| Hygyrchedd | Tudalennau Lleferydd |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
Bioamrywiaeth yn Sir Ddinbych
Bioamrywiaeth yn Sir Ddinbych

BETH YW BIOAMRYWIAETH?

Ystyr Bioamrywiaeth yw cyfoeth a gwahaniaethau bywyd. Mae’n cynnwys pob creadur a phlanhigyn byw o’r rhywogaethau mwyaf cyffredin i’r rhai sydd fwyaf o dan fygythiad a hefyd mae’n ymwneud â’r nifer gwahanol o gynefinoedd  maent yn byw ynddynt.

Mae’r rhain yn amrywio o fforestydd glaw trofannol a moroedd twym sy’n gyforiog o fywyd at anialdiroedd a thwndra’r Arctig ble mae’r amodau byw yn arw a lle gall ychydig yn unig o blanhigion ac anifeiliaid oroesi.

Ar hyn o bryd mae gwybodaeth gennym am fodolaeth 1.9 miliwn o rywogaethau o blanhigion, anifeiliaid a microbau, ond caiff rhywogaethau newydd eu darganfod yn barhaol dros y byd i gyd. Yn ôl rhai gwyddonwyr, efallai bod tua 5-30 miliwn o rywogaethau’n bodoli.

Mae Bioamrywiaeth ymhobman, o’r trychfilod lleiaf i’r goeden fwyaf gan ein cynnwys ninnau. Bydd ei pharhad yn dibynnu’n fawr ar ein gallu i ddeall, gwerthfawrogi a gwneud lle iddi.

Deunydd Bywyd

Mae popeth byw yn ddibynnol ar ei gilydd. Rydym ni’r ddynoliaeth yn dibynnu ar fioamrywiaeth i fyw. Rydym yn ddibynnol ar fioamrywiaeth am ein bwyd, dillad, iechyd, lles a mwynhad o fywyd. Cydnabuwyd gwerthoedd sylfaenol bioamrywiaeth yn gymdeithasol, diwylliannol ac economaidd mewn crefyddau, celfyddydau, llenyddiaeth o oesoedd cynharaf hanes cofnodedig. Mae’r bywyd gwyllt yn darparu gwasanaethau amgylcheddol y byddem ni’n ei chael hi’n anodd dros ben eu darparu ein hunain. Credir fod ecosystem sy’n uchel o ran ei fioamrywiaeth yn fwy gwydn ac yn gallu ymaddasu’n well a gwella ar ol straen fel sychder o gymharu â chynefin heb amrywiaeth i’r fath. Dyma rai o’r ffyrdd rydym ni’r ddynoliaeth yn elwa o’r Fioamrywiaeth.

Bwyd
Rydym yn ddibynnol iawn ar blanhigion ac anifeiliaid am ein bwyd er mai cyfran fach iawn ohonynt sy’n cael eu defnyddio ar raddfa fawr. O’r 10-50,000 o blanhigion y tybir iddynt fod yn fwytadwy, 150 yn unig sy’n cael eu defnyddio ar gyfer bwyd pobl, ac wrth i economeg dyfu’n fwy byd-eang bu’r ddynoliaeth yn canolbwyntio ar lai a llai o rywogaethau. Erbyn hyn, daw 90% o fwyd y byd o 15 o rywogaethau, a daw traean o fwyd o dair rhywogaeth yn unig sef gwenith, corn a reis. Un rheswm pwysig dros gadw bioamrywiaeth yw’r gronfa genynnau o blanhigion gwyllt sydd ei hangen i ychwanegu at sail enetig y cnydau bwyd sefydledig hyn, darparu gwydnwch yn erbyn heintiau, gwell cynnyrch, a goddefiant amgylcheddol gwahanol. Yn yr un modd, er y defnyddir nifer fawr o anifeiliaid yn fwyd, eto i gyd canolbwyntir ar ddefnyddio ychydig bach o rywogaethau. Golyga hyn i gyd bod yna botensial enfawr heb fanteisio arno i gynyddu’r mathau o fwyd sy’n addas i bobl ei fwyta.

Meddygaeth
Daw nifer fawr o gyffuriau o ffynonellau biolegol, ac mae llawer o blanhigion a ddefnyddiwyd gynt i wneud meddyginiaethau traddodiadol. Er enghraifft, arferai Indiaid Periw ddefnyddio trwyth o risgl y goeden Cinchona i wella’r malaria. Arweiniodd hyn at ddarganfod quinine yn driniaeth yn erbyn malaria. Ymhlith enghreifftiau eraill ceir aspirin sy’n deillio o goeden helyg a’r digitalis, cyffur at y galon sy’n dod o fysedd y cŵn. Ychydig iawn o blanhigion a gafodd eu harchwilio ac felly mae llawer o ffynonellau posib yn  bodoli  ar gyfer creu cyffuriau newydd.


Defnydd Crai
Daw llawer o ddefnyddiau diwydiannol o adnoddau biolegol. Yn eu plith ceir defnyddiau adeiladu fel coed, carreg, ffibrau fel cotwm a gwlân, lliwiau fel indigo (o’r planhigyn) a cochineal (o chwilen), rwber ac olew. Mae potensial eang heb ei ddefnyddio ar gyfer cynaliadwyaeth gan ddefnyddio  amrywiaeth ehangach o organebau. (lluniau, yn arbennig rhywun yn tapio am rwber a chasglu cotwm.)
 

Gwasanaethau Angenrheidiol
Darpara Bioamrywiaeth lawer iawn o wasanaethau rydym yn eu cymryd yn ganiataol. Mae’n chwarae rhan wrth reoli cemeg ein hatmosffer, drwy fod planhigion yn defnyddio deuocsid carbon, cynhyrchu ocsigen, a’r cyflenwad dwr. Mae planhigion yn amsugno dŵr drwy eu gwreiddiau ac yn ei ollwng drwy anweddiad eu dail. Mae microbau’n torri carthion yn ein safleoedd trin carthion.
Mae’r tyfiant planhigion yn yr ardaloedd dal dŵr yn rheoli ac yn cynnal rhediad y dŵr ac yn rhwystr yn erbyn digwyddiadau eithafol fel llifogydd. Mae bioamrywiaeth yn ymwneud yn uniongyrchol ag ailgylchu maetholion a gwneud pridd yn fwy ffrwythlon. Mae’r pryfed genwair a’r microbau mewn pridd yn torri i lawr y planhigion a’r anifeiliaid marw gan eu rhyddhau yn ôl i’r pridd - dyna sail compostio. Mae’r coed a’r tyfiant yn gwarchod y pridd rhag halltedd a thrwytholchi maetholion, yn rhwystro rhag tirlithriad ac yn diogelu ein harfordiroedd a glannau ein hafonydd rhag siltio.  Bydd gwenyn ac anifeiliaid eraill yn peillio nifer o blanhigion, a llawer o’r rheiny o werth masnachol, er enghraifft,mae tua threian o’r bwyd rydym yn ei fwyta yn dibynnu ar beillio gan y wenynen a thybir fod ganddynt werth masnachol blynyddol yn y DU o tua £200 miliwn.
 

Hamdden
Mae bywyd gwyllt yn werth ei gadw oherwydd y pleser mae’n ei roi inni, yn unig. Yn ogystal â’r tirweddau y mae’n rhan ohonynt, mae bywyd gwyllt yn hardd, ysblennydd ac yn ennyn chwilfrydedd. Bydd nifer o bobl wrth eu bodd yn mwynhau cerdded, beicio, mynd ar gefn ceffyl yn y wlad tra bo eraill yn hoff o wylio adar ac mae nifer mawr yn gwylio rhaglenni natur at y teledu. Bu bioamrywiaeth yn tanio dychymyg llu o artistiaid fel cerddorion, paentwyr, cerflunwyr, llenorion, beirdd ffotograffwyr a fforwyr yn ogystal â biolegwyr a naturiaethwyr. Ffotograffau o bobl yn mwynhau eu hunain yn Sir Ddinbych.


Incwm
Dibynna llawer o’n diwydiant twristiaeth ar gyfoeth y fioamrywiaeth oherwydd bod harddwch y dirwedd a’r bywyd gwyllt sydd ynddo yn denu nifer o’r ymwelwyr. Gwnaeth yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ymholiad o ymwelwyr ledled Cymru gan ddangos fod ymhell dros eu hanner oedd ar wyliau yng Nghymru yn cael eu hysgogi gan yr amgylchedd, a’u fod yn denu pobl eraill hefyd sy’n dod yma ar fusnes neu i weld perthnasau. 


Dewisiadau at y dyfodol
Ni wyddom beth fydd ein hanghenion yn y dyfodol, na beth fydd dynoliaeth yn gosod gwerth arno ymhen canrifoedd. Dim ond dechrau darganfod gwerthoedd meddyginiaethol planhigion y Ddaear rydym ni ac efallai nad ydym yn ymwybodol o’r gwasanaeth cynnal bywyd mae Bioamrywiaeth yn ei gynnig inni. Un o’r prif resymau am gadw amrywiaeth biolegol yw i ni, a’r holl rywogaethau eraill sy ar y blaned, allu addasu i’r amgylchiadau gwahanol nad ydym wedi’u rhagweld. Wrth adael i unrhyw rywogaeth farw ac wrth ddinistrio ecosystemau rydym yn lleihau ein dewisiadau nad ydym yn gwybod am eu bodolaeth ac nad ydym yn gwybod eto a fydd arnom eu hangen.

BIOAMRYWIAETH O DAN FYGYTHIAD…

Collodd y DU dros 100 o rywogaethau yn ystod y ganrif ddiwethaf.

Mae difodiant yn ffaith bywyd. Yn ôl cofnod y ffosiliau, ers i’r mathau cyntaf o fywyd ymddangos ar y Ddaear, bu rhywogaethau yn esblygu ac yn marw,. Yn y cyfnodau daearegol blaenorol, wrth i un rhywogaeth farw deuai rhai newydd yn eu lle. Ond erbyn hyn, mae hyn yn aml iawn yn amhosib nid i’r rhywogaethau eu hunain yn unig ond fe gollir cynefinoedd cyfan ac mae cyflymder difodiant yn uwch o lawer nag y bu yn y gorffennol.

Mae amgylchfyd y Ddaear yn newid yn gyflymach nag erioed o’r blaen, a phobl yn aml iawn sy’n gyfrifol am hyn. Bu pobl yn dylanwadu’n arw ar oroesiad planhigion gwyllt ac anifeiliaid ers miloedd o flynyddoedd ers y cyfnod y bu’r helwyr-gasglwyr yn casglu hadau a ffrwythau a hela mamothiaid a buail. Pan nad oedd llawer o bobl yn bodoli, a phan roedd eu ffordd o fyw yn syml, yna bach iawn oedd eu heffaith. Wrth i’r boblogaeth gynyddu ac i dechnoleg ddatblygu yna fe gynyddodd anghenion pobl a’u gallu i newid y byd naturiol o’u cwmpas ac o’r herwydd bu eu dylanwad yn fwy fyth. Yn ystod y 200 mlynedd ddiweddaraf, yn arbennig yr hanner canrif ddiwethaf y bu’r dylanwad mwyaf gan achosi colled nifer fawr o gynefinoedd a difodiant llawer o rywogaethau dros y byd.

Er enghraifft, trowyd mwy o dir yn dir amaeth ers 1945 nag yn ystod y 18fed a’r 19 ganrif gyda’i gilydd. Yn ôl yr amcangyfrif, fe ddiflannodd 90% o holl bysgod mawr o foroedd y byd yn ystod yr hanner canrif ddiwethaf o ganlyniad i bysgota ar raddfa ddiwydiannol, fe gollwyd 20% o gwrel y byd mewn 20 mlynedd yn unig, a 20% ar ben hynny’n ddiraddedig. Fe gymer gannoedd o filoedd o flynyddoedd i adfer beth sy’n cael ei ddinistrio dros ychydig o ddegawdau.

Yn ôl Asesiad Ecosystem y Mileniwm, y cyhoeddwyd y canlyniadau ym mis Mawrth 2005, mae  pobl wedi newid y rhan fwyaf o ecosystemau y tu hwnt i bob adnabyddiaeth a hynny mewn cyfnod byr iawn. Bu’r ffordd y mae cymdeithas yn cael ei hadnoddau yn achos newidiadau na ellir eu troi yn ôl sy’n diraddio prosesau naturiol sy’n cynnal bywyd ar y Ddaear. Erbyn hyn tybir fod cyfradd difodiant rhywogaethau yn 100 - 1,000 yn fwy na’r gyfradd gefndirol normal a bod 10-30% o holl rywogaethau mamaliaid, adar ac amffibiaid o dan fygythiad difodiant ar hyn o bryd.

Bywyd cyfoes yw’r bygythiad mwyaf i fioamrywiaeth. Mae cyflymder colli rhywogaethau yn fwy erbyn hyn nag ar unrhyw amser yn hanes.

Yr un mor dywyll yw’r llun yn Sir Ddinbych ac mae ein cynefin naturiol heddiw yn dlotach ac yn llai nag yng nghyfnod ein neiniau. Mae’r angen am atal y golled yr un mor bwysig yma ar y lefel leol ag yw yng nghoedwigoedd glaw yr Amazon neu’r riffiau trofannol. Cliciwch yma i weld rhestr o gynefinoedd a rhywogaethau sy’n lleihau yn Sir Ddinbych.

Y PRIF RESYMAU DROS LEIHAD MEWN BIOAMRYWIAETH?


• Colli cynefinoedd yw’r rheswm mwyaf sy’n effeithio ar fioamrywiaeth. Mae colli a diraddio cynefinoedd yn effeithio ar 86% o’r holl adar sy o dan fygythiad, 86% o holl famaliaid ac 88% o’r holl amffibiaid sydd o dan fygythiad. Dyma rai o’r prif achosion:

1. Newidiadau mewn amaethyddiaeth
Yn anochel, bu bwydo poblogaeth fawr o bobl yn golygu bod rhaid clirio llawer o dir ac oherwydd hyn fe ostyngodd y fioamrywiaeth. Yn y DU, fe dyfodd amaethyddiaeth yn fwy dwys, ffurfiwyd caeau mwy, a defnyddiwyd mwy o gemegolion. O’r herwydd fe ddinistriwyd y gwrychoedd, lleihaodd y meysydd blodau gwyllt, draeniwyd y gwlypdiroedd a chrëwyd mwy o lygredd.

2. Coedwigaeth fasnachol
Gall coedwigoedd eang o goed nad ydynt yn frodorol gynhyrchu llawer iawn o goed, ond yn aml iawn maent yn anialwch o ran bioamrywiaeth am mai ychydig iawn o rywogaethau’r DU sy’n gallu byw ynddynt. Ond mae gwelliannau ar y ffordd i gynyddu’r fioamrywiaeth mewn llawer o’r coedwigoedd drwy arferion rheoli fel tocio.

3. Gorddefnyddio adnoddau naturiol
Yn ystod y cyfnod modern, yn anaml iawn y bu dynoliaeth yn ystyried cadw cynefinoedd maent yn byw ynddynt neu’r rhywogaethau maent yn eu defnyddio. Mewn oes o gynnydd technolegol, a defnyddio mawr, ychydig iawn o ystyriaeth a roddwyd i’n hamgylchedd naturiol a’i allu i wrthsefyll pwysedd gweithgareddau a’r  ffordd o fyw cyfoes. Yn rhyngwladol, golygodd fod torri coed y fforestydd trofannol er mwyn cael coed caled wedi dinistrio ardaloedd eang o’n cynefinoedd mwyaf cyfoethog o ran rhywogaethau gwahanol. Gall chwarela a chloddio ddinistrio cynefinoedd yn frawychus o gyflym. Oherwydd gorbysgota fe ostyngodd poblogaethau o bysgod fel penfras yn y moroedd o gwmpas Prydain i lefel sy’n beryglus o isel. Unwaith bydd poblogaeth wedi disgyn yn arw yna gall gymryd degawdau iddi adfer, os bydd yn adfer o gwbl. Er enghraifft, mae rhai rhywogaethau o bysgod yn cael eu tynnu allan o’r dŵr cyn iddynt aeddfedu’n rhywiol, ac felly bydd hyn yn atal i’r boblogaeth adnewyddu’i hun.

4. Pwysedd datblygiad
Casgliad cymharol fach o ynysoedd yw’r DU ac mae yma boblogaeth ddynol fawr a gofynion mawr yn cael ei roi ar y tir. Yn aml iawn, bu adeiladu ffyrdd, diwydiant neu dai yn cael blaenoriaeth dros gadwraeth natur. A hyd yn oed os na fydd y cynefinoedd yn cael eu dinistrio’n llwyr yna gallant gael eu torri’n ddarnau bach iawn, yn rhy fach efallai i’r cymunedau o blanhigion neu o anifeiliaid barhau’n  hyfyw.

• CYFLWYNO RHYWOGAETHAU NAD YDYNT YN FRODOROL
Credir mai dyma’r ffactor fwyaf sy’n effeithio ar  fioamrywiaeth. Cyrhaeddodd planhigion ac anifeiliaid dieithr yma o rannau eraill y byd wrth i bobl ei cludo yma. Yr enw arnynt yw rhywogaethau estron. Gallant ddylanwadu’r ddirfawr ar yr ecosystemau lleol am iddynt hela rhywogaethau brodorol neu gystadlu am fwyd. Yn y DU, fe ledodd planhigion fel Japanese Knotweed a Himalayan Balsam ar hyd glannau llawer o’n hafonydd gan fygu’r rhywogaethau brodorol. Anifail a gyflwynwyd yma yw’r Minc America a chafodd effaith difrifol ar y bywyd gwyllt brodorol. Yn yr 1920au y daethpwyd â hwy i’r  DU ar gyfer ffermio ffwr, ac erbyn hyn fe ledasant i bob rhan o Brydain ac eithrio rhai ynysoedd pellenig. Achosodd yr anifail ddirywiad enbyd o ran niferoedd yr adar sy’n nythu ar y ddaear, yn enwedig. Credir erbyn hyn mai llygoden y dŵr yw’r mamal sy’n diflannu gyflymaf ym Mhrydain. Anifail estron arall yw’r wiwer lwyd. Cysylltir y wiwer hon â dirywiad poblogaeth y wiwer goch frodorol yn y DU. Yn ogystal ag effaith y rhywogaethau estron yn ysglyfaethau, mae pryderon yn bod oherwydd bridio rhwng y  rhywogaethau brodorol. Gall y croesiad sy’n deillio o hyn fod yn wahanol iawn i’r planhigion a’r anifeiliaid sydd wedi addasu’n dda.

• LLYGREDD
Un canlyniad diwydiant fu’r cemegolion a ollyngwyd i’r amgylchedd ac a gafodd effaith anffafriol ar y bywyd gwyllt. Er enghraifft bu’r dyfrgi bron â diflannu o Gymru yn ystod yr 1980au oherwydd llygredd y dyfroedd. Gwellodd y sefyllfa a chafwyd rheolau a deddfau i ddiogelu yn erbyn gweithgareddau sy’n llygru. Ond mae damweiniau’n neu daflu’n fwriadol yn dal i ddigwydd ac yn fygythiad i’r bywyd gwyllt.


• NEWID HINSAWDD
Cytuna’r mwyafrif o wyddonwyr fod y blaned yn twymo, ac mai allyriannau deuocsid carbon yn sgil gweithgareddau dynol fel llosgi tanwydd ffosil sy’n rhannol gyfrifol am hyn. Er bod newidiadau yn hinsawdd y Ddaear dros gyfnod hanes yn naturiol, credir fod y broses yn cael ei chyflymu a’i gwaethygu drwy weithgaredd pobl. Ni wyddys yn hollol ym mha fodd y bydd twymo byd-eang yn effeithio ar fioamrywiaeth, ond yn sicr mi fydd yn cael effaith. Gallai newid hinsawdd effeithio ar allu’r rhywogaeth i oroesi ac i genhedlu. Gallai cynnydd cymharol fychan effeithio’n sylweddol ar batrymau bioamrywiaeth. Cydnabyddir fod newid hinsawdd eisoes yn fygythiad difrifol i’r riffiau cwrel. Gall codi neu ostwng tymheredd wneud i’r cwrel ollwng yr algâu symbiotig y maent yn dibynnu arnynt am y rhan fwyaf o’u bwyd. Amcangyfrifir, hyd yn oed gyda rhagolygon senario gorau, y bydd y riff cwrel mwyaf yn y byd y Great Barrier Reef, yn colli 95% o’i gwrel erbyn y flwyddyn 2050.


•DIFFYG YMWYBYDDIAETH O’R AMGYLCHFYD
Gellir dadlau fod y problemau amgylcheddol rydym yn eu hwynebu heddiw (gan gynnwys y rhai a grybwyllwyd uchod) wedi codi’n rhannol o ddiffyg ymwybod cyffredinol o ba mor fregus yw ein hamgylchedd, ac o’i wir werth ( nid y gwerth ariannol). Po fwyaf ymwybodol rydym o’r fioamrywiaeth ac o sut i’w gadw  po fwyaf y gallwn chwarae ein rhan mewn gwarchod a gwella’r adnodd gwerthfawr hwn.  

CADW BIOAMRYWIAETH

Yn y gynhadledd Cenhedloedd Unedig ar yr Amgylchedd a Datblygiad yn Rio de Janeiro, Brazil yn 1992 y cyflwynwyd y syniad o fioamrywiaeth yn gyntaf. Bu cadwraethwyr yn gweithio i gadw’r bywyd gwyllt a’r cynefinoedd am ddegawdau, ond dim ond ers y Gynhadledd hon y bu llywodraethau dros y byd yn cydnabod y colledion o ran bioamrywiaeth dros y 50 mlynedd diwethaf.

 O hyn, lluniwyd y Confensiwn Rhyngwladol ar Amrywiaeth Fiolegol (ICBD) ac fei’i lofnodwyd gan dros 150 o wledydd ledled y byd, gan gynnwys y DU, er mwyn ceisio atal y colledion cynyddol dros y byd o ran bioamrywiaeth. Roedd y llofnodyddion yn cydnabod  bod gan bob gwlad gyfrifoldeb flaenllaw i fynd i’r afael â’r colledion bioamrywiaeth oedd o dan eu hawdurdodaeth gan gytuno i gynhyrchu rhaglenni gweithredu er mwyn cyflawni hyn.

Roedd Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth y DU yn un o’r rhai cyntaf i gael ei gynhyrchu yn 1994. Roedd yn amlinellu dull o gadwraeth natur ym Mhrydain oedd yn ymwneud yn fwy a thargedau gan argymell y dylai pob sir gynhyrchu ei strategaeth ei hunan ar gyfer cynnal a gwella’r fioamrywiaeth, gan droi’r blaenoriaethau gwladol yn weithredu lleol. Felly, fe aned y Cynlluniau Gweithredu Bioamrywiaeth Lleol (LBAP).

  Level Double-A conformance icon, W3C-WAI Web Content Accessibility Guidelines 1.0