Darlun bras o linell amser Archaeoleg ym Mryniau Clwyd AHNE
Yr Hanes a’r Trysorau Cudd
Cyn 10,000 o flynyddoedd yn ôl
Palaeolithig/ yr Hen Oes Gerrig
Dyma’r oes pan roedd pobl yn helwyr gan deithio o le i le i ddilyn symudiadau tymhorol yr anifeiliaid.
Mae offer ac esgyrn anifeiliaid. (Hiena, Rhinoseros, Llew, Arth, Ceffyl, Llwynog, Carw) wedi’u darganfod yn yr ogofeydd calchfaen yng Nghae Gwyn a Ffynnon Beuno, Tremeirchion.
10,000 o flynyddoedd yn ôl
Mesolithig/ yr Oes Gerrig Ganol
Mae’n debyg mai mewn gwersylloedd symudol o dymor i dymor roedd y rhai oedd yn casglu a hela’n aros. Roeddent yn defnyddio offer ysgafn a chain a wnaed o fflint ac o siert i wneud pethau defnyddiol fel gwaywffyn a bachau pysgota. Ychydig o olion adawsant ar Fryniau Clwyd, ac eithrio ychydig o offer mewn lleoedd fel Plas Mia ac efallai yn rhan o gladdfa mewn ogof ger Llanarmon.
6000 o flynyddoedd yn ôl
Neolithig
Yr Oes Gerrig Newydd
Dechreuodd pobl ffermio yn lle hela gan ddefnyddio offer gwahanol fel y bwyeill cerrig gloyw o Benmaenmawr. Mae’n debyg mai i glirio coed y defnyddid y rhain i wneud caeau ar gyfer tyfu cnydau a chadw anifeiliaid. Ar y Gop mae tomen cynhanes fwyaf y Deyrnas Unedig. Efallai iddi gael ei chodi yr adeg hon i nodi claddfeydd mewn ogofeydd ar y llethr islaw.
4000 o flynyddoedd yn ôl
yr Oes Efydd
Erbyn hyn roedd pobl yn ffermio’n fedrus, gan glirio tir ar gyfer gwneud caeau, a chlirio’r coed o ben y bryniau. Roeddent wedi dysgu sut i smeltio metel, copr yn gyntaf ac wedyn efydd. Ychydig a wyddom am y bobl a fu’n byw ar Fryniau Clwyd bryd hyn, ond rydym yn gwybod llawer am beth oedd yn digwydd pan roeddynt yn marw. Yn y tomenni bach, sy’n cael eu galw’n ‘tumulus’ ar fapiau mae claddfeydd a chorfflosgiadau. Maent i’w cael ar hyd a lled y Bryniau, yn enwedig ar ben Moel y Parc a Moel Eithinen.
2700 o flynyddoedd yn ôl
yr Oes Haearn
Erbyn 700BC, roedd pobl wedi dysgu sut i wneud offer o haearn yn ogystal ag o efydd a cherrig. Yn annhebyg i Oes yr Efydd, ychydig a wyddom am farw’r bobl hyn, ond mae llawer o dystiolaeth am ble roeddynt yn byw. Yn ôl olion chwe bryngaer enwog ar Fryniau Clwyd roedd angen adeiladu amddiffynfeydd cadarn yn gartrefi - pam? Efallai bod y tywydd yn oerach ac yn wlypach, ac roedd angen gwellt cysgod. Neu efallai bod grym a hierarchaeth yn rhan o’u bywyd. Mae nodweddion amlwg iawn y bryngeyrydd yn amlwg hyd heddiw.
2000 o flynyddoedd yn ôl
yr Oes Rufeinig
Datblygodd yr 20fed Leng, a leolwyd yng Nghaer, anheddiad bychan ym Mhrestatyn ar gyfer cloddio am blwm gan adael tystiolaeth ar eu hôl- fel y Baddondy. Efallai eu bod yn cloddio am blwm tua’r de yn Nyffryn yr Afon Alun hefyd, ac mae rhai awgrymiadau bod ffordd Rufeinig yn croesi’r Bryniau ym Mwlch Pen Baras (Moel Famau) gan anelu am yr anheddiad Rhufeinig yn Rhuthun. Dyfalu yn unig y gallwn am farn pobl y bryngeyrydd cyfagos am y Rhufeiniaid, ond cafwyd arian mân a chrochenwaith yno.
1500 o flynyddoedd yn ôl
y Canol Oesoedd
Ar ôl i’r Rhufeiniaid gilio draw, daeth y Canol Oesoedd. O’r 11eg ganrif ymlaen roedd Bryniau Clwyd yn ffin naturiol rhwng ardaloedd mwy Seisnig eu dylanwad tua’r dwyrain a mwy Cymreig tua’r gorllewin.
Dechreuodd patrwm yr eglwysi sydd ohoni heddiw ledu ledled y Bryniau. Mae eglwysi nodweddiadol â dau gorff eglwys ynddynt fel yn Llanarmon, Llandyrnog, Llangynhafal a Chilcain yn rhai cyntaf i’w sefydlu, ond mae rhai sy’n symlach hefyd fel yr eglwys fach adfeiliedig yn Llanbedr.
O ddiwedd yr 13ganrif, i ddechrau’r 20fed eiddo Castell Rhuthun oedd ardal eang yng nghanol Bryniau Clwyd. Ffermwyr a masnachwyr fyddai’n arfer defnyddio llawer o’r llwybrau drwy’r Bryniau.
150 o flynyddoedd yn ôl
yr Oes Ddiwydiannol
Bu’r Chwyldro Diwydiannol yn ddylanwad mawr ar y dirwedd. Yn ystod y 18fed a’r 19fed ganrif datblygodd cloddfeydd plwm yn ardaloedd calchfaen Bryn Prestatyn, Dyserth a Dyffryn yr Alun. Dyma fro oedd yn ferw o bobl, sŵn, llygredd a chynhyrchu. Am gyfnod byr fe gloddiwyd am aur yn ymyl Cilcain ond ni fu yma ddigon i wneud ffortiwn i unrhyw un.
Bu pobl wrthi’n chwarela fyth ers iddynt ddechrau codi tai cerrig a ffiniau caeau, ac mae chwarela’n parhau hyd heddiw. Dinistriwyd rhannau mawr o Foel Hiraddug, bryngaer oes yr haearn, yn y gogledd gan chwarelau a chloddfeydd Cobalt. Cloddiwyd am haearn ym Mryniau Clwyd, ym Modfari a Marian Cwm. Defnyddiwyd injan stem yn y diwydiannau hyn, ond roedd pŵer dwr yn hanfodol hefyd. Mae llwybr poblogaidd y Leete o Barc Gwledig Loggerheads yn dilyn sianel sy’n 3 milltir o hyd. Roedd hwn yn cyrchu dŵr o’r Afon Alun i yrru’r mwyngloddiau yn Rhyd-y-mwyn.
1985
Dynodir Bryniau Clwyd yn ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol, ynghyd ag Arfordir Môn, Penrhyn Llyn, penrhyn Gwyr, Dyffryn yr Afon Wy a’r tri pharc cenedlaethol, Eryri, Arfordir Sir Benfro, Bannau Brycheiniog yn dirweddau gorau Cymru.

Rhoi adborth ar y tudalen hon