Ystyrir fod yr Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol ymysg tirweddau gorau Prydain, ac ynghyd â’r Parciau Cenedlaethol mae eu nodweddion arbennig yn cynrychioli rhannau mwyaf gwerthfawr ein cefn gwlad.
Ffurfia Bryniau Clwyd gadwyn 35km o hyd o’r gogledd i’r de gan ymestyn i 160 km sgwar a 554 m, ar gopa Moel Famau yng nghanol yr ardal. Ymestynna’r bryniau o Ddyffryn Clwyd yn y gorllewin i odre bryniau Aber yr Afon Ddyfrdwy yn y dwyrain; o Fryn Prestatyn yn y gogledd i fwlch Nant y Garth yn y de.
Mae i’w weld ar ei orau o Ddyffryn Clwyd, ac mae’r rhostir mynyddig o rug ar y gefnen yn edrych dros y caeau gyda’u gwrychoedd a’r coedlannau ar y llethrau isaf. Mewn ambell le, mae’r brigiadau o galchfaen yn agored yn y tarenni coediog deniadol ar ymylon yr ardal, ac mae’r tir amaeth sy’n gyfoethog dros ben yn rhoi gwedd fugeiliol dlws i’r bryniau.
Yn draddodiadol, bu’r AHNE yn gyrchfan diwrnod allan i bobl glannau Merswy a Sir Caer. Derbyniodd dau Barc Gwledig Loggerheads a Moel Famau lawer iawn o ymwelwyr Mae Llwybr Cenedlaethol Clawdd Offa yn dilyn y gefnen bron ar ei hyd.
Ceir gwefan wych am Fryniau Clwyd AHNE. Defnyddiwch y ddolen ar y llaw chwith.

Rhoi adborth ar y tudalen hon