Fforwm Landlordiaid Sir Ddinbych
Mae 'Fforwm Landlordiaid Sir Ddinbych' yn gyfarfod a gynhelir bob 3 mis.
Mae'n gyfle i landlordiaid gyfarfod a thrafod gyda swyddogion Gorfodi Tai ac Aelodau'r Cyngor - gwahoddir siaradwyr gwahanol i bob cyfarfod i roddi cyflwyniadau ar bynciau cyfredol sy'n effeithio landlordiaid yn uniongyrchol.
Amcan 'Fforwm Landlordiaid Sir Ddinbych' yw gwella cyfathrebu a ffurfio partneriaethau agos trwy weithio gyda landlordiaid preifat, a hybu a gwella safonau yn y sector rhentu preifat.
Mae'r Fforwm yn agored i landlordiaid preifat, asiantau gosod neu unrhyw gorff arall sydd â diddordeb mewn materion sy'n effeithio'r sector rhentu preifat.
Cwestiynau y gofynnir yn aml
Beth ydych yn gobeithio ei gyflawni yn y Fforwm?
Cynyddu ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o ddeddfwriaeth newydd ac arfaethedig, polisïau’r awdurdod lleol a chyrff rheoleiddio eraill
- Cynorthwyo landlordiaid i baratoi ar gyfer deddfwriaeth newydd
- Ffurfio rhan o unrhyw broses ymgynghori a gychwynnwyd gan yr awdurdod lleol ar faterion sy'n effeithio landlordiaid sector preifat.
- Bod yn bwynt cyswllt rhwng y landlord a swyddogion yr Awdurdod Lleol ac awdurdodau rheoleiddio eraill
- Rhoi gwybodaeth a hwyluso gyda chymorth ariannol i landlordiaid
- Gwella delwedd landlordiaid sector cyhoeddus trwy gyfrwng cyhoeddusrwydd positif
- Annog rhwydweithio rhwng landlordiaid
Sut medraf chwarae rhan yn y Fforwm Landlordiaid?
Sefydlwyd 'Gweithgor' y Fforwm yn 2005 i gefnogi prif gyfarfod y Fforwm; fe'i mynychir gan nifer fechan o landlordiaid preifat a swyddogion y Cyngor ychydig wythnosau cyn y prif Fforwm. Mae'r cyfarfodydd yn anffurfiol iawn a'r nod yw trafod/ymgynghori ar faterion megis:
- Pynciau a siaradwyr ar gyfer cyfarfodydd Fforwm yn y dyfodol
- Seminarau eraill o ddiddordeb i landlordiaid
- Trwyddedu Tai Amlfeddiannaeth
- Dulliau o wella'r Fforwm
Os hoffech ymuno â'r Gweithgor neu os ydych yn gwybod am unrhyw faterion a all fod o ddiddordeb i landlordiaid preifat, cysylltwch â ni yn yr adran Gorfodi Tai. Rydym yn croesawu syniadau newydd bob amser.
Sut byddaf yn gwybod pryd mae'r cyfarfod nesaf?
Mae dyddiadau’r Fforwm yn amlwg yn amrywio yn dibynnu ar argaeledd siaradwyr ac ati, ond fel rheol fe'u cynhelir ym misoedd Chwefror, Mai, Awst a Thachwedd. Mae'r cyfarfod yn cychwyn am 6pm fel arfer, gyda te a choffi ymlaen llaw a bwffe llaw ar y diwedd - ni chodir tâl i fynychu'r cyfarfod.
Mae gan yr adran Gorfodi Tai restr bostio sy'n cynnwys pobl sydd eisiau derbyn gwahoddiad i'r Fforwm Landlordiaid; anfonir y rhain allan 1-2 wythnos cyn dyddiad y Fforwm, ac maent yn cynnwys agenda fel bod landlordiaid yn gwybod pa siaradwyr a fydd yno yn rhoi cyflwyniadau.
I ychwanegu eich enw at y rhestr, cysylltwch â'r adran Gorfodi Tai gyda'ch manylion. Medrwch wneud hyn dros y ffôn, trwy e-bost neu trwy gwblhau'r ffurflen rhestr bostio sydd ar gael trwy glicio'r ddogfen isod:
Medrwch ofyn am gael tynnu eich enw oddi ar y rhestr bostio ar unrhyw adeg.

Rhoi adborth ar y tudalen hon