Cyhoedda Gwasanaeth Cefn Gwlad Sir Ddinbych newyddlen sy’n dangos peth o’r gwaith maent wedi’i wneud.
Gallwch ddefnyddio’r dolenni hyn ar y chwith i lwytho i lawr y Newyddlenni a gynhyrchwyd yn y gorffennol neu i edrych ar ddatganiadau diweddar i’r wasg.
Newyddion Cefn Gwlad 2008
(pdf, 1,179.65 KB) Ar y radio, y teledu ac yn y papur newydd fe gewch ryw gyfeiriad neu’i gilydd at fyw’n gynaliadwy ac at werthoedd teuluol bob dydd. Dyma bynciau llosg i’w trafod ac i weithredu arnynt. Tîm o bobl frwd a chymwys yw Gwasanaeth Cefn Gwlad Sir Ddinbych, rhai sy’n frwdfrydig ynghylch yr amgylchedd sydd o’u cwmpas.Cwblhaodd y tîm bach hwn nifer o brojectau sy’n cyfrannu at fyw’n gynaliadwy ac sy’n hyrwyddo parch at yr amgylchedd. Ni fyddai’r cyraeddiadau sydd yn y newyddlen hon yn bosib oni bai am i wirfoddolwyr rhyfeddol roi yn rhydd o’u hamser, eu sgiliau a’u hiwmor.
Gall y gwaith amrywio o blannu coed, gwella llwybrau, malu rhedyn, at drwsio hen ffiniau caeau, arwain teithiau cerdded, codi camfeydd, giatiau mochyn ac arwyddion. Ceir rhaglen o ddigwyddiadau llawn, Wythnos Cerdded, cylchgronau, paneli a chelf dehongli, mae yma nifer fawr o ffyrdd y gallwch gymryd rhan.
Bydd y newyddlen hon yn dangos rhai o lwyddiannau gwych 2006 a chyfleoedd yn 2007 gan eich ysgogi i ymuno yn y gwaith.
Gobeithio byddwch yn mwynhau Newyddion Cefn Gwlad.……….