyfer y Digwyddiadau Teuluol am fod gymaint o bobl yn bwcio ond heb ymddangos ar y diwrnod, felly gofynnwn am eich amynedd wrth inni arbrofi gyda’r dull newydd, gweler Hwyl i’r Teulu am fanylion.
Gobeithio byddwch yn mwynhau derbyn O Gwmpas yng Nghefn Gwlad Sir Ddinbych.